Mae ‘Rural Office’ yn bractis sydd wedi ennill gwobrau ac sydd ag enw da am gyflwyno pensaernïaeth ystyriol ynghyd a meddylfryd ac ymchwil strategol. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’r cwmni wedi arallgyfeirio i gyflawni prosiectau strategol ar gyfer cleientiaid a sefydliadau dysgu cenedlaethol, yn ogystal â gwneud ymchwil i’r amgylchedd adeiledig gyda diddordeb penodol mewn cyd-destun Cymreig.