Elusen annibynnol yw Cyngor Celfyddydau Cymru, ac fe’i sefydlwyd drwy Siarter Frenhinol ym 1994. Mae’r cyllid rydyn ni’n ei ddosbarthu yn dod oddi wrth Lywodraeth Cymru a’r Loteri Genedlaethol. Mae’r rhan fwyaf o’n cyllid yn mynd i artistiaid a sefydliadau celfyddydol sy’n gwneud rhaglenni o waith ledled Cymru. Weithiau rydyn ni hefyd yn cynnal ein prosiectau ein hunain, yn arbennig lle mae’r rhain yn archwilio meysydd newydd o weithgarwch celfyddydol neu’n ein helpu i ddwyn perswâd ar sefydliadau eraill i ddangos diddordeb yn y celfyddydau.