Gweledigaeth Theatr Genedlaethol Cymru yw creu theatr Gymraeg fel man i ddod ynghyd, i gysylltu’r adnabyddus a’r annisgwyl, Cymreictod a’r byd, i drafod yn ddwys ac i godi’r galon. Maent yn creu theatr deithiol genedlaethol sy'n rhoi Cymru a’i phobl ar y map, yn agored ac yn groesawgar i bawb, gan sicrhau dyfodol disglair i’n hiaith a’n diwylliant.