DIGWYDDIAD
Taith o'r Egin i ddysgwyr Cymraeg | Tour of Yr Egin for Welsh learners
16 Hydref 2024
18:00
Yr Egin
Dewch i fwynhau taith arbennig o'r Egin ar gyfer dysgwyr Cymraeg, fel rhan o Wythnos Dathlu Dysgu!
Mae'r daith ar gyfer dysgwyr Sylfaen+, ac yn un hwylus ac ymlacedig.
I ddechrau'r noson, mi fydd yna groeso hyfryd yn aros amdanoch, a chyflwyniad i amcanion Yr Egin, hanes sefydlu'r ganolfan a'r hyn sydd wedi ei gyflawni hyd yma.
Yna, cewch daith tywys o'r Galon i'r Stiwdio Fach, o'r ardal ôl-gynhyrchu i'r stiwdio sgrîn werdd. Yna, ymlaen i'r llawr cynta, lle mae pencadlys S4C, ac i fyny i'r ail lawr, lle mae amryw o gwmnïau sydd wedi ymgartrefu yn y ganolfan.
Cewch glywed am yr amrywiaeth o ddigwyddiadau, gweithdai a ffilmio rhaglenni sy'n digwydd yma, gyda digon o gyfleoedd i holi cwestiynau a chael golwg go iawn o gwmpas Yr Egin.
Mae yna lifft yn yr adeilad, yn ogystal a grisiau, felly mae'r daith o gwmpas yr adeilad yn agored ac yn hygyrch i bawb