Antur Yr Egin
5th Mawrth 2021 6:00 pm - 7th Mawrth 2021 - 11:00 pm

5-7 Mawrth, 2021
Mae’r Egin yn gyffrous iawn i gyflwyno am y tro cynta’ erioed gŵyl ffilm Antur Yr Egin.
Dathliad yw’r ŵyl o ffilmiau awyr agored sy’n ysbrydoli, arddangos rhyfeddodau natur ac wrth gwrs tanio’r adrenalin. Bydd yn gyfle i wylio ffilmiau o Gymru a llefydd anhygoel eraill a chlywed gan y rhai o flaen a thu ôl y camera.
47 Copa, ffilm enillodd y wobr am Ffilm Antur Orau yng Ngŵyl Ffilm Mynydda Llundain bydd yn cychwyn y cyfan ar nos Wener y 5 o Fawrth, gyda sesiwn holi ac ateb gyda’r gwneuthurwyr i ddilyn.
Yn ystod y penwythnos bydd yna sesiynau gyda panelwyr profiadol yn rhannu cyngor a chyfrinachau, cyfle i weld ffilmiau cyffrous gwneuthurwyr ifanc ac i chi eistedd nôl ac edmygu’r golygfeydd.
Rhaglen lawn a tocynnau yn fyw cyn hir!
Cefnogwyd yr ŵyl ffilm yma gan Ffilm Cymru Wales