Nadolig Deian a Loli

24-12-2019 11:30

Deian a Loli

Dewch i ddechrau dathliadau’r ŵyl yma yn Yr Egin gyda premiere o Nadolig Deian a Loli. 

Mae hi’n noswyl Nadolig, ac mae Deian a Loli ar dân eisiau agor eu hanrhegion ac yn rhedeg o gwmpas fel pethau gwyllt gan achosi llanast llwyr!

Ond mae ‘na lygaid bach craff yn eu gwylio o’r grisiau – Celyn a Telyn y coblynnod! Does dim amdani ond mynd ar wib i Begwn y Gogledd i geisio atal y coblynnod rhag dweud y cyfan wrth Siôn Corn.

Ond mae rhywbeth – neu rhywun – llawer iawn gwaeth yn aros amdanyn nhw yng nghaban Siôn Corn, sy’n peryglu’r Nadolig i holl blant y byd!

Am ddim ond rhaid archebu tocyn!

LLAWN! Diolch am eich diddordeb, mae’r sioe yma bellach yn llawn, os hoffech ymuno gyda’r rhestr aros ffoniwch 01267 611 600 neu ebostio helo@yregin.cymru, diolch.

ADD TO YOUR CALENDAR
No Seat Available