Swydd: Cynorthwy-ydd 'Y Gegin'

Rydym yn chwilio am Gynorthwy-ydd Arlwyo i weithio yn ein caffi - 'Y Gegin'.

Dyddiad Cau: 18 Ionawr 2023

Wage: Voluntary Living Wage

Gwnewch gais yma.

________________________________________________________

Mae’r caffi sydd wedi’i leoli ar lawr gwaelod yr Egin yn ofod agored a chroesawgar ac yn rhan bwysig o fywiogrwydd y ganolfan, a bydd Cynorthwy-ydd Arlwyo (Barista) yn Y Gegin yn chwarae rhan bwysig wrth gynnal croeso ac awyrgylch y caffi er mwyn denu a chadw ymwelwyr.

Bydd gofyn i ddeiliad y swydd baratoi coffi a diodydd poeth arbenigol, a gweini prydau o ansawdd uchel, gan ddarparu gofal cwsmer effeithiol. Mae gan Y Gegin gwsmeriaid amrywiol megis y gymuned greadigol sy'n gweithio yn y ganolfan, cynulleidfaoedd digwyddiadau a chynrychiolwyr y Brifysgol, myfyrwyr a staff, yn ogystal â’r gymuned leol, teuluoedd ac ymwelwyr, ac felly bydd angen i’r Cynorthwy-ydd allu i gyfathrebu'n gwrtais a chynnig profiad a fydd yn annog y cwsmer i ddychwelyd dro ar ôl tro.

Mwy o wybodaeth a sut i ymgeisio yma.

Tanysgrifiwch i'n Cylchlythyr

Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyrau i dderbyn y newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau sydd ar ddod. 

Rydych chi wedi tanysgrifio yn llwyddiannus!