Cyfleusterau ôl-gynhyrchu

Mewn cornel cyfforddus o’r ganolfan greadigol, mae’r cyfleusterau llun a sain sy’n meddu ar yr offer a’r fersiynau diweddaraf fel y gwelwch isod.

Mae ein staff cyfeillgar, sy’n gweithio ochr yn ochr â Gorilla TV (cwmni cyfleusterau ôl-gynhyrchu mwyaf Cymru), yn barod i’ch cynorthwyo i wneud eich prosiect cyfredol yr un gorau eto.

Mae’r holl ystafelloedd yn cynnwys:

  • llogi offer yn unig neu gyda pheiriannydd profiadol.
  • wedi’i gysylltu â storfa Avid Nexus
  • wedi’u rhwydweithio gyda’i gilydd trwy NDI a Dante ar gyfer defnydd byw

Cysylltwch â jason@yregin.cymru am ragor o wybodaeth ac i drafod archebu.

 

 

Ystafell Olygu Avid

Gweithle Avid 4k, sy’n addas ar gyfer Cyfnewid Ar-lein ac All-lein a Graddio Lliw gyda storfa Avid Nexus.

 

 

Stiwdio Lleisio Pro Tools

Stiwdio Lleisio Manylder Uwch gyda caban trosleisio â sain amgylchynol 5.1. Gellir ei ddefnyddio ar gyfer gosod traciau, cymysgu, lleisio ac ADR. Caiff ei bweru gan Mac Pro a’i reoli gyda’r Avid S3 a Doc Pro Tools.

 

 

Oriel Tricaster TC1  / Avid 2

Mae Oriel Tricaster TC1 ar gyfer gwaith byw sy’n gallu ffrydio’n aml-gamera i amrywiaeth o lwyfannau ar y we. Yn gysylltiedig â’r TC1 mae 4 camera Panasonic PTZ 4K a system intercom ar gyfer cyfarwyddo a gweithredwyr camera ac ati.

Gellir defnyddio’r ystafell hon hefyd fel ail ystafell olygu.

Er mwyn archebu, nodwch fanylion, ac fe wnewn ni gysylltu’n fuan.