
Rydym yn edrych am Reolwr ar gyfer caffi Yr Egin – ‘Y Gegin’.
Dyddiad cau: 24 Ionawr 2023
Cyflog: £27,929 i £31,411 y flwyddyn
Ymgeisiwch ar wefan Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant YMA.
____________________________________
Cyfrifoldeb Rheolwr Y Gegin fydd cadw’r amgylchedd yn lân a thaclus gyda o leiaf lefel 4 o Radd Hylendid Bwyd. Disgwylir i’r Rheolwr osod arferion a gweithdrefnau cadw tŷ o’r safon uchaf sy’n gynaliadwy yn amgylcheddol gan gadw cofnodion a sicrhau bod canllawiau yn cael eu dilyn mewn modd amserol. Ar hyn o bryd gellir eistedd 46 yng ngofod y caffi ei hun, 20 ychwanegol ar ochr y dderbynfa a 18 tu fas a bydd gofyn i’r Rheolwr ystyried ffyrdd o ddatblygu’r wasanaeth ymhellach.
Darllenwch y Swydd-ddisgrifiad i gael rhagor o wybodaeth, lle cewch hefyd restr o feini prawf hanfodol a dymunol ‘Manyleb y Person’.
Ceir disgrifiad swydd lawn a manylion ymgeisio ar wefan Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.