
Swydd: Swyddog Cyfathrebu a Chynnwys Digidol
Rydym yn edrych am Swyddog Cyfathrebu a Chynnwys Digidol i ymuno â’r tîm yma yn Yr Egin!
Dyddiad cau: 1 Mehefin 2022
Lleoliad: Yr Egin, Caerfyrddin
Cyflog: Graddfa 5, £27,116 – £30,497 pro rata y flwyddyn
Oriau: Amser Llawn, 37 awr yr wythnos
Ymgeisiwch ar wefan Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant YMA
Rôl y Swyddog Cyfathrebu a Chynnwys Digidol fydd datblygu ar y seiliau cadarn a osodwyd eisoes trwy
ddefnydd medrus o ddulliau digidol gan gyfathrebu’n effeithiol a chreu cynnwys ar gyfer y cyfryngau
cymdeithasol a phlatfformau digidol.
Bydd deilydd y swydd yn gyfrifol am ddarganfod ffyrdd amrywiol a dychmygus o gyfathrebu a hyrwyddo
cynnig eang y Ganolfan, sy’n cynnwys :
• y rhaglen artistig a phrosiectau creadigol
• y gymuned greadigol â digwyddiadau rhyngweithio i’r sector sgrîn
• cyrsiau hyfforddiant a chyfleon addysgiadol
• adnoddau’r ganolfan sy’n cynnwys gofodau cynhyrchu a chydweithio
Disgwylir i’r Swyddog Cyfathrebu a Chynnwys Digidol gyfrannu yn effeithiol at dwf Yr Egin fel clwstwr
creadigol llwyddiannus yn ystod y cyfnod ôl-Covid gan weithredu’r weledigaeth gyffrous a osodwyd gan
y Brifysgol ar gyfer creu manteision yng Nghaerfyrddin a Dinas-ranbarth Bae Abertawe a thu hwnt.
Ceir disgrifiad swydd lawn a manylion ymgeisio ar wefan Y Drindod Dewi Sant