{"id":244581,"date":"2021-05-24T20:30:00","date_gmt":"2021-05-24T19:30:00","guid":{"rendered":"https:\/\/yregincymru-staging-3.onyx-sites.io\/?p=244581"},"modified":"2026-04-08T13:11:34","modified_gmt":"2026-04-08T13:11:34","slug":"a-music-producer-and-composer-from-carmarthenshire-has-hailed-the-strength-of-the-creative-sector-in-south-west-wales","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/a-music-producer-and-composer-from-carmarthenshire-has-hailed-the-strength-of-the-creative-sector-in-south-west-wales\/","title":{"rendered":"Mae cyfansoddwr a chynhyrchydd cerddoriaeth o Sir Gaerfyrddin wedi canmol cryfder y sector creadigol yn Ne-orllewin Cymru."},"content":{"rendered":"<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/yregin.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/10\/SteffanRhysWilliams-1024x681.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-244965\"\/><\/figure>\n\n\n\n<p><\/p>\n\n\n\n<p>Yn ganolog i hynny, ac wedi\u2019i lleoli ar gampws Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin, mae Canolfan S4C Yr Egin, sy\u2019n ysbrydoli creadigrwydd a dychymyg, gan feithrin talent i\u2019r dyfodol.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Yn \u00f4l Steffan Rhys Williams, sydd \u00e2 stiwdio gerddoriaeth yn y ganolfan, mae\u2019r Egin yn darparu cyfuniad o gyfleusterau o\u2019r radd flaenaf a chyfleoedd i rwydweithio gyda gweithwyr proffesiynol eraill yn y sector creadigol.<\/p>\n\n\n\n<p>Dros yr 20 mlynedd ddiwethaf, mae Steffan wedi bod yn gweithio ym maes cyfansoddi a chynhyrchu cerddoriaeth ar gyfer y teledu a\u2019r cyfryngau. Mae ei gredydau amrywiol yn cynnwys gweithio fel cyfarwyddwr cerdd ar raglen \u2018Songs of Praise\u2019 BBC1, cyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer \u2018Time Team\u2019 ar Channel 4, ac oriau o gerddoriaeth, sain a chaneuon cofiadwy iawn ar gyfer gwasanaeth dyddiol \u2018Cyw\u2019 S4C i wylwyr iau, gan gynnwys y rhaglen \u2018Rapsgaliwn\u2019 a enillodd wobr BAFTA. Ymhlith ei waith diweddar mae \u2018Save our Cinema\u2019 \u2013 ffilm sydd ar y gweill ar gyfer Sky Arts yngl\u0177n ag ymgyrch yn y 1990au i achub Theatr y Lyric yng Nghaerfyrddin.<\/p>\n\n\n\n<p>Meddai Steffan: \u201cMae\u2019r sector creadigol wedi bod yn gryf iawn yn Ne-orllewin Cymru ers nifer o flynyddoedd, ond yr un peth oedd ar goll oedd canolfan i ddod \u00e2 llawer o dalent y sector creadigol at ei gilydd. Newidiodd hynny gydag agor Yr Egin, ac ni allaf ganmol ansawdd y cyfleusterau a\u2019r profiad yma ddigon.  Mae\u2019n ganolfan o\u2019r radd flaenaf ac mae rhai o dalentau gorau Cymru\u2019n cytuno!\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>Ymhlith y nifer o gleientiaid byd-enwog sy\u2019n cyd-fynd \u00e2\u2019r farn hon y mae Syr Bryn Terfel a ganmolodd ei brofiad yn recordio yn Yr Egin: \u201cPleser llwyr oedd ymlwybro drwy'r Egin ac i stiwdio Steff. Cyfleusterau heb ei hail ac awyrgylch gweithio rhadlon braf sydd yn ategu at safon y deunydd. Heb anghofio y paneidia!!\"<\/p>\n\n\n\n<p>Ac yntau\u2019n gyn-ddisgybl yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin, mae Steffan sy\u2019n 43 oed, yn meddu ar radd mewn theatr, cerdd a\u2019r cyfryngau o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.<\/p>\n\n\n\n<p>Cyn symud i faes cyfansoddi a chynhyrchu theatr, bu Steffan yn gweithio fel canwr.  Bu\u2019n teithio\u2019n helaeth fel perfformiwr yn y Deyrnas Unedig, gan ymddangos ar y teledu a radio gyda s\u00ear megis Joe Cocker, Michael Bolton, Blue, The Sugarbabes a Beverley Knight. Ymddangosodd hefyd ar Top of the Pops, a bu\u2019n canu \u2018jingls\u2019 ar gyfer sioe frecwast Chris Moyles ar BBC Radio 1.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn \u00f4l Steffan, mae canolfan Yr Egin mewn sefyllfa dda i ysbrydoli\u2019r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol yn y sector creadigol yn Ne-orllewin Cymru.<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cMae cyflymder y cysylltiad \u00e2\u2019r rhyngrwyd yn Yr Egin a\u2019r galluoedd i rwydweithio yno yn anhygoel.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cGellir cael cerddorfeydd llinynnol yn y ganolfan, ac mae ansawdd y caledwedd a\u2019r feddalwedd sydd ar gael y tu hwnt i gyllideb unrhyw un sy\u2019n gweithio gartref.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cDrwy gydol y pandemig, mae ansawdd y fideos Zoom a gynhyrchwyd gan Yr Egin ymhlith y rhai mwyaf proffesiynol a welwch chi erioed. Mae gweithio\u2019n ymarferol gyda\u2019r offer yn y ganolfan mor fuddiol i unrhyw un yn y sector creadigol.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cGyda chymaint o dalent o\u2019r sector creadigol yn y ganolfan, ceir cyfle i gysylltu drwy sgwrs fach yn y coridor, ac mae\u2019r Egin hefyd yn rhoi cyfle i bobl leol wneud cynhyrchiad proffesiynol.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>According to actor Owen Teale: \"Working with Steff on a voiceover for Deliveroo was a pleasure, he was very accommodating and the studio facility rivalled that of the London studio's that I have worked at\".&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r cerddor a\u2019r cyflwynydd teledu a radio Caryl Parry Jones hefyd wedi canmol y lleoliad: \u201cDydi gweithio hefo Steff yn ei stiwdio byth yn waith. Mae\u2019n brofiad hapus, ysbrydoledig a phositif bob tro. Mae\u2019r stiwdio\u2019n fodern, yn gyffyrddus ac yn llawn o\u2019r offer recordio gorau yn y busnes. Does dim yn ormod o drafferth iddo ac mae\u2019r gwaith gorffenedig wastad o\u2019r safon uchaf. Mae egni Steff yn heintus. Mae hefyd yn gerddor tu hwnt o dalentog ac yn gynhyrchydd pengamp  ac ar ben hyn oll yn sicrhau cynnyrch o ansawdd gwych. Hyn oll yng Nghanolfan ragorol yr Egin gyda\u2019i chyfleusterau arbennig.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>Meddai Steffan: \u201cMae fy mab 12 oed yn angerddol iawn yngl\u0177n \u00e2 cherddoriaeth, felly mae Yr Egin yn wych iddo fe. Byddai\u2019n dda gen i pe bawn i wedi cael canolfan tebyg iddi mor agos i\u2019m cartref yn blentyn.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>Mae pencadlys S4C a nifer o fusnesau eraill yn y sector creadigol hefyd wedi\u2019u lleoli yn Yr Egin.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn ogystal \u00e2 gofod swyddfa a chyfleusterau recordio cerddoriaeth o ansawdd uchel, mae gan Yr Egin sgrin werdd o\u2019r radd flaenaf a chyfleusterau dethol lluniau, ynghyd \u00e2  mannau desgiau poeth a chysylltiadau helaeth o fewn cymuned greadigol y rhanbarth.<\/p>\n\n\n\n<p>Dylai busnesau yn y sector creadigol sy\u2019n awyddus i gael rhagor o wybodaeth anfon e-bost at Gyfarwyddwr Yr Egin, Carys Ifan ar <a href=\"mailto:Carys.Ifan@uwtsd.ac.uk\">Carys.Ifan@uwtsd.ac.uk<\/a>&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Mae cynlluniau ar y gweill hefyd ar gyfer ail gam Yr Egin. Mae\u2019n un o naw o brosiectau a rhaglenni yn Ninas-Ranbarth Bae Abertawe sy\u2019n cael eu hariannu\u2019n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe \u2013 buddsoddiad o hyd at \u00a31.3 biliwn sy\u2019n werth o leiaf \u00a31.8 biliwn a dros 9,000 o swyddi i\u2019r rhanbarth yn y blynyddoedd sydd i ddod.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Wedi\u2019i hariannu gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus a\u2019r sector preifat, mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn cael ei harwain gan Gyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Penfro a Chyngor Abertawe mewn partneriaeth \u00e2 Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Prifysgol Abertawe, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.<\/p>\n<span class=\"et_bloom_bottom_trigger\"><\/span>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"","protected":false},"author":1,"featured_media":247825,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[13],"tags":[],"class_list":["post-244581","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-news"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/244581","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=244581"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/244581\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":254007,"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/244581\/revisions\/254007"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/247825"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=244581"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=244581"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=244581"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}