{"id":244589,"date":"2021-10-07T20:33:00","date_gmt":"2021-10-07T19:33:00","guid":{"rendered":"https:\/\/yregincymru-staging-3.onyx-sites.io\/?p=244589"},"modified":"2026-04-08T13:11:35","modified_gmt":"2026-04-08T13:11:35","slug":"s4c-yr-egins-new-garden-to-give-nature-a-helping-hand","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/s4c-yr-egins-new-garden-to-give-nature-a-helping-hand\/","title":{"rendered":"Gardd newydd Canolfan S4C Yr Egin i roi help llaw i natur"},"content":{"rendered":"<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/yregin.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/11\/Blaguro-1024x576.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-244923\"\/><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae Canolfan S4C Yr Egin wedi cael pecyn gardd newydd gan yr elusen amgylcheddol Cadwch Gymru\u2019n Daclus.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Maent yn un o\u2019r sefydliadau cyntaf yn y wlad i elwa ar gynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur eleni.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bydd Yr Egin yn creu gardd tyfu bwyd ar dir y ganolfan.  Mae\u2019r planhigion, offer a\u2019r deunyddiau i gyd yn cael eu darparu yn rhad ac am ddim gan Cadwch Gymru\u2019n Daclus.  Bydd y pecyn yn gyfle gwych i Yr Egin fedru arwain yn lleol drwy ddangos arferion da i\u2019r amrywiaeth o grwpiau cymunedol sy\u2019n cydweithio gyda\u2019r ganolfan.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Drwy gydweithio gyda un o brosiectau presennol Yr Egin, \u2018Blaguro\u2019, bydd y pecyn yn fodd o allu ehangu\u2019r prosiect hwnnw drwy gynnig mwy o gyfleoedd i\u2019r grwpiau a mudiadau cymdeithasol sy\u2019n cydweithio gyda\u2019r ganolfan i dyfu llysiau ar y safle.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn ogystal, bydd yr ardd yn ofod i\u2019r gymuned greadigol sy\u2019n gweithio yn Yr Egin, ac yn leoliad perffaith ar gyfer myfyrwyr a staff y Brifysgol i ymlacio ac i fwynhau\u2019r awyr iach.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dywedodd Llinos Jones, Swyddog Prosiect Ymgysylltu Yr Egin: \u201cRydym yn hynod falch a diolchgar o dderbyn y pecyn gwerthfawr yma gan Cadwch Gymru\u2019n Daclus, bydd hyn yn ein galluogi i weithio yn agos a chymunedau Caerfyrddin gan roi cyfleoedd i bobol weithio a phrofi natur ar ei stepen drws.   Gydag offer o safon, ac mewn awyrgylch saff a chreadigol.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Y llynedd, cafodd dros 500 o erddi bach ar hyd a lled Cymru eu creu, eu hadfer a\u2019u gwella.  Cymerodd grwpiau cymunedol a sefydliadau o bob math a maint ran \u2013 o elusennau anabledd a grwpiau ieuenctid i fentrau cymdeithasol a grwpiau gofalwyr.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dywedodd Louise Tambini, Dirprwy Brif Weithredwr Cadwch Gymru\u2019n Daclus:<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">\u201cYn ystod y deuddeg mis, mae mwy o bobl nag erioed wedi dod i werthfawrogi gwerth natur ar eu stepen drws.  Ond mae\u2019n rhaid gweithredu ar frys i wrthdroi ei ddirywiad.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">\u201cRydym wrth ein bodd bod Yr Egin wedi cael y cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol trwy Leoedd Lleol ar gyfer Natur.  Ein gobaith yw y bydd cymunedau eraill yn cael eu hysbrydoli i gymryd rhan.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae\u2019r fenter yn rhan o gronfa ehangach \u2018Lleoedd Lleol ar gyfer Natur\u2019 Llywodraeth Cymru, sydd wedi ymrwymo i greu, adfer a gwella natur \u2018ar ein stepen drws\u2019.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae cannoedd o becynnau gardd am ddim ar gael.  I wneud cais, ewch i wefan Cadwch Gymru\u2019n Daclus <a href=\"http:\/\/www.keepwalestidy.cymru\/Pages\/Site\/cy\/Category\/natur\">www.keepwalestidy.cymru\/natur<\/a>&nbsp;&nbsp;&nbsp;<\/p>\n<span class=\"et_bloom_bottom_trigger\"><\/span>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"","protected":false},"author":1,"featured_media":247823,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[13],"tags":[],"class_list":["post-244589","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-news"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/244589","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=244589"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/244589\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":254011,"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/244589\/revisions\/254011"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/247823"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=244589"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=244589"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=244589"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}