{"id":244593,"date":"2021-10-11T20:33:00","date_gmt":"2021-10-11T19:33:00","guid":{"rendered":"https:\/\/yregincymru-staging-3.onyx-sites.io\/?p=244593"},"modified":"2026-04-08T13:11:35","modified_gmt":"2026-04-08T13:11:35","slug":"former-uwtsd-student-settles-in-at-yr-egin","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/former-uwtsd-student-settles-in-at-yr-egin\/","title":{"rendered":"Cyn Fyfyriwr y Drindod Dewi Sant yn ymgartrefu yn Yr Egin"},"content":{"rendered":"<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/yregin.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/10\/image001.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-244597\"\/><\/figure>\n\n\n\n<p><strong>Mae un o gyn fyfyrwyr Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant wedi agor swyddfa newydd i'w gwmni yng Nghanolfan S4C Yr Egin.<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p><em>Carlam Production Company (from left to right): Neve Austin - Davies (Researcher),&nbsp; Artie Thomas (Production Manager), Euros Ll\u0177r Morgan (Company Owner), Wil Williams (Editor &amp; Camera)<\/em><\/p>\n\n\n\n<p>Penderfynodd y cynhyrchydd ifanc 24 mlwydd oed Euros Ll\u0177r Morgan sy\u2019n berchennog ar gwmni cynhyrchu Carlam, symud i Ganolfan S4C Yr Egin sydd wedi\u2019i lleoli ar gampws Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin er mwyn bod yn rhan o gymuned sy\u2019n ysbrydoli creadigrwydd a dychymyg.<\/p>\n\n\n\n<p>Meddai Euros, \u201c Wrth i gwmni Carlam dyfu a datblygu, roeddwn yn ymwybodol byddai cael swyddfa yn Yr Egin yn agor drysau i mi. Ers symud yma, dwi wedi llwyddo i greu nifer o gysylltiadau newydd sydd wedi dod a chyfleoedd gwaith ychwanegol i mi yn ogystal. Mae\u2019r Egin yn leoliad sy\u2019n fy ngalluogi i ddatblygu, ac i ddysgu rhywbeth newydd pob dydd. Rwy\u2019n hynod o ddiolchgar i\u2019r Brifysgol, i Ganolfan S4C Yr Egin ac i bawb sydd wedi fy helpu i fedru gwireddu hyn o'r cwmn\u00efau i'r unigolion\u2013 yn enwedig Amanda Harries, Artie Thomas a Rowena Griffin. Hebddyn nhw ni fyddai wedi bod yn bosib i Carlam dyfu i le mae erbyn hyn\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r Egin yn darparu cyfuniad delfrydol o gyfleusterau, cysylltedd ac anodau o\u2019r radd flaenaf gan gynnwys cyfleusterau sgrin werdd a dethol lluniau, ffrydio byw, recordio cerddoriaeth a throsleisio ynghyd \u00e2 mannau desgiau poeth a chysylltiadau helaeth o fewn cymuned greadigol y rhanbarth.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae cysylltiad Euros \u00e2\u2019r Drindod Dewi Sant yn dyddio n\u00f4l i 2015 pan oedd yn astudio\u2019r cwrs BA Perfformio. Llwyddodd y cwrs i ddatblygu ei hyder ac i ddarparu cysylltiadau gyda phobl o\u2019r diwydiant.<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cBu\u2019r cwrs BA Perfformio yn gyfle perffaith i mi fedru gwireddu fy mreuddwyd i weithio ym myd y cyfryngau. Yn ystod fy mlwyddyn ola\u2019, fe wnes i gynhyrchu dogfen ar gyfer fy mhrosiect personol am filfeddygon ceffylau, a oedd yn cyfuno elfennau o\u2019r modiwlau Ffilm a Theledu a Throsleisio o\u2019r cwrs. Ar \u00f4l cwblhau\u2019r prosiect, cefais fy annog i \u2018bitsio\u2019r\u2019 syniad i\u2019r BBC, a bues i\u2019n ddigon ffodus o ennill fy nghomisiwn cynta\u2019. Mae\u2019r gyfres \u2018Only Foals and Horses\u2019 erbyn hyn yn cael ei werthu i sianeli yn fyd eang. Diolch i\u2019r cwrs am fy ngalluogi i wneud hyn, ac i\u2019m hannog i ddechrau cwmni Carlam.\u201d<em>Only Foals and Horses\u2019 <\/em>has now been sold to channels worldwide. I am indebted to the course for enabling me to do this, and for encouraging me to start my company, Carlam.\"<\/p>\n\n\n\n<p>Cychwynnodd dyhead Euros i weithio ym myd y cyfryngau yn 2012 tra\u2019n rhedwr yng nghylch y ceffylau ar gyfer rhaglenni S4C o\u2019r Sioe Frenhinol ac mae\u2019n angerddol yngl\u0177n \u00e2 chynnig profiadau i bobl ifanc ddatblygu a chael profiadau trwy Carlam. Ers i gwmni Carlam agor swyddfa yn Yr Egin, mae nifer o staff ifanc o Orllewin Cymru wedi ymuno \u00e2\u2019r t\u00eem i gynorthwyo Euros gyda gwaith ymchwil, saethu a golygu.<\/p>\n\n\n\n<p>Much of Carlam\u2019s success has emanated from Euros\u2019 background in breeding Welsh Ponies and Cobs, for example '<em>The City of Horses' <\/em>\u2013 an enthralling programme that recently appeared on the BBC One Network following the unique horse keeping characters of the Swansea Valley. Also not forgetting the artistic production about the creation process of the unique Welsh cob sculpture at the Showground at Llanelwedd, <em>'Siwrne'r Bedol'<\/em>, and the harrowing programme for S4C following an undertaker during lockdown, <em>'Drych: Galar yn y Cwm'<\/em> .<\/p>\n\n\n\n<p>Over the last three months, Euros has been extremely busy producing and preparing material in conjunction with Yr Egin for the new local television platform \u2018Shwmae Sir G\u00e2r' which can be found on social media.<\/p>\n\n\n\n<p>O sefydlu busnes ei hun, cynhyrchu comisiynau llwyddiannus i logi swyddfa a chyflogi staff, mae\u2019r hyn mae Euros wedi\u2019i gyflawni mewn cyfnod byr o amser ers iddo raddio yn dangos brwdfrydedd, mentergarwch ac ysfa i lwyddo ym myd y cyfryngau, a hynny drwy aros yn Ne Orllewin Cymru.<\/p>\n\n\n\n<p>Ychwanegodd Euros,<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cDim Euros yw Carlam erbyn hyn, ond t\u00eem o bobl hollol anhygoel, ac rwy\u2019n edrych ymlaen at weld teulu Carlam yn datblygu a thyfu dros y misoedd nesa\u2019.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>Dywedodd Carys Ifan, Cyfarwyddwr Yr Egin:<\/p>\n\n\n\n<p>Dywedodd Carys Ifan, Cyfarwyddwr Yr Egin, \u201cCydleoli cwmn\u00efau creadigol a digidol oedd nod sefydlu\u2019r Egin ac mae\u2019n bleser mawr croesawu cwmni arall i ymuno \u00e2'r gymuned sydd yma eisoes. Rwy\u2019n sicr y bydd Carlam yn ychwanegu at gyffro\u2019r ganolfan ac mae\u2019n braf iawn gweld cwmni cynhyrchu\u2019n llwyddo ac yn mentro yn ystod y cyfnod heriol yma. Mae Euros wedi cael llwyddiannau arbennig yn y cwta 3 mlynedd ers sefydlu Carlam ac rwy\u2019n edrych ymlaen yn fawr i weld sut bydd y cwmni yn datblygu tua\u2019r dyfodol\u201d.<\/p>\n<span class=\"et_bloom_bottom_trigger\"><\/span>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"","protected":false},"author":1,"featured_media":247845,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[13],"tags":[],"class_list":["post-244593","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-news"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/244593","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=244593"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/244593\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":254013,"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/244593\/revisions\/254013"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/247845"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=244593"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=244593"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=244593"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}