{"id":250337,"date":"2022-03-10T10:58:44","date_gmt":"2022-03-10T10:58:44","guid":{"rendered":"https:\/\/yregin.cymru\/?p=250337"},"modified":"2026-04-08T13:11:37","modified_gmt":"2026-04-08T13:11:37","slug":"director-of-canolfan-s4c-yr-egin-receives-recognition-in-carmarthenshire-county-councils-celebration-of-culture-awards","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/director-of-canolfan-s4c-yr-egin-receives-recognition-in-carmarthenshire-county-councils-celebration-of-culture-awards\/","title":{"rendered":"Cyfarwyddwr Canolfan S4C Yr Egin yn derbyn cydnabyddiaeth yng Ngwobrau Dathlu Diwylliant Cyngor Sir G\u00e2r"},"content":{"rendered":"<p><strong>Mae Cyfarwyddwr Canolfan S4C yr Egin, Carys Ifan wedi derbyn cydnabyddiaeth am ei rhagoriaeth yn y Cyfryngau Creadigol yn seremoni Gwobrau Dathlu Diwylliant Sir Gaerfyrddin a gynhaliwyd o dan nawdd Cyngor Sir G\u00e2r yn Theatr y Ffwrnes, Llanelli, yr wythnos hon.<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r seremoni wobrwyo Dathlu Diwylliant yn digwydd yn flynyddol er mwyn cydnabod y rheiny sy\u2019n cyfoethogi bywydau drwy gerddoriaeth, y celfyddydau, y cyfryngau, llenyddiaeth a threftadaeth. &nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Agorodd Yr Egin yn swyddogol ym mis Hydref 2018 gyda digwyddiad torfol oedd yn brofiad creadigol o\u2019r radd flaenaf yn cyfuno goleuni'r cyfnod newydd gyda hud a dewiniaeth Myrddin a thre hynaf Cymru, hynny oll o dan arweiniad artistig Carys Ifan. Ers hynny mae\u2019r Egin wedi gwreiddio yn nhir a daear Sir G\u00e2r gan effeithio\u2019n gadarnhaol ar ffyniant economaidd yr ardal. Trwy arweinyddiaeth Carys y datblygiad mwyaf arwyddocaol a fu ynghlwm \u00e2\u2019r fenter fu creu cymuned greadigol fyrlymus sy\u2019n ganolbwynt i ddiwydiannau creadigol y sir.<\/p>\n\n\n\n<p>I Carys, mae derbyn clod o\u2019r fath yn fraint o\u2019r mwya\u2019. Dywedodd: <em>\u201cMae cydnabyddiaeth bob amser yn beth braf ac rwyf wrth fy modd yn derbyn y wobr hon. Bellach mae 4 mlynedd ers i mi gael fy mhenodi yn Gyfarwyddwr Canolfan S4C Yr Egin, rwyf wrth fy modd yn arwain y prosiect trawsnewidiol a gweld yn barod yr effaith mae wedi ei gael ar Sir G\u00e2r a\u2019r rhanbarth er waetha heriau\u2019r pandemig. Mae\u2019r r\u00f4l yn cyfuno fy mhrofiad o weithio ym myd teledu, theatr a digwyddiadau byw gyda fy angerdd i greadigrwydd y gorllewin ffynnu gan gyfrannu at greu cymunedau bywiog gyda\u2019r Gymraeg yn rhan naturiol o\u2019n diwylliant boed hynny wyneb i wyneb neu ar-lein. \u00a0<\/em><\/p>\n\n\n\n<p><em>\u201cIt is a pleasure to cooperate with all the companies and individuals who have co-located in Yr Egin, ensuring pathways for the industry and work experience opportunities for new talent as well as developing ambitious digital and virtual projects here in Carmarthenshire. Receiving the award on International Women\u2019s Day makes it even more special and I look forward greatly to the next period and further innovation.\"<\/em><\/p>\n\n\n\n<p>Meddai Gwilym Dyfri Jones, Profost Campws Caerfyrddin a Llambed: <em>\u201cMae\u2019r Brifysgol yn ymfalch\u00efo yn llwyddiant Carys ac yn gwerthfawrogi\u2019n fawr y gwaith rhagorol sydd wedi digwydd yn Yr Egin o dan ei harweiniad. Sefydlwyd Yr Egin yn ganolfan greadigol fyrlymus a lwyddodd i ymgysylltu\u2019n rhagorol \u00e2\u2019r gymuned leol ac ar lefel genedlaethol. Er yr heriau diweddar, mae Carys a\u2019r t\u00eem wedi llwyddo i gynnal a chefnogi\u2019r gymuned o fewn Yr Egin a braf yw gweld y ganolfan yn llawn bwrlwm unwaith yn rhagor erbyn hyn.\u201d<\/em>\"<\/p>\n\n\n\n<p>Bwriad y digwyddiad yw tynnu sylw at bwysigrwydd diwylliant Sir Gaerfyrddin,  yn ogystal ag arddangos yr hyn sy\u2019n cael ei gyflawni ym mhob rhan o\u2019r sir. Tanlinellwyd pwysigrwydd Yr Egin i gyfryngau\u2019r rhanbarth gyda\u2019r tri o\u2019r rhai oedd yn deilwng yn y categori Rhagoriaeth yn y Cyfryngau Creadigol yn ymwneud \u00e2\u2019r Egin sef Sam Turton o gwmni Whisper Cymru a Chlwb Asbri sy\u2019n rhoi cyfle i bobl ifanc ddysgu a defnyddio sgiliau ffilmio a chreu cynnwys digidol. Anrhydeddwyd hefyd Miriam Hughes, myfyrwraig Gwneud Ffilmiau Antur yn y flwyddyn gyntaf am ei llwyddiant yn y categori Rhagoriaeth yn y Celfyddydau Gweledol a Chrefftau.  Mae\u2019r Brifysgol yn dymuno llongyfarch pawb a fu\u2019n gysylltiedig gyda\u2019r gwobrau ac a dderbyniodd glod mor haeddiannol.<\/p>\n<span class=\"et_bloom_bottom_trigger\"><\/span>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"","protected":false},"author":5,"featured_media":250339,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[13],"tags":[],"class_list":["post-250337","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-news"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/250337","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/5"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=250337"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/250337\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":254019,"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/250337\/revisions\/254019"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/250339"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=250337"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=250337"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=250337"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}