{"id":250387,"date":"2022-03-17T11:57:50","date_gmt":"2022-03-17T11:57:50","guid":{"rendered":"https:\/\/yregin.cymru\/?p=250387"},"modified":"2026-04-08T13:11:37","modified_gmt":"2026-04-08T13:11:37","slug":"uwtsd-students-enjoy-work-experience-on-the-series-jonathan","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/uwtsd-students-enjoy-work-experience-on-the-series-jonathan\/","title":{"rendered":"Myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant yn mwynhau profiad gwaith ar y gyfres \u2018Jonathan\u2019."},"content":{"rendered":"<p><strong>Mae myfyrwyr o\u2019r cwrs BA Gwneud Ffilmiau a Gwneud Ffilmiau Antur o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi bod yn ffodus o gael y cyfle am brofiad gwaith yn ddiweddar gyda\u2019r gyfres\u00a0<\/strong><em><strong>\u2018Jonathan\u2019<\/strong><\/em><strong>\u00a0yng Nghanolfan S4C Yr Egin. \u00a0<\/strong><\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/yregin.cymru\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/image001-5.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-250389\" width=\"821\" height=\"546\" srcset=\"https:\/\/yregin.cymru\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/image001-5.jpg 870w, https:\/\/yregin.cymru\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/image001-5-480x319.jpg 480w\" sizes=\"(min-width: 0px) and (max-width: 480px) 480px, (min-width: 481px) 821px, 100vw\" \/><figcaption><em>Finley Prydderch on the set of 'Jonathan'.<\/em><\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<p>Mae Canolfan S4C Yr Egin wedi bod yn gartref i\u2019r gyfres \u2018<em>Jonathan'<\/em>&nbsp;sy\u2019n cael ei gynhyrchu gan gwmni Avanti, ac o ganlyniad i hynny mae nifer o fyfyrwyr sy\u2019n astudio\u2019r cwrs BA Gwneud Ffilmiau a Gwneud Ffilmiau Antur ar gampws Caerfyrddin wedi gallu manteisio ar y cyfle i ennill profiad gwaith a chysylltiadau diwydiant wrth i\u2019r gyfres gael ei ffilmio yno. &nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r myfyrwyr wedi bod yn dod yn wythnosol i\u2019r Egin ar brofiad gwaith yn ystod cyfnod Cyfres yr Hydref a Phencampwriaeth y Chwe Gwlad. Mae wedi bod yn gyfle euraidd i\u2019r myfyrwyr fedru cael blas a phrofiadau \u2018go iawn\u2019 o\u2019r hyn sydd gan y diwydiant i\u2019w gynnig yn ystod bwrlwm cynhyrchu\u2019r rhaglen, yn ogystal \u00e2 chreu cysylltiadau gwerthfawr ar gyfer y dyfodol \u2013 a chwrdd ag ambell i seleb!<\/p>\n\n\n\n<p>Un o\u2019r myfyrwyr sydd wedi elwa o\u2019r profiad gwaith yw Finlay Prydderch,<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cDiolch i\u2019r Egin, dwi wedi bod yn lwcus iawn i gael y siawns i gael profiad gwaith gyda Avanti ar ei rhaglenni teledu&nbsp;<em>\u2018Jonathan\u2019<\/em>&nbsp;. Mae wedi bod yn brofiad cofiadwy iawn. Mae\u2019r profiad hwn wedi fy helpu i  greu cysylltiadau newydd yn y diwydiant, ac mae wedi bod yn gyfle i mi ddangos be oeddwn i\u2019n gallu\u2019i wneud.<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cY rhan wnes i fwynhau orau oedd cael bod yn rhan o\u2019r criw sydd yn creu\u2019r rhaglen,  ac yna ei wylio fo ar y teledu, a meddwl bo fi wedi helpu gwneud hyn. O weithio ar brofiad gwaith ar&nbsp;<em>\u2018Jonathan\u2019<\/em>&nbsp;dwi wedi bod yn lwcus iawn wedyn i gael y siawns i gael profiad gwaith fel rhedwr ar y rhaglen '<em>C\u00e2n i Gymru<\/em>'. Roedd hyn yn brofiad hynod o gofiadwy,  a dwi\u2019n ddiolchgar iawn i Avanti am y profiad hwn.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>Mae cwmni cynhyrchu Avanti yn falch iawn o allu cynnig cyfleoedd o brofiad gwaith i\u2019r myfyrwyr. Dywedodd Osian Davies, Cyfarwyddwr Gweithrediadau'r cwmni,<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cMae cyd-weithio gyda\u2019r Brifysgol a Chanolfan Yr Egin drwy ddod a thalent newydd i mewn i\u2019r diwydiant yn fraint i Avanti. Mae gymaint o brinder o bobl yn y maes yng Ngorllewin a De Cymru, mae Avanti wedi sylweddoli pwysigrwydd rhoi cyfleon profiad gwaith i fyfyrwyr mewn ystod eang o sgiliau allweddol ar ddarllediadau allanol a stiwdio. Ni\u2019n gobeithio trwy gael y myfyrwyr yn bresennol ar raglenni fel Jonathan a Y Wal Goch yn Yr Egin, y bydd hyn yn rhoi sylfaen gadarn iddynt ddatblygu law yn llaw gyda\u2019u haddysg am y dyfodol.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>Meddai Elen Rhys, Comisiynydd Adloniant S4C:<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cFel un o gyfresi mwyaf hirhoedlog S4C, ry\u2019n ni\u2019n falch iawn o fod wedi gallu croesawu Finlay i ymuno \u00e2 chriw Jonathan yn yr Egin. Mae gwaith t\u00eem anhygoel yn mynd mewn i sicrhau llwyddiant y gyfres hon a gobeithio fod Finlay wedi elwa o arbenigedd y t\u00eem cynhyrchu ac wedi mwynhau ei gyfnod yng Nghanolfan S4C Yr Egin.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>Mae cyrsiau creadigol campws Caerfyrddin i gyd yn elwa o bresenoldeb Yr Egin a\u2019r myfyrwyr yn cael cyfleoedd a hyfforddiant sy\u2019n cyd-fynd ag anghenion y diwydiant. Bu myfyrwyr sy\u2019n astudio\u2019r cwrs Dylunio Setiau a Chynhyrchu Theatr yn ystod tymor yr Hydref, dderbyn cyngor ac arweiniad  gan Dave Marson cynllunydd profiadol sydd hefyd yn gyfrifol am set&nbsp;<em>\u2018Jonathan\u2019<\/em>, yn ogystal \u00e2 chael y profiad i helpu paratoi ychydig o\u2019r set ar gyfer y ffilm&nbsp;<em>\u2018Save the Cinema\u2019<\/em>.<\/p>\n\n\n\n<p>Heb amheuaeth, mae partneriaethau fel hyn yn llwyddo i ehangu a datblygu cymuned Caerfyrddin Greadigol, ac yn gwireddu gweledigaeth Yr Egin o sicrhau ton o dalent newydd i\u2019r diwydiant yng Ngorllewin Cymru.<\/p>\n\n\n\n<p>Meddai Carys Ifan, Cyfarwyddwr Canolfan S4C Yr Egin,<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cMae\u2019r Egin yn gartref naturiol i raglen Jonathan gyda dau o\u2019r cyflwynwyr sef Jonathan a Nigel o Sir G\u00e2r a Sarra wedi astudio yma yn y Drindod Dewi Sant. Rwy\u2019n diolch yn fawr i bob adran o griw'r rhaglen sydd mor barod i gynnig  arweiniad a chefnogaeth i\u2019r myfyrwyr sy\u2019n cael budd gwirioneddol o\u2019r profiad. Dyma gydweithio o\u2019r radd flaenaf er mwyn sicrhau bod yna lwybrau dilyniant i'r diwydiant.\u201d<\/p>\n<span class=\"et_bloom_bottom_trigger\"><\/span>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"","protected":false},"author":5,"featured_media":250389,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[13],"tags":[],"class_list":["post-250387","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-news"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/250387","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/5"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=250387"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/250387\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":254021,"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/250387\/revisions\/254021"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/250389"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=250387"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=250387"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=250387"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}