{"id":251065,"date":"2022-05-27T14:11:38","date_gmt":"2022-05-27T14:11:38","guid":{"rendered":"https:\/\/yregin.cymru\/?p=251065"},"modified":"2026-04-08T13:11:41","modified_gmt":"2026-04-08T13:11:41","slug":"urdd-gobaith-cymru-opens-an-office-at-yr-egin","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/urdd-gobaith-cymru-opens-an-office-at-yr-egin\/","title":{"rendered":"Urdd Gobaith Cymru yn agor swyddfa yn Yr Egin."},"content":{"rendered":"<p>Wrth wraidd y sector creadigol yn ne-orllewin Cymru, y mae Canolfan S4C Yr Egin ar gampws Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin yn ysbrydoli creadigrwydd a dychymyg, gan feithrin talent ar gyfer y dyfodol.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd yr Urdd yn ymuno ag amryw o denantiaid wrth ymgartrefu yn Yr Egin,sy\u2019n bencadlys i S4C,  ac yn gartref i nifer o gwmniau ym maes cynhyrchu, dylunio a chyfieithu.<\/p>\n\n\n\n<p>The Urdd\u2019s new office is home to the Urdd Myrddin team and is also used by a number of the organisation\u2019s staff and departments from across the region, including the Eisteddfod and Sports department, and is a useful place for Carmarthenshire, Ceredigion and Pembrokeshire arts officers to meet. Since opening an office at Yr Egin, the Urdd has successfully made maximum use of the centre's facilities, including rapid connectivity, professional streaming, and opportunities to collaborate.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Dywedodd Si\u00e2n Lewis, Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru,<\/p>\n\n\n\n<p>&nbsp;\u201cRydym yn falch o fod wedi agor swyddfa newydd yng nghanolfan Yr Egin, Caerfyrddin. Dyma gyfle i\u2019n staff i gyd-weithio\u2019n agosach gyda\u2019r holl gwmn\u00efau a sefydliadau sydd ar safle\u2019r Egin gan obeithio cynnal gweithgareddau amrywiol ar y cyd a manteisio ar y defnydd o adnoddau modern ac arloesol yr adeilad. Edrychwn ymlaen at ddatblygu\u2019r bartneriaeth a chryfhau ein darpariaeth a chyfleoedd i blant a phobl ifanc i\u2019r dyfodol.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>Yn wir, mae hyn eisoes ar waith, cynhaliwyd gweithdy Effeithiau Sain i Ffilm  hynod lwyddiannus ac  arddangosfa gelf a mae yna edrych ymlaen di-ddiwedd i gynnal twrnament FIFA ar ddiwedd y gwyliau haf.<\/p>\n\n\n\n<p>Wrth i Sir Gaerfyrddin edrych ymlaen at groesawu Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd y flwyddyn nesa\u2019, a pharatoadau ar gyfer y cystadlu a pherfformiadau ar waith ar hyd a lled y sir, mi fydd y swyddfa yn Yr Egin siwr o brysuro eto.<\/p>\n\n\n\n<p>Meddai Carys Ifan, Cyfarwyddwr Canolfan S4C Yr Egin: \u201cMae\u2019n newyddion arbennig medru croesawu\u2018r Urdd i'r  Egin, maen\u2019t yn atodiad gwych i\u2019r gymuned greadigol sy\u2019n gweithio yma eisoes. Rydym yn edrych ymlaen at gefnogi\u2019r mudiad yn eu cenhadaeth i  gynnig cyfleon yn y Gymraeg i blant a phobl ifanc sy\u2019n cydfynd yn llwyr gyda gweledigaeth Yr Egin i godi statws y Gymraeg a\u2019i diwylliant yng Nghaerfyrddin a\u2019r ardal gyfagos mewn modd cyhoeddus, cyfoes a chyffrous.\u201d<\/p>\n<span class=\"et_bloom_bottom_trigger\"><\/span>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"","protected":false},"author":5,"featured_media":247985,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[13],"tags":[],"class_list":["post-251065","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-news"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/251065","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/5"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=251065"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/251065\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":254037,"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/251065\/revisions\/254037"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/247985"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=251065"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=251065"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=251065"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}