{"id":252831,"date":"2024-03-25T10:42:42","date_gmt":"2024-03-25T10:42:42","guid":{"rendered":"https:\/\/yregin.cymru\/?p=252831"},"modified":"2026-04-08T13:11:49","modified_gmt":"2026-04-08T13:11:49","slug":"connector-hub-to-boost-economic-growth-in-carmarthenshire-and-ceredigion","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/connector-hub-to-boost-economic-growth-in-carmarthenshire-and-ceredigion\/","title":{"rendered":"Hyb Cysylltwr i hybu twf economaidd yn Sir G\u00e2r a Cheredigion"},"content":{"rendered":"<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"1024\" src=\"https:\/\/yregin.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/03\/Calling-all.-Welsh-1024x1024.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-252837\" style=\"width:398px;height:auto\" srcset=\"https:\/\/yregin.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/03\/Calling-all.-Welsh-1024x1024.jpg 1024w, https:\/\/yregin.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/03\/Calling-all.-Welsh-980x980.jpg 980w, https:\/\/yregin.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/03\/Calling-all.-Welsh-480x480.jpg 480w\" sizes=\"(min-width: 0px) and (max-width: 480px) 480px, (min-width: 481px) and (max-width: 980px) 980px, (min-width: 981px) 1024px, 100vw\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p>Mewn symudiad sylweddol tuag at feithrin datblygiad economaidd a dathlu\u2019r Gymraeg fel ased economaidd bywiog, mae GlobalWelsh, mewn partneriaeth \u00e2\u2019r asiantaeth prosiectau creadigol Sgema, wedi cyhoeddi lansiad <strong>Hyb Cysylltwr GlobalWelsh Sir G\u00e2r a Cheredigion.<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Nod y fenter hon yw ysgogi twf economaidd ac adfywio ar draws rhanbarth Sir G\u00e2r a Cheredigion drwy gysylltu busnesau lleol \u00e2 rhwydwaith byd-eang o filoedd o aelodau o Gymry alltud ar draws mwy na 70 o wledydd a 120 o ddiwydiannau sydd \u00e2 sgiliau, gwybodaeth a rhwydweithiau i\u2019w rhannu.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Hyb Cysylltwr GlobalWelsh Sir G\u00e2r a Cheredigion yn ofod digidol, a gynhelir ar GlobalWelsh Connect, ei lwyfan ymgysylltu cymunedol digidol, a gynlluniwyd i wasanaethu fel pont ddeinamig rhwng econom\u00efau lleol Sir G\u00e2r &nbsp;a Cheredigion a\u2019r gymuned Gymreig fyd-eang. Trwy GlobalWelsh, mae'r fenter yn cynnig mynediad digynsail i fusnesau i fasnach ryngwladol, cyfleoedd buddsoddi, a phrosiectau cydweithredol. Nod yr Hyb Cysylltwr yw gosod y rhanbarth fel arweinydd ym maes datblygu economaidd byd-eang a chyfnewid diwylliannol.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Walter May, Prif Swyddog Gweithredol GlobalWelsh, yn pwysleisio pwysigrwydd y fenter i frwydro yn erbyn draen dawn:<\/p>\n\n\n\n<p><strong><em>\u201cEr ei bod yn wir bod Cymru\u2019n wynebu heriau o ran creu hunaniaeth fyd-eang unigryw a chystadlu am fewnfuddsoddiad o fewn y DU, mae\u2019n bryd i ni harneisio potensial ein hased mwyaf \u2013 y Cymry alltud. Gyda mwy na thair miliwn o unigolion yn fyd-eang, mae ein Cymry alltud yn cynrychioli llu o eiriolwyr heb eu cyffwrdd sy\u2019n barod i godi proffil Cymru ar lwyfan y byd.<\/em><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p><strong><em>\u201cMae meithrin cysylltiadau cryfach \u00e2\u2019r gymuned hon yn golygu nad ydym yn atal y llanw o \u2018ddraen dawn\u2019 yn unig, rydym yn ei drawsnewid yn \u2018enillion dawn\u2019. Mae\u2019r fenter hon yn ymwneud \u00e2 chyflwyno Cymru\u2019n fyd-eang, arddangos ein tirwedd fusnes arloesol, a manteisio ar y cyfleoedd byd-eang sy\u2019n gyrru ein heconomi yn ei blaen.\u201d<\/em><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Fel rhan o\u2019r fenter hon, bydd busnesau yn Sir G\u00e2r a Cheredigion sy\u2019n gweithio\u2019n ddwyieithog yn cael cynnig aelodaeth am ddim am flwyddyn i GlobalWelsh Connect a\u2019r Hyb Cysylltwr. Mae\u2019r aelodaeth hon yn darparu mynediad i amrywiaeth o nodweddion rhyngweithiol ar lwyfan GlobalWelsh Connect, gan gynnwys y gallu i gyflwyno galwadau am gymorth, dod o hyd i aelodau o\u2019r un anian yn fyd-eang a chysylltu \u00e2 nhw, a chael mynediad at gyfoeth o adnoddau a chyfleoedd ar gyfer twf personol a phroffesiynol.<\/p>\n\n\n\n<p>Wrth s\u00f4n am y prosiect, tynnodd Meilyr Ceredig, Cyfarwyddwr Sgema sy\u2019n cynnal y prosiect, sylw at yr ymdrech gydweithredol y tu \u00f4l i\u2019r fenter hon:<\/p>\n\n\n\n<p><strong><em>\"Gyda chefnogaeth Cronfa Her ARFOR, mae Sgema yn falch o gydweithio \u00e2 phartneriaid allweddol ar y prosiect peilot hwn. Ein nod yw cysylltu entrepreneuriaid Cymreig rhyngwladol \u00e2 busnesau yn Sir G\u00e2r&nbsp; a Cheredigion, gan greu rhwydwaith ffyniannus sy'n hyrwyddo twf economaidd a threftadaeth ddiwylliannol. Mae'r prosiect hwn trwy lwyfan GlobalWelsh yn rhoi'r cyfle hwnnw i gysylltu.\"<\/em><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Un o bartneriaid allweddol y prosiect yw Yr Egin (Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant). Wrth s\u00f4n am eu rhan dywedodd Carys Ifan, Cyfarwyddwr Yr Egin:<\/p>\n\n\n\n<p><strong><em>\"A ninnau\u2019n ganolbwynt ar gyfer creadigrwydd ac arloesedd digidol, mae'r Egin yn llawn cyffro i fod yn rhan o'r prosiect Hyb Cysylltwr. Mae'r bartneriaeth hon yn agor byd o gyfleoedd i fusnesau yn Sir G\u00e2r a Cheredigion, gan gynnig llwyfan unigryw iddynt gysylltu \u00e2 chymuned fyd-eang sy\u2019n angerddol dros Gymru a\u2019i rhagolygon economaidd.<\/em><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p><strong><em>\u201cRydyn ni\u2019n credu y bydd y cydweithio hwn nid yn unig yn gwella amlygrwydd busnesau lleol ar y llwyfan rhyngwladol ond hefyd yn atgyfnerthu r\u00f4l diwylliant a\u2019r iaith Gymraeg fel ysgogwyr allweddol datblygiad economaidd.\u201d<\/em><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p><strong>Am ragor o wybodaeth ac i gofrestru, cysylltwch \u00e2:<\/strong> post@sgema.cymru<\/p>\n\n\n\n<p><strong>DIWEDD -<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p><strong>Gwybodaeth am GlobalWelsh:<\/strong> Sefydliad nid-er-elw yw GlobalWelsh sydd wedi ymrwymo &nbsp;i adeiladu cymuned fyd-eang gyda Chymru yn ganolog iddi. Ei nod yw creu cysylltiadau ystyrlon, manteisio ar adnoddau a rennir, a helpu buddsoddiad a chyfleoedd busnes i ffynnu, a\u2019r cyfan wrth ddathlu llwyddiant Cymru a chysylltu\u2019r gymuned Gymreig fyd-eang.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Gwybodaeth am y Partneriaid<\/strong>: Mae prosiect Hyb Cysylltwr ARFOR yn gydweithrediad rhwng GlobalWelsh, Sgema, Yr Egin (Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant). Gyda\u2019i gilydd, mae\u2019r partneriaid hyn yn gweithio i hybu twf economaidd a\u2019r Gymraeg drwy fentrau arloesol.<\/p>\n\n\n\n<p>I ddysgu mwy ewch i: <a href=\"https:\/\/www.arsyllfa.cymru\/cy\/category\/hyb-cysylltwr-globalwelsh\/\">Hyb Cysylltwr Sir G\u00e2r a Cheredigion<\/a>.<\/p>\n<span class=\"et_bloom_bottom_trigger\"><\/span>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"","protected":false},"author":1,"featured_media":252839,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[13],"tags":[],"class_list":["post-252831","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-news"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/252831","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=252831"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/252831\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":254067,"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/252831\/revisions\/254067"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/252839"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=252831"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=252831"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=252831"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}