{"id":254185,"date":"2025-06-25T09:13:00","date_gmt":"2025-06-25T09:13:00","guid":{"rendered":"https:\/\/yregin.cymru\/?p=254185"},"modified":"2026-04-27T09:39:52","modified_gmt":"2026-04-27T09:39:52","slug":"band-byw-yr-egin-opens-doors-for-young-musicians","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/band-byw-yr-egin-opens-doors-for-young-musicians\/","title":{"rendered":"Band Byw! Yr Egin yn agor drysau i gerddorion ifanc"},"content":{"rendered":"<p>Mae Canolfan S4C Yr Egin, canolfan greadigol a digidol Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, yn falch iawn o lansio \u2018Band Byw!\u2019 - cyfres gyffrous o weithdai cerddoriaeth yr haf hwn, sy\u2019n benodol ar gyfer pobl ifanc Blwyddyn 10 i 13.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"690\" height=\"488\" src=\"https:\/\/yregin.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/04\/image.png\" alt=\"Picture of 'Band Byw' poster promoting the opportunity to enter now. \" class=\"wp-image-254187\" srcset=\"https:\/\/yregin.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/04\/image.png 690w, https:\/\/yregin.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/04\/image-480x339.png 480w\" sizes=\"(min-width: 0px) and (max-width: 480px) 480px, (min-width: 481px) 690px, 100vw\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p>Gyda dim ond 10 lle ar gael, dyma gyfle prin i ymuno \u00e2 phrosiect unigryw sy\u2019n meithrin hyder, creadigrwydd a sgiliau cerddorol drwy brofiad ymarferol.<\/p>\n\n\n\n<p>Arweinir y gweithdai gan ddau adnabyddus o s\u00een cerddoriaeth Cymru heddiw \u2013 Mari Mathias, artist gwerin gyfoes ac enillydd Gwobr G\u00e2n Draddodiadol Orau yng Ngwobrau Gwerin y BBC 2023, a Steffan Rhys Williams, cyfansoddwr profiadol a chynhyrchydd cerddoriaeth deledu sydd \u00e2 blynyddoedd lawer o brofiad yn gweithio gyda bandiau byw a\u2019i stiwdios proffesiynolyn Yr Egin.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r prosiect yn gyfle i ysbrydoli pobl ifanc i sylweddoli bod ganddynt y gallu i greu cerddoriaeth a chaneuon gwreiddiol heb fod angen iddynt fedru ysgrifennu cerddoriaeth, darllen dots, arbenigo ar offeryn neu serennu yng ngh\u00f4r yr ysgol. Mi fyddant yn dysgu bod yna ffyrdd amgen o gyfansoddi caneuon a dyma gyfle iddynt arbrofi a deall mwy am y broses sydd yn aml yn un cydweithredol. Bwriad y prosiect yw mwynhau a magu hyder wrth greu a pherfformio.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Yn ystod y sesiynau, bydd y bobl ifanc yn cael cyfle i:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Gyfansoddi caneuon yn gydweithredol gydag arweiniad Mari Mathias<\/li>\n\n\n\n<li>Arbrofi gyda band byw a jamio gydag offerynnau o dan arweiniad Steffan Rhys Williams<\/li>\n\n\n\n<li>Dysgu technegau perfformio, recordio a chynhyrchu sain<\/li>\n\n\n\n<li>Ffilmio fideo cerddoriaeth proffesiynol dan arweiniad y cyfarwyddwyr creadigol Non Lewis a Heti Hywel<\/li>\n\n\n\n<li>Perfformio\u2019n fyw mewn noson arbennig i ddathlu\u2019r gwaith terfynol yng nghlwb CWRW, Caerfyrddin<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Cynhelir y sesiynau yn stiwdios proffesiynol Yr Egin, gan ddefnyddio offer sain a fideo o\u2019r radd flaenaf. Dyma gyfle i bobl ifanc brofi\u2019r broses greadigol lawn \u2013 o\u2019r syniad cyntaf i\u2019r fideo gorffenedig!<\/p>\n\n\n\n<p>Meddai Steffan Rhys Williams:&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cAr \u00f4l dros 25ain o flynyddoedd yn gweithio fel cyfansoddwr a chynhyrchydd cerddoriaeth ym myd y cyfryngau, erbyn hyn \u2018dwi wrth fy modd yn rhannu\u2019r profiad dwi wedi enyn a gweld y gehedlaeth nesaf yn llwyddo.<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cFydd gweithio ar y cyd gyda Mari Mathias hefyd dwi\u2019n meddwl yn ffantastic gan fod dull pob cyfansoddwr o gyfansoddi a chynhyrchu yn wahannol.<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cMae\u2019r broses o gyfansoddi a llunio a chrefftio c\u00e2n yn un mor amwys sy\u2019n gwneud yr holl beth mor frawychus ond eto mor gyffrous.<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cDwi\u2019n edrych ymlaen yn eiddgar i gael gweld beth fydd ffrwyth ein llafur ni erbyn diwedd y cwrs arbennig yma!\u201d<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Cynhelir y gweithdai yn ystod y diwrnodau canlynol:<\/strong><\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Gorffennaf 28 (Llun) | 10:00\u201315:00<\/li>\n\n\n\n<li>Gorffennaf 29 (Mawrth) | 10:00\u201315:00<\/li>\n\n\n\n<li>Awst 11 (Llun) | 10:00\u201315:00<\/li>\n\n\n\n<li>Awst 12 (Mawrth) | 10:00\u201315:00<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Dywedodd Llinos Jones, Rheolwr Ymgysylltu Yr Egin:<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cRydym yn hynod falch o gynnig y cyfle arbennig hwn i bobl ifanc, bydd Band Byw! yn gyfle i ysbrydoli unigolion gan rhoi llwyfan iddynt i archwilio a datblygu eu sain cerddorol o dan arweiniad cyfansoddwyr a mentoriaid anhygoel yn Mari a Steffan \u2013 i gyd trwy gyfrwng y Gymraeg.<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cMae hyn yn mynd law yn llaw \u00e2 nod Yr Egin i greu cymuned ddiwylliannol gyffrous sy\u2019n ysbrydoli cymunedau amrywiol ar draws y rhanbarth, ac i godi statws y Gymraeg a\u2019i diwylliant mewn ffordd gyhoeddus, gyfoes ac egn\u00efol yng Nghaerfyrddin a\u2019r ardal gyfagos, gan ddatblygu ar brosiectau diweddar hynod llwyddiannus sef creu fidios cerddoriaeth Tanio ar y cyd \u00e2 bandiau ifanc a chyfansoddi c\u00e2n ar y cyd \u00e2 chynllun Merched yn Gwneud Miwsig. Rydym yn hynod gyffrous i gael bwrlwm ac egni pobl ifanc yn llenwi\u2019r ganolfan ac i gyfrannu at y s\u00een perfformio byw sydd ar dwf yn Sir G\u00e2r. Diolch o galon i T\u0177 Cerdd am y cyllid sydd wedi gwneud y cyfle arbennig hwn yn bosibl.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>Mi fydd dyddiad cau y ceisiadau ar y 4ydd o Orffennaf, a bydd y canlyniadau\u2019n cael eu cyhoeddi ar yr 11eg o Orffennaf. <\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"further-information\"><strong>Gwybodaeth Bellach<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\" id=\"lowri-thomas\"><strong>Lowri&nbsp;Thomas<\/strong><\/h3>\n\n\n\n<p>Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;<br>Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;<br>E-bost:&nbsp;<a href=\"mailto:lowri.thomas@uwtsd.ac.uk\"><strong><u>lowri.thomas@uwtsd.ac.uk<\/u><\/strong><\/a>&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;<br>Ff\u00f4n: 07449 998476<\/p>\n<span class=\"et_bloom_bottom_trigger\"><\/span>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Canolfan S4C Yr Egin,&nbsp;the creative and digital centre of the University of Wales Trinity Saint David, is delighted to launch \u2018Band Byw!\u2019 &#8211; an exciting series of music workshops this summer, specifically for young people in Years 10 to&nbsp;13. With only 10 places available, this is a rare opportunity to join a unique project that [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":31,"featured_media":254187,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[13],"tags":[],"class_list":["post-254185","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-news"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/254185","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/31"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=254185"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/254185\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":254191,"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/254185\/revisions\/254191"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/254187"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=254185"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=254185"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=254185"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}