{"id":254199,"date":"2026-03-24T11:40:00","date_gmt":"2026-03-24T11:40:00","guid":{"rendered":"https:\/\/yregin.cymru\/?p=254199"},"modified":"2026-04-27T13:49:59","modified_gmt":"2026-04-27T13:49:59","slug":"uwtsd-welcomes-telesgop-to-canolfan-s4c-yr-egin","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/uwtsd-welcomes-telesgop-to-canolfan-s4c-yr-egin\/","title":{"rendered":"PCYDDS yn croesawu Telesgop i Ganolfan S4C Yr Egin."},"content":{"rendered":"<div class=\"wp-block-group is-layout-constrained wp-block-group-is-layout-constrained\">\n<p>Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn falch o gyhoeddi bod cwmni cynhyrchu amlgyfrwng, <a href=\"https:\/\/www.telesgop.co.uk\/cy\/\">Telesgop,<\/a> wedi ymuno \u00e2 chymuned o fusnesau digidol a chyfryngol sydd wedi\u2019u lleoli yng <a href=\"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/\">Nghanolfan S4C Yr Egin<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.uwtsd.ac.uk\/sites\/default\/files\/styles\/media_item_uncropped\/public\/2026-03\/Llun%20Staff%20Telesgop.jpg?itok=PVdH31t-\" alt=\"A group photo of the Telesgop staff\"\/><\/figure>\n\n\n\n<p>Wedi\u2019i lleoli ar <a href=\"https:\/\/www.uwtsd.ac.uk\/cy\/caerfyrddin\">gampws Caerfyrddin <\/a>y Brifysgol, mae\u2019r Egin yn hwb diwylliannol a chreadigol bywiog lle gall ymarferwyr ac entrepreneuriaid o ddisgyblaethau amrywiol rannu adnoddau, datblygu eu busnesau a meithrin talent. Mae\u2019r Egin yn cynnig lleoliad delfrydol i Telesgop gysylltu \u00e2 sefydliadau o\u2019r un anian a\u2019r 11 cwmni arall sydd eisoes wedi\u2019u lleoli yn y&nbsp;ganolfan.<\/p>\n\n\n\n<p>Meddai Is-Ganghellor y Brifysgol, Yr Athro Elwen Evans&nbsp;CB:<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cRydym yn falch iawn o groesawu cwmni Telesgop i\u2019r Egin. Mae\u2019r cwmni yn uchel ei barch yn y diwydiant ac yn adnabyddus inni gyd am ei chynnyrch o safon ar gyfer radio a\u2019r sgrin.&nbsp; Maent yn ymuno \u00e2 chymuned greadigol lewyrchus yr Egin sydd \u00e2 chydweithio a chyd-gynhyrchu yn greiddiol iddi. Does gen i ddim amheuaeth y bydd Telesgop a\u2019i staff yn gaffaeliad mawr i\u2019r gymuned honno ac yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i\u2019r Brifysgol yn&nbsp;ehangach.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Telesgop yn gwmni profiadol sydd wedi meithrin enw da am raglenni o ansawdd uchel gydag arbenigedd mewn rhaglenni dogfen, megis<em> Gronyn Gobaith\/ Peace Particle,&nbsp; Ryan Jones;&nbsp;<\/em>rhaglenni ffeithiol arbenigol&nbsp; - megis <em>Ffermio, Cneifio<\/em>; rhaglenni adloniant ffeithiol; <em>Eisteddfod CFFI&nbsp;<\/em>a\u2019r<em> \u0174yl Gerdd Dant;&nbsp;<\/em>&nbsp;a rhaglenni plant megis<em> Fferm Fach<\/em>.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Mae gan Telesgop enw da hefyd ers blynyddoedd maith ym maes cynhyrchu radio, gan gynhyrchu dros 700 awr o gynnwys y flwyddyn ar gyfer rhwydweithiau\u2019r BBC;&nbsp; BBC Radio Cymru, BBC Radio Wales a BBC Radio&nbsp;2.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r cynyrchiadau\u2019n amrywio o sioeau cylchgrawn byw wythnosol fel <em>Troi\u2019r Tir, Y Bwletin Amaeth&nbsp;<\/em>ac <em>Ifan Jones Evans, Country Focus&nbsp;<\/em>a rhaglenni dogfen fel <em>Women in Country: Her Voice Her Story, Yfory Newydd&nbsp;<\/em>a <em>The Showstopper<\/em>.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Telesgop hefyd \u00e2 phrofiad helaeth o weithio yn y maes corfforaethol ac hefyd yn cynhyrchu deunyddiau addysgol&nbsp;digidol.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Gyda Chaerfyrddin a\u2019r Egin&nbsp; bellach yn bencadlys i\u2019r cwmni mi fydd 20 o staff y cwmni yn gweithio o\u2019r swyddfa&nbsp;newydd.<\/p>\n\n\n\n<p>Meddai Ffion Rees, Rheolwr Gyfarwyddwr&nbsp;Telesgop:&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cMae gan Telesgop wreiddiau dwfn yng ngorllewin Cymru, gan i\u2019r cwmni ddechrau 33 mlynedd n\u00f4l yn Llandeilo, felly mae symud ein swyddfeydd i\u2019r Egin yn gam naturiol a chyffrous i ni. Mae\u2019r adeilad wedi dod yn ganolfan pwysig i\u2019r diwydiannau creadigol, ac rydyn ni\u2019n edrych ymlaen at fod yn rhan o\u2019r gymuned honno. I ni, mae symud yma\u2019n fwy na dim ond newid swyddfa \u2013 mae\u2019n gyfle i weithio ochr yn ochr \u00e2 chwmn\u00efau creadigol eraill, S4C, Prifysgol Cymru y &nbsp;Drindod Dewi Sant, datblygu syniadau newydd a pharhau i greu cynnwys o ansawdd uchel o Orllewin&nbsp;Cymru.\u201d&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r symudiad cyffrous hwn yn plannu Telesgop yng nghanol cymuned fywiog o arloeswyr, entrepreneuriaid ac addysgwyr, fydd yn creu cyfleoedd newydd ar gyfer cydweithio a thyfiant ar draws amrywiaeth o&nbsp;sectorau.<\/p>\n\n\n\n<p>Ychwanegodd Geraint Evans, Prif Weithredwr&nbsp;S4C:<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cMae\u2019n bleser gweld Telesgop yn ymuno \u00e2 chymuned Canolfan S4C Yr Egin. Mae\u2019r Egin yn le sy\u2019n dod \u00e2 syniadau, pobl greadigol a chyfleoedd at ei gilydd, felly mae\u2019n braf gweld cwmni profiadol fel Telesgop yn dewis ymgartrefu&nbsp;yma.<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cMae cefnogi talent a busnesau ar draws Cymru gyfan yn bwysig i ni, ac mae\u2019n wych gweld Yr Egin yn datblygu\u2019n le sy\u2019n creu cyfle go iawn i gwmn\u00efau fel Telesgop&nbsp;ffynnu.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>Am fwy o wybodaeth am Telesgop a\u2019u gwasanaethau, ewch i&nbsp;<a href=\"http:\/\/www.telesgop.cymru\"><strong>www.telesgop.cymru<\/strong><\/a> &nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Am ragor o wybodaeth am ofodau swyddfa, cyfleusterau llogi desg a chyfleoedd i logi stafell gyfarfod, gofod cynhadledd neu adnoddau \u00f4l-gynhyrchu yn Yr Egin, ewch i\u2019r wefan&nbsp;<a href=\"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\"><strong>yregin.cymru<\/strong><\/a>&nbsp;neu cysylltwch drwy anfon e-bost at&nbsp;<a href=\"mailto:hello@yregin.cymru\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\"><strong>helo@yregin.cymru<\/strong><\/a>.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"gwybodaeth-bellach\"><strong>Gwybodaeth&nbsp;Bellach<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\" id=\"lowri-thomas\"><strong>Lowri&nbsp;Thomas<\/strong><\/h3>\n\n\n\n<p>Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;<br>Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;<br>E-bost: <a href=\"mailto:lowri.thomas@pcydds.ac.uk\"><strong><u>lowri.thomas@pcydds.ac.uk<\/u><\/strong><\/a>&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;<br>Ff\u00f4n:&nbsp;07449&nbsp;998476<\/p>\n<\/div>\n<span class=\"et_bloom_bottom_trigger\"><\/span>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>The University of Wales Trinity Saint David (UWTSD) is pleased to announce that multimedia production company, Telesgop, has joined its community of digital and media businesses based at Canolfan S4C Yr Egin.&nbsp; Located on the University\u2019s Carmarthen campus, Yr Egin is a vibrant cultural and creative hub where practitioners and entrepreneurs from diverse disciplines can [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":254201,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[13],"tags":[],"class_list":["post-254199","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-news"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/254199","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=254199"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/254199\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":254207,"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/254199\/revisions\/254207"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/254201"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=254199"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=254199"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=254199"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}