{"id":254209,"date":"2026-02-02T13:50:00","date_gmt":"2026-02-02T13:50:00","guid":{"rendered":"https:\/\/yregin.cymru\/?p=254209"},"modified":"2026-04-27T13:55:38","modified_gmt":"2026-04-27T13:55:38","slug":"podcast-project-connects-the-university-and-the-local-community","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/podcast-project-connects-the-university-and-the-local-community\/","title":{"rendered":"Prosiect Podlediadau yn cysylltu\u2019r Brifysgol \u00e2\u2019r gymuned leol"},"content":{"rendered":"<p><\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-group is-layout-constrained wp-block-group-is-layout-constrained\">\n<p>Mae prosiect podlediadau newydd, creadigol a chyffrous wedi\u2019i lansio gan\u00a0Yr Egin, gan gynnig cyfle unigryw i oedolion dros 18 oed ddysgu sut i gynllunio, recordio a golygu podlediadau, yn ogystal \u00e2 chreu a chyflwyno sioe radio fyw \u2013 oll o fewn eu cymunedau\u00a0lleol.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.uwtsd.ac.uk\/sites\/default\/files\/styles\/media_item_uncropped\/public\/2026-02\/llun%202_rali%20radio.jpg?itok=bm45MK54\" alt=\"group of people sitting inside studio\"\/><\/figure>\n\n\n\n<p>Nod y prosiect hwn sy\u2019n rhan o waith<a href=\"https:\/\/www.uwtsd.ac.uk\/cy\/ysgolion-cholegau\/ymestyn-yn-ehangach\">&nbsp;t\u00eem Ehangu Mynediad y Brifysgol<\/a>&nbsp;yw tynnu sylw at y cyfleoedd creadigol ac ymarferol sydd ar gael drwy Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, gyda t\u00eem Yr Egin yn pontio\u2019r bwlch rhwng y brifysgol a\u2019r gymuned leol, drwy gyfrwng y Gymraeg. &nbsp;Mae\u2019n gyfle i ddatblygu sgiliau newydd, ac i gefnogi oedolion i ystyried camau pellach mewn addysg a dysgu. Mae\u2019r cynllun hefyd yn adeiladu ar y berthynas gref sydd eisoes yn bodoli rhwng y Brifysgol a phobl Caerfyrddin a\u2019r ardal&nbsp;gyfagos.<\/p>\n\n\n\n<p>Meddai Llinos Jones, Rheolwr Ymgysylltu\u2019r&nbsp;Egin:<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cMae\u2019r Brifysgol yn rhan annatod o gymuned Caerfyrddin, ac rydym yn falch iawn o allu cynnig profiadau o\u2019r fath sy\u2019n cefnogi datblygiad sgiliau ymarferol, yn annog creadigrwydd, ac yn agor drysau newydd i bobl leol weld beth all addysg uwch ei gynnig&nbsp;iddynt.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>Dros gyfnod o bedair wythnos, bydd 15 aelod yn ymweld ag Yr Egin i gymryd rhan mewn sesiynau hwyliog, ymarferol a chreadigol. Yn ystod y sesiynau hyn, byddant yn datblygu sgiliau cynhyrchu sain, adrodd straeon a chyflwyno cynnwys radio a phodlediadau. Bydd y profiad dysgu\u2019n cael ei siapio gan ddiddordebau\u2019r cyfranogwyr eu hunain, gan sicrhau bod y cynnwys yn berthnasol, yn ysbrydoledig ac yn&nbsp;ymgysylltiol.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r sesiynau\u2019n cael eu harwain gan Marc Griffiths, Perchennog Stiwdio Box ac un o denantiaid Yr Egin.&nbsp;Dywedodd:<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cDrwy arwain sesiynau ar greu, cyflwyno a golygu podlediadau a rhaglenni radio o dan gynllun ehangu mynediad y Brifysgol, rwy\u2019n gweld yn uniongyrchol pa mor drawsnewidiol yw rhoi llais i bobl o\u2019n cymunedau. Mae\u2019r cyfleoedd hyn nid yn unig yn datblygu sgiliau creadigol a hyder, ond hefyd yn dangos i bobl fod eu straeon, eu profiadau a\u2019u safbwyntiau yn werthfawr ac yn perthyn ym myd addysg uwch. Mae\u2019r gwaith hwn yn gam pwysig tuag at greu mynediad tecach, mwy cynhwysol, ac at gryfhau\u2019r berthynas rhwng y Brifysgol a\u2019r gymuned&nbsp;ehangach.\u201d<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.uwtsd.ac.uk\/sites\/default\/files\/styles\/media_item_uncropped\/public\/2026-02\/llun%201_Rali%20radio.jpg?itok=g5Hc_113\" alt=\"Marc Griffiths speaking with group members\"\/><\/figure>\n\n\n\n<p>Gan fod nifer o\u2019r mynychwyr yn ymddiddori mewn ral\u00efo, penderfynwyd defnyddio ral\u00efo fel thema ganolog ar gyfer y prosiect. Ar hyn o bryd, nid oes podlediad Cymraeg sy\u2019n canolbwyntio ar ral\u00efo yn bodoli, ac felly mae\u2019r cynllun hwn yn llenwi bwlch amlwg, a\u2019r galw am gyfrannu a datblygu cynnwys Cymraeg newydd a&nbsp;pherthnasol.<\/p>\n\n\n\n<p>Un sy\u2019n mynychu\u2019r sesiynau yw Ceris Mair.&nbsp;Meddai:<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cRwy\u2019n gyffrous i ddysgu sut gall podlediad dyfu o syniad syml i ddarllediad gorffenedig sy\u2019n gwasanethu&nbsp;cymuned.<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cMae gweld y broses hon yn digwydd o fewn amgylchedd Gymraeg dan arweiniad Marc, y gymuned a\u2019r&nbsp;Drindod Dewi Sant, yn rhywbeth rwy\u2019n edrych ymlaen ato\u2019n&nbsp;fawr\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>Un arall sydd wedi buddio o\u2019r profiad yw Euros Evans.&nbsp;Dywedodd:<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cMae\u2019r sesiynau hyd yn hyn wedi bod yn ddiddorol dros ben. Ma\u2019r sesiynau yn eglur iawn yn nhermau cyfarwyddo gyda technoleg, ac yn pwysleisio pwy mor bwysig ydy sain, gan neud defnydd o\u2019r wahanol mathau o&nbsp;feicroffonau.<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cDwi\u2019n disgwyl mlan i\u2019r sesiynau sydd i ddod gan bod na gyfle i ddysgu golygu ein cyfweliadau er mwyn creu sianel youtube \u2013 a fi hefyd yn edrych mlan at gyfweld gyrrwyr rali lleol, a gobeitho cael cyfle i neud cyfweliadau i\u2019r podlediad gyda ein arwyr yn yr hen Motoring News&nbsp;championship.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>Yn ogystal \u00e2 meithrin sgiliau creadigol a thechnegol, mae\u2019r prosiect sydd wedi\u2019i hariannu gan MEDR, a\u2019i gefnogi gan gynllun Ehangu Mynediad y Brifysgol hefyd yn cynnig cyfle i\u2019r cyfranogwyr ddod i adnabod y Brifysgol. Byddant yn cael cyflwyniad i\u2019r campws ac yn dysgu mwy am y cyrsiau sydd ar gael, gan gynnwys cyrsiau rhan-amser, graddau BA ac&nbsp;MA.<\/p>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"gwybodaeth-bellach\"><strong>Gwybodaeth&nbsp;Bellach<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\" id=\"lowri-thomas\"><strong>Lowri&nbsp;Thomas<\/strong><\/h3>\n\n\n\n<p>Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;<br>Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;<br>E-bost:&nbsp;<a href=\"mailto:lowri.thomas@pcydds.ac.uk\"><strong><u>lowri.thomas@pcydds.ac.uk<\/u><\/strong><\/a>&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;<br>Ff\u00f4n:&nbsp;07449&nbsp;998476<\/p>\n<\/div>\n<span class=\"et_bloom_bottom_trigger\"><\/span>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Yr Egin\u00a0has launched a\u00a0new, creative and exciting podcast project, offering adults over the age of 18 a unique opportunity\u00a0 to learn how to plan, record and edit podcasts, as well as create and present a live radio show, \u00a0all within their local\u00a0communities. This project, which is part of the work of the&nbsp;University\u2019s Widening Access team, [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":31,"featured_media":254211,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[13],"tags":[],"class_list":["post-254209","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-news"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/254209","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/31"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=254209"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/254209\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":254213,"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/254209\/revisions\/254213"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/254211"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=254209"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=254209"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=254209"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}