{"id":254221,"date":"2026-02-06T14:02:00","date_gmt":"2026-02-06T14:02:00","guid":{"rendered":"https:\/\/yregin.cymru\/?p=254221"},"modified":"2026-04-27T14:06:23","modified_gmt":"2026-04-27T14:06:23","slug":"mia-harries-turns-a-passion-into-a-creative-career","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/mia-harries-turns-a-passion-into-a-creative-career\/","title":{"rendered":"Mia Harries yn troi angerdd yn yrfa greadigol"},"content":{"rendered":"<div class=\"wp-block-group is-layout-constrained wp-block-group-is-layout-constrained\">\n<p>I Mia Harries, sy\u2019n astudio <a href=\"https:\/\/www.uwtsd.ac.uk\/cy\/rhaglen-chyrsiau\/israddedig\/ffilm-cyfryngau-ac-animeiddio\/dylunio-gemau-cyfrifiadurol-llawn-amser\">BA Dylunio Gemau Cyfrifiadurol<\/a> ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), mae\u2019r Brifysgol wedi bod yn fwy na lle i astudio. Mae wedi bod yn fan i dyfu mewn hyder, creadigrwydd a gweledigaeth ar gyfer y&nbsp;dyfodol.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.uwtsd.ac.uk\/sites\/default\/files\/styles\/media_item_uncropped\/public\/2026-02\/Mia%20Harries.jpeg?itok=UzD3OeFh\" alt=\"Mia Harries portrait\"\/><\/figure>\n\n\n\n<p>Dewisodd Mia ddod i PCYDDS oherwydd presenoldeb y Gymraeg ar ei&nbsp;champysau.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cMae o hyd pobl yma yn siarad Cymraeg i gymharu \u00e2 rhywle yn Lloegr. Roeddwn i dal eisiau cadw siarad a chymdeithasu drwy gyfrwng y Gymraeg, hyd yn oed os oeddwn i oddi&nbsp;cartref.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>&nbsp;Ar \u00f4l ymweld \u00e2 diwrnod agored y brifysgol, roedd yn glir iddi fod yr amgylchedd dysgu, gyda\u2019i bwyslais ar waith ymarferol a pharatoi ar gyfer y byd gwaith, yn teimlo\u2019n iawn iddi o\u2019r&nbsp;dechrau.<\/p>\n\n\n\n<p>Un o\u2019r pethau mae Mia\u2019n ei werthfawrogi fwyaf am y cwrs yw\u2019r amrywiaeth o sgiliau a chyfryngau y mae\u2019n ei&nbsp;dysgu.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cMae\u2019r gwaith i gyd yn ymarferol sydd nid yn unig yn hwyl, ond mae hefyd wedi fy helpu i ddeall yn well ble mae fy niddordebau a fy nghryfderau o fewn y diwydiant&nbsp;gemau.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>Yn ystod ei hastudiaethau, mae Mia wedi elwa\u2019n fawr o\u2019r cysylltiadau cryf \u00e2\u2019r diwydiant, gyda gweithwyr proffesiynol yn ymweld yn rheolaidd \u00e2\u2019r myfyrwyr i rannu eu profiadau, a theithiau i leoliadau fel <a href=\"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/\">Yr Egin<\/a> yn agor drysau newydd&nbsp;iddi.<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cMae siarad gyda arbenigwyr sy\u2019n gweithio yn y maes wedi fy helpu i baratoi o ran beth i\u2019w ddisgwyl pan yn chwilio am swyddi, sut i ddod o hyd i gyfleoedd o fewn y maes, canolbwyntio ar gysylltiadau ac yn y pen draw, sut i gael swydd y gallwch fod yn falch&nbsp;ohono.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>Mae cysylltiad Mia gyda\u2019r Egin wedi bod yn rhan allweddol o\u2019i thaith. Daeth Mia i\u2019r Egin ar brofiad gwaith pan roedd hi\u2019n astudio Lefel A Busnes. Ar \u00f4l i Mia fynegu\u2019i diddordeb mewn gemau ac animeiddio, cafodd ei chyflogi yno\u2019n rhan-amser gyda\u2019r t\u00eem yna yn awyddus iawn i\u2019w chefnogi a chynnig cyfleon gwerthfawr&nbsp;iddi.<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cDros y dair blynedd ddiwethaf, dwi wedi bod yn arwain gweithdai animeiddio a sgrin werdd i blant, yn rhedeg y sinema, ac yn datblygu fy sgiliau technegol yn ogystal \u00e2 fy sgiliau creadigol. Rydw i hefyd wedi bod yn gweithio yn y caffi ers tua blwyddyn, sydd wedi bod yn ddefnyddiol er mwyn codi hyder, ac i&nbsp;roi\u2019r cyfle i mi gwrdd \u00e2 nifer o weithwyr proffesiynol o\u2019r diwydiant sy\u2019n gweithio yn Yr Egin yn&nbsp;amlach.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r holl brofiadau uchod wedi gwneud gwahaniaeth mawr i ddatblygiad Mia. Maent wedi roi\u2019r hyder iddi gredu ei gallu, a\u2019i pharatoi ar gyfer y byd gwaith wedi&nbsp;graddio.<\/p>\n\n\n\n<p>Meddai Carys Ifan, Cyfarwyddwr Yr&nbsp;Egin:&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cMae\u2019r&nbsp;Egin&nbsp;yn&nbsp;bont&nbsp;allweddol&nbsp;rhwng&nbsp;myfyrwyr&nbsp;PCYDDS&nbsp;\u00e2&nbsp;diwydiant,&nbsp;mae&nbsp;darparu&nbsp;cysylltiadau&nbsp;a&nbsp;chodi&nbsp;ymwybyddiaeth&nbsp;o\u2019r&nbsp;llwybrau&nbsp;gyrfa&nbsp;posibl&nbsp;i&nbsp;raddedigion&nbsp;yn&nbsp;ganolog&nbsp;i\u2019n&nbsp;gwaith&nbsp;yn&nbsp;ogystal&nbsp;\u00e2&nbsp;darparu&nbsp;cyfleon&nbsp;i&nbsp;fyfyrwyr&nbsp;siarad&nbsp;Cymraeg<\/p>\n\n\n\n<p>&nbsp;Mae&nbsp;wedi&nbsp;bod&nbsp;yn&nbsp;bleser&nbsp;gweld&nbsp;Mia&nbsp;yn&nbsp;datblygu&nbsp;yn&nbsp;ystod&nbsp;y&nbsp;blynyddoedd&nbsp;diwetha\u2019,&nbsp;mae&nbsp;hi&nbsp;wedi&nbsp;gwneud&nbsp;yn&nbsp;fawr&nbsp;o &nbsp;bob&nbsp;cyfle&nbsp;yn&nbsp;ystod&nbsp;ei&nbsp;chyfnod&nbsp;fel&nbsp;myfyrwraig,&nbsp;boed&nbsp;hynny&nbsp;yn&nbsp;darparu&nbsp;gweithdy&nbsp;ar&nbsp;ran Yr&nbsp;Egin&nbsp;yn&nbsp;y&nbsp;gymuned&nbsp;neu&nbsp;gweithio&nbsp;yma&nbsp;bob&nbsp;dydd&nbsp;Mawrth&nbsp;gan&nbsp;ddatblygu&nbsp;nid&nbsp;yn&nbsp;unig&nbsp;gallu&nbsp;a&nbsp;dealltwriaeth&nbsp;academaidd&nbsp;ond&nbsp;hefyd&nbsp;sgiliau&nbsp;meddal&nbsp;hanfodol.\u201d&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Mia ar hyn o bryd yn gweithio ar ei thraethawd hir, ac mae\u2019n canmol ei darlithwyr am fod mor gefnogol.&nbsp;Ychwanegodd:&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cYn bersonol, mae pob un o fy narlithwyr wedi bod yn agored ac yn gymwynasgar iawn wrth ofyn am unrhyw gefnogaeth neu gymorth o ran deall aseiniadau neu gynnwys&nbsp;darlithoedd.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>Dywedodd Adam Head, Darlithydd <a href=\"https:\/\/www.uwtsd.ac.uk\/cy\/pynciau\/cyfrifiadura\">Cyfrifiadura<\/a> yn&nbsp;PCYDDS:<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cWrth iddi baratoi i raddio eleni, mae taith Mia dros y tair blynedd diwethaf ar y cwrs BA Dylunio Gemau yn Y Drindod Dewi Sant yn tynnu sylw at ei thwf trawiadol fel dylunydd gemau ac artist. Mae hi wedi datblygu o archwilio syniadau gweledol cynnar i gynhyrchu celf gemau hyderus, caboledig sy\u2019n gwella\u2019r profiad chwarae a phrofiad cyffredinol y chwaraewr. Mae Mia yn mynd ati i\u2019w gwaith gyda chreadigrwydd, ymroddiad, ac yn agored i adborth, gan ddangos aeddfedrwydd a balchder gwirioneddol yn ei chrefft. Mae ei datblygiad dros y cwrs yn adlewyrchu talent angerddol a galluog sy\u2019n dod i\u2019r amlwg mewn dylunio&nbsp;gemau.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>Wrth edrych tua\u2019r dyfodol, mae Mia yn gobeithio cael swydd lefel mynediad mewn stiwdio gemau yng Nghymru, gan adeiladu profiad a chysylltiadau gwerthfawr. Yn y cyfamser, mae\u2019n bwriadu parhau i weithio\u2019n llawrydd wrth barhau \u00e2\u2019i r\u00f4l yn Yr&nbsp;Egin.<\/p>\n\n\n\n<p>Meddai:<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cByddwn i\u2019n argymell y cwrs hwn i unrhyw un sydd \u00e2 diddordeb mewn gemau. Dw i wedi gwneud ffrindiau am oes, wedi dysgu cymaint o sgiliau gwerthfawr, ac alla i ddim diolch y staff ddigon am eu cefnogaeth. Mae\u2019n gallu bod yn heriol ar adegau, ond os oes gennych uchelgais ac awydd i ddysgu, mae\u2019n brofiad&nbsp;anhygoel.\u201d<\/p>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"gwybodaeth-bellach\"><strong>Gwybodaeth&nbsp;Bellach<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\" id=\"lowri-thomas\"><strong>Lowri&nbsp;Thomas<\/strong><\/h3>\n\n\n\n<p>Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;<br>Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;<br>E-bost: <a href=\"mailto:lowri.thomas@pcydds.ac.uk\"><strong><u>lowri.thomas@pcydds.ac.uk<\/u><\/strong><\/a>&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;<br>Ff\u00f4n:&nbsp;07449&nbsp;998476<\/p>\n<\/div>\n<span class=\"et_bloom_bottom_trigger\"><\/span>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>The University has been more than a place to study for Mia Harries, who is studying BA Computer Game Design at the University of Wales Trinity Saint David (UWTSD). &nbsp;She has been growing in confidence, creativity and has a vision for the&nbsp;future.&nbsp; Mia chose to come to UWTSD because of the presence of the Welsh [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":254227,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[13],"tags":[],"class_list":["post-254221","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-news"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/254221","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=254221"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/254221\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":254223,"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/254221\/revisions\/254223"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/254227"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=254221"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=254221"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=254221"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}