{"id":254235,"date":"2025-11-12T14:09:00","date_gmt":"2025-11-12T14:09:00","guid":{"rendered":"https:\/\/yregin.cymru\/?p=254235"},"modified":"2026-04-27T14:12:20","modified_gmt":"2026-04-27T14:12:20","slug":"further-education-colleges-visit-yr-egin","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/further-education-colleges-visit-yr-egin\/","title":{"rendered":"Colegau addysg bellach yn ymweld \u00e2\u2019r Egin."},"content":{"rendered":"<div class=\"wp-block-group is-layout-constrained wp-block-group-is-layout-constrained\">\n<p>Yn ddiweddar, bu myfyrwyr o Goleg Ceredigion a Choleg Sir Benfro yn ymweld \u00e2<a href=\"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/\"> Chanolfan S4C Yr Egin <\/a>ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, i ddarganfod y cyfleoedd cyffrous sydd ar gael o fewn y diwydiannau creadigol yng Ngorllewin&nbsp;Cymru.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.uwtsd.ac.uk\/sites\/default\/files\/styles\/media_item_uncropped\/public\/2025-11\/Coleg%20Sir%20Benfro%20-%20yr%20Egin.JPG?itok=8T83j83U\" alt=\"an image of Pembrokeshire College sitting in Y Galon - Yr Egin \"\/><\/figure>\n\n\n\n<p>\u201cNod Yr Egin yw tanio egni creadigol a mae croesawu myfyrwyr colegau addysg bellach yn gyfle arbennig i wireddu hyn.\u201d meddai&nbsp; Carys Ifan, Cyfarwyddwr Yr&nbsp;Egin&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cBu\u2019r ddau ymweliad yn gyfle i gynnig hyfforddiant proffesiynol ym maes y cyfryngau, celfyddydau a thechnoleg i fyfyrwyr o Sir Benfro a Cheredigion yn ogystal \u00e2g amlygu y cyfleon sydd iddynt yma yng ngorllewin Cymru o ran llwybrau addysg uwch a gyrfa. Hoffwn diolch i\u2019r darlithwyr am y cydweithio rhwydd a hefyd i\u2019r myfyrwyr sydd bob tro yn ein ysbrydoli ni, edrychwn ymlaen at eu croesawu eto yn y&nbsp;dyfodol.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>Cafodd myfyrwyr Technoleg Gwybodaeth o Goleg Ceredigion diwrnod llawn gweithdai a chyflwyniadau difyr wrth ymweld \u00e2\u2019r Egin, gan dderbyn cyflwyniad i weledigaeth y ganolfan o feithrin talent, i\u2019r 16 cwmni creadigol sydd wedi ymgartrefu yno, yr adnoddau arloesol yn Yr Egin ac ar gampws y Brifysgol Cymerodd y myfyrwyr ran mewn gweithdy ymarferol dan arweiniad Dr Brett Aggersberg, darlithydd<a href=\"https:\/\/www.uwtsd.ac.uk\/cy\/pynciau\/ffilm-cyfryngau-ac-animeiddio\/cyfleusterau\/caerfyrddin\"> Gwneud Ffilmiau Antur <\/a>o\u2019r Brifysgol, cyn cael cyfle i archwilio\u2019r ystafell drochi arloesol ar y campws a chlywed gan d\u00eem y Brifysgol am y dechnoleg a\u2019r cyfleoedd sydd ar gael. Gorffennwyd y diwrnod gyda chyflwyniad gan Kevin Davies, Rheolwr Llwyfan a Phlatfform S4C, a rannodd fewnwelediadau gwerthfawr i\u2019w systemau&nbsp;digidol.<\/p>\n\n\n\n<p>Dywedodd Aled Richards, Darlithydd Technoleg Gwybodaeth o Goleg&nbsp;Ceredigion<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cCawsom brofiad ardderchog yn dysgu am sut mae\u2019r Egin yn gweithio a\u2019r busnesau sy\u2019n gweithredu yna, ac roedd yn wych cael profiad ymarferol o greu ffilm a defnyddio\u2019r ystafell&nbsp;trochi.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>Yn ystod mis Hydref, bu Llinos Jones, Rheolwr Ymgysylltu Yr Egin, a Lowri Si\u00f4n Evans, Cydlynydd <em>Gwd Thing&nbsp;: Sir Benfro<\/em>, yn ymweld \u00e2 Choleg Sir Benfro i gyflwyno\u2019r Brifysgol a\u2019r Egin i\u2019r myfyrwyr, gan ddarparu gweithdy creu reels ar gyfer cyfryngau cymdeithasol ynghyd \u00e2 esbonio amcanion y prosiect <em>Gwd Thing&nbsp;: Sir Benfr<\/em>o (prosiect sydd wedi derbyn \u00a349,952 gan Lywodraeth Prydain drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU a ddosberthir gan Gyngor Sir Penfro)&nbsp;.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn dilyn hynny, gwnaeth myfyrwyr Cynhyrchu Cyfryngau Coleg Sir Benfro dreulio diwrnod llawn yn Yr Egin, gan gymryd rhan mewn cyflwyniadau a gweithdai gyda Stori Cymru a ReThink PR and Marketing, dau gwmni lleol proffesiynol sy\u2019n cydweithio\u2019n agos \u00e2\u2019r Ganolfan. Roedd y sesiynau hefyd yn cynnwys cyfraniad gan James Owen, Perchennog Stori Cymru sydd hefyd yn gyn-fyfyriwr o\u2019r brifysgol, a rannodd ei brofiadau o ddatblygu gyrfa o fewn y sector creadigol yng Ngorllewin&nbsp;Cymru.<\/p>\n\n\n\n<p>Dywedodd Denys Bassett-Jones o Goleg Sir&nbsp;Benfro:<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cRoedd y gweithdai\u2019n arbennig iawn ac roedd y myfyrwyr yn bositif iawn am eu profiad. Derbyniodd y myfyrwyr wybodaeth helaeth, ac rwy\u2019n si\u0175r y byddant yn rhoi\u2019r hyn a ddysgon nhw ddoe ar waith yn eu hasesiadau a\u2019u prosiectau allanol yn y dyfodol. Mae bob amser yn fwy effeithiol pan ddaw\u2019r neges gan rywun arall yn hytrach na ni! Gobeithio y gallwn ddod o hyd i ffyrdd pellach o gysylltu a chydweithio yn y&nbsp;dyfodol.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r bartneriaeth rhwng Yr Egin a\u2019r colegau lleol yn parhau i ysbrydoli myfyrwyr drwy ymweliadau o\u2019r fath, i ystyried gyrfa o fewn y diwydiannau creadigol, gan feithrin cysylltiadau gwerthfawr rhwng addysg, diwydiant a chymunedau Gorllewin&nbsp;Cymru.<\/p>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"gwybodaeth-bellach\"><strong>Gwybodaeth&nbsp;Bellach<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\" id=\"lowri-thomas\"><strong>Lowri&nbsp;Thomas<\/strong><\/h3>\n\n\n\n<p>Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;<br>Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;<br>E-bost: <a href=\"mailto:lowri.thomas@pcydds.ac.uk\"><strong><u>lowri.thomas@pcydds.ac.uk<\/u><\/strong><\/a>&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;<br>Ff\u00f4n:&nbsp;07449&nbsp;998476<\/p>\n<\/div>\n<span class=\"et_bloom_bottom_trigger\"><\/span>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Students from Coleg Ceredigion and Pembrokeshire College recently visited Canolfan S4C yr Egin at the University of Wales Trinity Saint David to find out about the exciting opportunities available within the creative industries in West&nbsp;Wales.&nbsp; \u201cYr Egin aims to ignite creative energy, and welcoming students from further education colleges provides a great opportunity to make [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":254237,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[13],"tags":[],"class_list":["post-254235","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-news"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/254235","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=254235"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/254235\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":254239,"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/254235\/revisions\/254239"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/254237"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=254235"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=254235"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/yregin.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=254235"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}