Y Galon

Lansiad swyddogol neu gig gerddorol? Dau air: Fan hyn!

Mae’r Galon yn ofod hyblyg lle gellir cynnal gweithdai, dosbarthiadau meistr, arddangosfeydd neu berfformiadau – a hynny oll yng nghalon y ganolfan.

Er mwyn cynnig hyblygrwydd, nid oes gan yr ardal hon lwyfan parhaol. Mae sgrin yn caniatáu cyflwyniadau gweledol, naill ai yn rhan o ddigwyddiad neu yn gefndir gweledol. Gellir cynnal digwyddiadau annibynnol yma neu ddefnyddio’r gofod fel estyniad o’r hyn sy’n digwydd yn Y Stiwdio Fach.

  • Hyd at 150 o bobl
  • Sgrîn fawr

Er mwyn archebu, nodwch fanylion eich cyfarfod isod, ac fe wnewn ni gysylltu’n fuan.