Mae Urdd Gobaith Cymru yn Gorff Ieuenctid Gwirfoddol Cenedlaethol â dros 55,000 o aelodau rhwng 8 a 25 mlwydd oed. Ers 1922, maent yn darparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc fwynhau profiadau trwy gyfrwng y Gymraeg a fydd yn eu galluogi i wneud cyfraniad cadarnhaol yn eu cymunedau. Mae swyddfa’r Urdd yn Yr Egin bennaf yn cael ei ddefnyddio gan dîm Urdd Myrddin, yn ogystal â nifer o staff ac adrannau’r mudiad o draws y rhanbarth gan gynnwys adran yr Eisteddfod a Chwaraeon ac yn fan cyfarfod defnyddiol i swyddogion celfyddydol Sir Gâr, Ceredigion a Sir Benfro.