Cyfle Creu Fidios Bandiau Ifanc

Fel rhan o brosiect TANIO rydym yn chwilio am gwmni neu unigolyn i gydweithio â phobl ifanc i ddatblygu fideos cerddoriaeth sy’n arddangos y talent eithriadol sydd yma yn Sir Gâr. Nod y prosiect hwn yw meithrin sgiliau talent ifanc a thynnu sylw at y gymuned greadigol fywiog yn ein rhanbarth. Bydd y cyfle hwn yn caniatáu i gwmni neu unigolyn weithio’n agos gyda bandiau cerddoriaeth ifanc i gynhyrchu 4 fideo cerddoriaeth, tra hefyd yn rhoi cyfle i unigolion uchelgeisiol sydd â diddordeb mewn gwaith camera, ffilmio, golygu a chynhyrchu cerddoriaeth gymryd rhan yn y broses.

Rydym yn chwilio am gwmni / unigolyn sydd:

  • yn rhoi llais pobl ifanc wrth galon eu gwaith, gan wrando ar eu syniadau a’u datblygu yn ddeallus i’r fideo cerddoriaeth.
  • â phrofiad o ddatblygu a throsglwyddo syniadau artistig i’r sgrîn.
  • yn gweithio’n y Gymraeg.
  • â phrofiad o greu fideos cerddoriaeth a’r holl ofynion cerddorol, saethu a golygu.
  • yn datblygu dealltwriaeth eraill o ofynion rhannu cynnwys ar blatfformau digidol.

Cynhelir y prosiect yn ystod gwyliau haf 2024, dros gyfnod o bum wythnos. Ein nod yw cydweithio â phedwar band lleol, ifanc, newydd o Sir Gâr. Disgwylir i’r fideos cerddoriaeth terfynol gael eu cyflwyno erbyn 30 Awst yn y fformatau priodol ar gyfer rhannu ar:

  • Facebook
  • Instagram
  • Tiktok
  • Youtube

Bydd gofyn i’r fideos cael eu cyflwyno mewn gwahanol fersiynau fel ei bod ar gael i’r bandiau i’w defnyddio i hyrwyddo ar eu cyfryngau cymdeithasol eu hunain.

Bydd y gwaith cynhyrchu cerddoriaeth wedi ei wneud o flaen llaw a phob band wedi bod yn y stiwdio recordio, byddwch chi’n derbyn trac wedi ei gwblhau ar gyfer y ffilmio.

Ar ddiwedd y prosiect, byddwn yn cynnal arddangosfa o’r gwaith yn Yr Egin, a bydd y fideos cerddoriaeth i’w gweld ar lwyfannau amrywiol.

I ymgeisio am y prosiect hwn, cyflwynwch y canlynol:

  • CV diweddar.
  • Llythyr A4 neu fidio yn egluro pam yr hoffech wneud y gwaith hwn.
  • Dyfynbris manwl yn amlinellu cost y prosiect. Uchafswm cyllideb sydd ar gael : £8000
  • Polisïau / Dogfennaeth yn ymwneud â Diogelu a Chynaladwyedd

Sicrhewch fod y dyfynbris yn cynnwys dadansoddiad o’r holl gostau sy’n gysylltiedig â’r cynhyrchiad, gan gynnwys ffilmio, golygu, ac unrhyw gostau perthnasol eraill, yn cynnwys TAW.

Edrychwn ymlaen at dderbyn eich cynnig erbyn 12.00 (hanner dydd) 10.7.24

Ebostiwch ceisiadau at  : helo@yregin.cymru

GWERTHUSO’R CEISIADAU

Asesir y ceisiadau a ddaw i law ar sail ansawdd a phris, fel ei gilydd. Defnyddir y matrics sgorio isod i werthuso’r ceisiadau a ddaw i law:

ASESIADDISGRIFIADSGÔR
EithriadolYn rhagori ar yr hyn sy’n ofynnol ac yn cynnwys manteision ychwanegol sylweddol. Yn ogystal ag amlygu’r gallu, yr hyblygrwydd, y ddealltwriaeth, y sgiliau, yr adnoddau a’r mesurau ansawdd perthnasol sy’n ofynnol i ddarparu’r gwasanaeth, mae ymateb yr ymgeisydd yn nodi ffactorau a fydd yn cynnig gwerth ychwanegol sylweddol posibl. Darparwyd tystiolaeth sylweddol i gefnogi’r ymateb.10
RhagorolMae’r ymateb yn bodloni’r holl ofynion ac yn darparu tystiolaeth lawn i gefnogi’r cais, gyda gwerth a manteision ychwanegol a lefel uchel o hyder.9
Da iawnMae’r ymateb yn bodloni’r holl ofynion ac yn cynnwys sail dystiolaeth dda a rhai manteision ychwanegol.8
DaMae’r ymateb yn bodloni’r holl ofynion i’r lefel sy’n ofynnol. Dim pryderon.7
CymwysMae’r ymateb yn gyflawn ac yn bodloni’r holl ofynion sylfaenol. Ambell fân bryder.6
DerbyniolMae’r ymateb yn bodloni’r holl ofynion sylfaenol, ond â phryderon.5
BoddhaolMae’r ymateb yn gyflawn ond nid yw’n darparu tystiolaeth ddigonol y gellir bodloni’r holl ofynion sylfaenol.4
Llai na BoddhaolMae’r ymateb yn gyflawn ond nid yw’n bodloni’r holl ofynion sylfaenol, ac nid yw’n darparu tystiolaeth ddigonol y gellir bodloni’r gofynion hyn.3
AnnigonolMae’r ymateb yn rannol gyflawn, ychydig o ddiffyg cydymffurfedd, ac nid yw’n bodloni rhai o’r gofynion sylfaenol.2
AnnerbyniolMae’r ymateb yn anghyflawn, yn amlygu diffyg cydymffurfedd, nid yw’n bodloni unrhyw ofynion sylfaenol, ac nid yw’n darparu sail dystiolaeth.1
Dim YmatebNi wnaed cais.0

Cwestiynau ynghylch Ansawdd y Cais

Mae’n ofynnol i chi ymateb i’r cwestiynau a’r materion canlynol fesul rhif ac yn y drefn y cânt eu cyflwyno. Nodwch y gallai peidio â chydymffurfio â’r cais hwn effeithio ar werthusiad eich cyflwyniad.

TYSTIOLAETH O WAITH SYDD  :
rhoi llais pobl ifanc wrth galon eu gwaith, gan wrando ar eu syniadau a’u datblygu yn ddeallus i’r fideo cerddoriaeth.  Allan o 10
â phrofiad o ddatblygu a throsglwyddo syniadau artistig i’r sgrîn.  Allan o 10  
yn gweithio’n y Gymraeg.  Allan o 10  
â phrofiad o greu fideos cerddoriaeth a’r holl ofynion cerddorol, saethu a golygu.  Allan o 10  
  yn datblygu dealltwriaeth eraill o ofynion rhannu cynnwys ar blatfformau digidol.  Allan o 10  
DOGFENNAU ATODOL :
CVAllan o 10  
DyfynbrisAllan o 10  
Polisiau / Dogfennaeth Diogelu a ChynaladwyeddAllan o 10  
 Uchafswm Sgôr : 80

Subscribe To Our Newsletter

Register for our email list to receive the latest news and information about up and coming events. 

You have Successfully Subscribed!