
Ni fydd rhaid i Gruffydd deithio’n bell ar gyfer y gig Nadolig yma, gan fod y canwr, sydd yn wreiddiol o Ynys Môn, wedi’i benodi’n Gydlynydd Digwyddiadau a Phrosiectau yng Nghanolfan S4C Yr Egin yn ddiweddar. Astudiodd Gruffydd BA mewn Perfformio ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yma yng Nghaerfyrddin ac ers hynny mae wedi ymgartrefu yn y dref. Dechreuodd Gruffydd weithio yn Yr Egin yn 2021, fel Cynorthwyydd Profiad Cwsmer a Digwyddiadau a chafodd ddyrchafiad i’w rôl newydd ar ddechrau’r mis. Dywed Gruff,
“Alla i ddim aros i ganu gyda ‘50 Shêds of Santa Clôs’ am y tro cyntaf eleni! Mi fydd yn brofiad gwych. Mae’r Nadolig bob amser yn gyfnod prysur o’r flwyddyn i mi fel canwr a dyw eleni ddim gwahanol. Byddaf yn teithio ar hyd a lled y wlad, yn perfformio yng Nghaerfyrddin, Aberystwyth, Y Rhyl (lle byddaf yn cynnau goleuadau Nadolig y dref!), Ynys Môn a Chaerdydd i enwi ond rhai lleoliadau. Ar ôl rhai blynyddoedd heriol i’r diwydiant, mae’n wych bod yn brysur ac yn ôl ar y llwyfan yn perfformio unwaith eto.”
Crëwyd ‘50 Shêds o Lleucu Llwyd’ gan Rhys Taylor, chwaraewr clarinét adnabyddus, sydd hefyd yn gyfarwyddwr cerdd. Yn y gorffennol, mae’r band wedi rhoi gweddnewidiad i ganeuon Nadolig Mariah Carey, Slade, Caryl Parry Jones a The Pogues yn ystod eu sioeau.
Cynhelir ‘50 Shêds o Santa Clôs yng Nghanolfan S4C Yr Egin, Caerfyrddin, ar y 9fed o Ragfyr am 8pm. Dyma’r ffordd berffaith i ddechrau eich dathliadau Nadoligaidd – bydd y cwrw yn llifo, y tinsel yn sheino a’r tiwns yn atseinio! Mynnwch eich tocynnau yma.
I gael y wybodaeth ddiweddara’ am bob dim sydd gan Ganolfan S4C Yr Egin i’w gynnig, cadwch lygad ar ein gwefan a dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol - @yr_egin.
Gallwch hefyd gadw mewn cysylltiad â phopeth y mae Gruffydd Wyn wedi'i gynllunio drwy fynd i'w wefan - gruffwyn.com.