Ein Stori
Yn ganolfan greadigol a digidol
... ar gampws Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin, mae Yr Egin yma i wasanaethu Cymru, i danio dychymyg creadigol ac i feithrin talentau’r dyfodol.
Mae Canolfan S4C Yr Egin wedi ei lleoli yn nhref hynaf Cymru ac o fewn taith 90 munud i oddeutu 65% o holl siaradwyr y Gymraeg yng Nghymru. Agorwyd Yr Egin yn swyddogol gan y Prif Weinidog, Carwyn Jones AS ym mis Hydref 2018, a chafwyd dathliad trawiadol ar hyd strydoedd Caerfyrddin er mwyn nodi hynny. Canolfan greadigol arloesol yw’r Egin, un y gall Cymru gyfan ymhyfrydu ynddi.
Un o nodau’r Egin oedd gweithredu fel catalydd ar gyfer hybu a chryfhau adfywiad ieithyddol yn Sir Gâr.
Ers mis Tachwedd 2025 mae Canolfan S4C Yr Egin yn ran o Ganolfan Gwasanaethau Cymraeg, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ac yn parhau i gydweithio’n agos iawn gyda nifer o adrannau o fewn y Brifysgol ynghyd a thenantiaid y Ganolfan.
Mae Canolfan S4C Yr Egin yn ddatblygiad i’w drysori gyda’r nod o wasanaethu Cymru, tanio ei dychymyg creadigol a meithrin talentau’r dyfodol.
Ein pobl.

Llinos Jones
Rheolwr Ymgysylltu
Llinos yw Rheolwr Ymgysylltu Canolfan S4C Yr Egin. Mae Llinos yn mwynhau gweithio gyda phobol o bob oed ac wrth ei bodd yn ymgysylltu gyda grwpiau a mudiadau amrywiol yn Yr Egin ac yn y gymuned leol gan ddatblygu llu o brosiectau a gweithgareddau sy’n cynnig cyfleon creadigol. Llinos sydd hefyd yn gyfrifol am gydlynnu diwrnodau gyrfaoedd a phrofiad gwaith ar gyfer disgyblion ysgol a myfyrwyr, os ydych eisiau cyfle – cysylltwch â Llinos!

Marc Poloz
Technegydd Aml-Gyfrwng
Marc (neu Poloz fel mae pawb yn ei adnabod!) yw Technegydd Aml-Gyfrwng y Ganolfan. Mae Marc ar gael i gynorthwyo gydag unrhyw ofynion technegol, boed hynny yn ymwneud gyda sain, goleuo, fideo, ffilmio a phob dim yn y canol pan fyddwch yn cynnal digwyddiad yn Yr Egin neu arlein, ac yn barod i helpu gydag unrhyw gais neu gwestiwn.

Lowri Siôn Evans
Cynorthwy-ydd Gofal Cwsmer (Cefnogi Gweithdai)
Gwên Lowri Siôn sydd yn disgwyl amdanoch wrth i chi ddod i mewn trwy ddrws Yr Egin a bydd hi yno i’ch cynorthwyo bob cam. Wrth ei bodd yn gweithio gyda phlant trwy ddulliau creadigol, Lowri sy’n cynllunio a chydlynu gweithdai addysgiadol y ganolfan ar gyfer pob oedran.
Y siwrne.
Ym mis Mawrth 2014, yn dilyn proses gystadleuol, cadarnhaodd Awdurdod S4C y byddai pencadlys y Sianel yn cael ei adleoli i gampws Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin, yn rhan o ganolfan newydd fyddai’n gartref i glwstwr o gwmnïau a sefydliadau o’r diwydiannau creadigol.
Yr adeilad.
Niall Maxwell o’r Rural Office for Architecture a leolir yn Sir Gar a BDP oedd penseiri’r adeilad ac mae’r cydweithio llwyddiannus wedi arwain at greu adeilad cwbwl drawiadol sydd yn destun balchder yn ogystal ag yn weithle pleserus sy’n annog cydweithio, cyfathrebu a rhyngweithio rhwng holl ddefnyddwyr yr adeilad.
Mae’r cynllun wedi’i seilio ar y berthynas rhwng y Brifysgol, tenantiaid y Ganolfan a’r gymuned ehangach ac yn cael ei adlewyrchu yn nyluniad yr adeilad; ffurf drionglog wedi ei wreiddio yn nhirwedd Sir Gâr.
Ein prif amcanion.
Creu buddiannau ieithyddol, diwylliannol, economaidd a chymdeithasol yng Nghaerfyrddin a’r De Orllewin.
Sefydlu canolfan greadigol o ansawdd a statws rhyngwladol, gyda phencadlys S4C yn galon iddi.
Sbarduno buddsoddiad a thwf economaidd pellach yn Sir Gaerfyrddin a thu hwnt.
Codi statws y Gymraeg a’i diwylliant yng Nghaerfyrddin a’r ardal gyfagos mewn modd cyhoeddus, cyfoes a chyffrous.
Creu cymuned ddiwylliannol gyffrous er mwyn ysbrydoli ac egnïo mudiadau cymdeithasol a chymunedau amrywiol ar draws y rhanbarth.
