Gweithio

Mae Yr Egin yn hwb ar gyfer y diwydiannau creadigol yn Ne-orllewin Cymru, ac rydym yn ymfalchïo yn y gymuned sydd wedi ei chreu ymysg y cwmnïau yma.

Rydym yn cynnig lle i bobl lawrydd neu fusnesau logi desg dros dro yn ein gofod cydweithio – naill ai am y diwrnod neu yn ôl patrwm mwy rheolaidd. Wrth i nifer o bobl chwilio am y cydbwysedd iawn rhwng gweithio gartref a gweithio mewn swyddfa, atebir y gofynion i gyd yn ein gofod cydweithio!

Mae’r gofod cydweithio ar y trydydd llawr yn cynnig lle i dros 10 o bobl weithio, ac wedi’i gynnwys yn y pris mae ...

Desg am y diwrnod

Parcio

Ystafell gyfarfod ar gyfer sgyrsiau preifat neu gyfarfodydd ar-lein (modd archebu slotiau amser i’w defnyddio)

Cysylltiad trydan a WiFi (cyflym tu hwnt)

Defnydd o’r gegin

Cyfle i rwydweithio a gweithio gyda chymuned glos

Cadwch eich desg

Cysylltwch â ni ...

I archebu eich lle anfonwch neges e-bost at helo@yregin.cymru – mae croeso i chi archebu ymlaen llaw ond hefyd rydym yn cymryd ceisiadau ar y dydd yn ddibynnol ar le.

Prisiau yn dechrau o £20 y dydd.

Ceir gwybodaeth am y Gymuned Greadigol sydd wedi’i lleoli yn yr Egin yma.

Ffoniwch: (+44) 1267 611 600

Tanysgrifiwch i'n Cylchlythyr

Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyrau i dderbyn y newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau sydd ar ddod. 

Rydych chi wedi tanysgrifio yn llwyddiannus!