Eich Canolfan

Mae Yr Egin yn ganolfan greadigol a digidol wedi’i lleoli ar gampws Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin, ac mae yma i wasanaethu Cymru, i danio dychymyg creadigol ac i feithrin talentau’r dyfodol.

Mae Yr Egin yn bair creadigol – mae’n lle sy’n rhoi cyfle i ymarferwyr ac entrepreneuriaid o wahanol ddisgyblaethau rannu adnoddau, sbarduno syniadau, datblygu cysylltiadau a meithrin talentau. Wedi’i gwreiddio yn Sir Gâr, mae’n cynnig cyfleoedd i bobl leol o bob oed gymryd rhan a mwynhau’r ganolfan a’i llu o wahanol adnoddau.

Mae gennym raglen amrywiol o ddigwyddiadau, gweithdai, perfformiadau, sgyrsiau a dangosiadau ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd, yn ogystal â gweithgareddau penodol ar gyfer pobl sy’n gweithio yn y diwydiannau creadigol a digidol. Ewch i’r dudalen Beth sydd ’mlaen i weld y rhaglen lawn.

Rydym hefyd yn gartref i nifer o gwmnïau creadigol a digidol mwyaf blaenllaw Cymru – i gyd o dan yr un to. Mae yna gyfle yma i bobl lawrydd weithio, cyfle i logi adnoddau ac ystafelloedd, yn ogystal â chyfle i gynnaal digwyddiadau o feintiau gwahanol.

Dewch draw – am baned, i gydweithio neu i fynd i ddigwyddiad, bydd croeso cynnes yma i chi.

Tanysgrifiwch i'n Cylchlythyr

Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyrau i dderbyn y newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau sydd ar ddod. 

Rydych chi wedi tanysgrifio yn llwyddiannus!