Mae ‘50 Shêds o Santa Clôs’ yn dychwelyd i Ganolfan S4C Yr Egin, gyda seren Britain’s Got Talent, Gruffydd Wyn, yn camu i'r meic!’  

I'r rhai sydd heb wneud unrhyw gynlluniau ar gyfer parti ‘dolig eto, does dim angen poeni gan fod'50 Shêds of Lleucu Llwyd'yn dychwelyd i Ganolfan S4C Yr Egin gyda'u sioe Nadolig anhygoel, '50 Shêds o Santa Clôs'. Gyda’u ‘mash-ups’, fersiynau newydd a gweddnewidiadau o ganeuon Nadolig enwocaf Cymru, bydd y sioe hon yn sicr o’ch rhoi chi yn ysbryd yr ŵyl! Yn canu gyda’r band eleni, mae Sara Davies, Pennaeth Adran Gerdd Ysgol Henry Richard, Tregaron, a neb llai na Gruffydd Wyn, seren Britain’s Got Talent, 2018..  

Ni fydd rhaid i Gruffydd deithio’n bell ar gyfer y gig Nadolig yma, gan fod y canwr, sydd yn wreiddiol o Ynys Môn, wedi’i benodi’n Gydlynydd Digwyddiadau a Phrosiectau yng Nghanolfan S4C Yr Egin yn ddiweddar. Astudiodd Gruffydd BA mewn Perfformio ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yma yng Nghaerfyrddin ac ers hynny mae wedi ymgartrefu yn y dref. Dechreuodd Gruffydd weithio yn Yr Egin yn 2021, fel Cynorthwyydd Profiad Cwsmer a Digwyddiadau a chafodd ddyrchafiad i’w rôl newydd ar ddechrau’r mis. Dywed Gruff,  

“Alla i ddim aros i ganu gyda ‘50 Shêds of Santa Clôs’ am y tro cyntaf eleni! Mi fydd yn brofiad gwych. Mae’r Nadolig bob amser yn gyfnod prysur o’r flwyddyn i mi fel canwr a dyw eleni ddim gwahanol. Byddaf yn teithio ar hyd a lled y wlad, yn perfformio yng Nghaerfyrddin, Aberystwyth, Y Rhyl (lle byddaf yn cynnau goleuadau Nadolig y dref!), Ynys Môn a Chaerdydd i enwi ond rhai lleoliadau. Ar ôl rhai blynyddoedd heriol i’r diwydiant, mae’n wych bod yn brysur ac yn ôl ar y llwyfan yn perfformio unwaith eto.”  

Crëwyd ‘50 Shêds o Lleucu Llwyd’ gan Rhys Taylor, chwaraewr clarinét adnabyddus, sydd hefyd yn gyfarwyddwr cerdd. Yn y gorffennol, mae’r band wedi rhoi gweddnewidiad i ganeuon Nadolig Mariah Carey, Slade, Caryl Parry Jones a The Pogues yn ystod eu sioeau.  

Cynhelir ‘50 Shêds o Santa Clôs yng Nghanolfan S4C Yr Egin, Caerfyrddin, ar y 9fed o Ragfyr am 8pm. Dyma’r ffordd berffaith i ddechrau eich dathliadau Nadoligaidd – bydd y cwrw yn llifo, y tinsel yn sheino a’r tiwns yn atseinio! Mynnwch eich tocynnau yma.  

I gael y wybodaeth ddiweddara’ am bob dim sydd gan Ganolfan S4C Yr Egin i’w gynnig, cadwch lygad ar ein gwefan a dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol - @yr_egin.  

Gallwch hefyd gadw mewn cysylltiad â phopeth y mae Gruffydd Wyn wedi'i gynllunio drwy fynd i'w wefan - gruffwyn.com.  
 

Tanysgrifiwch i'n Cylchlythyr

Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyrau i dderbyn y newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau sydd ar ddod. 

Rydych chi wedi tanysgrifio yn llwyddiannus!