Mae myfyrwyr o’r cwrs BA Gwneud Ffilmiau a Gwneud Ffilmiau Antur o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi bod yn ffodus o gael y cyfle am brofiad gwaith yn ddiweddar gyda’r gyfres ‘Jonathan’ yng Nghanolfan S4C Yr Egin.
Mae Canolfan S4C Yr Egin wedi bod yn gartref i’r gyfres ‘Jonathan' sy’n cael ei gynhyrchu gan gwmni Avanti, ac o ganlyniad i hynny mae nifer o fyfyrwyr sy’n astudio’r cwrs BA Gwneud Ffilmiau a Gwneud Ffilmiau Antur ar gampws Caerfyrddin wedi gallu manteisio ar y cyfle i ennill profiad gwaith a chysylltiadau diwydiant wrth i’r gyfres gael ei ffilmio yno.
Mae’r myfyrwyr wedi bod yn dod yn wythnosol i’r Egin ar brofiad gwaith yn ystod cyfnod Cyfres yr Hydref a Phencampwriaeth y Chwe Gwlad. Mae wedi bod yn gyfle euraidd i’r myfyrwyr fedru cael blas a phrofiadau ‘go iawn’ o’r hyn sydd gan y diwydiant i’w gynnig yn ystod bwrlwm cynhyrchu’r rhaglen, yn ogystal â chreu cysylltiadau gwerthfawr ar gyfer y dyfodol – a chwrdd ag ambell i seleb!
Un o’r myfyrwyr sydd wedi elwa o’r profiad gwaith yw Finlay Prydderch,
“Diolch i’r Egin, dwi wedi bod yn lwcus iawn i gael y siawns i gael profiad gwaith gyda Avanti ar ei rhaglenni teledu ‘Jonathan’ . Mae wedi bod yn brofiad cofiadwy iawn. Mae’r profiad hwn wedi fy helpu i greu cysylltiadau newydd yn y diwydiant, ac mae wedi bod yn gyfle i mi ddangos be oeddwn i’n gallu’i wneud.
“Y rhan wnes i fwynhau orau oedd cael bod yn rhan o’r criw sydd yn creu’r rhaglen, ac yna ei wylio fo ar y teledu, a meddwl bo fi wedi helpu gwneud hyn. O weithio ar brofiad gwaith ar ‘Jonathan’ dwi wedi bod yn lwcus iawn wedyn i gael y siawns i gael profiad gwaith fel rhedwr ar y rhaglen 'Cân i Gymru'. Roedd hyn yn brofiad hynod o gofiadwy, a dwi’n ddiolchgar iawn i Avanti am y profiad hwn.”
Mae cwmni cynhyrchu Avanti yn falch iawn o allu cynnig cyfleoedd o brofiad gwaith i’r myfyrwyr. Dywedodd Osian Davies, Cyfarwyddwr Gweithrediadau'r cwmni,
“Mae cyd-weithio gyda’r Brifysgol a Chanolfan Yr Egin drwy ddod a thalent newydd i mewn i’r diwydiant yn fraint i Avanti. Mae gymaint o brinder o bobl yn y maes yng Ngorllewin a De Cymru, mae Avanti wedi sylweddoli pwysigrwydd rhoi cyfleon profiad gwaith i fyfyrwyr mewn ystod eang o sgiliau allweddol ar ddarllediadau allanol a stiwdio. Ni’n gobeithio trwy gael y myfyrwyr yn bresennol ar raglenni fel Jonathan a Y Wal Goch yn Yr Egin, y bydd hyn yn rhoi sylfaen gadarn iddynt ddatblygu law yn llaw gyda’u haddysg am y dyfodol.”
Meddai Elen Rhys, Comisiynydd Adloniant S4C:
“Fel un o gyfresi mwyaf hirhoedlog S4C, ry’n ni’n falch iawn o fod wedi gallu croesawu Finlay i ymuno â chriw Jonathan yn yr Egin. Mae gwaith tîm anhygoel yn mynd mewn i sicrhau llwyddiant y gyfres hon a gobeithio fod Finlay wedi elwa o arbenigedd y tîm cynhyrchu ac wedi mwynhau ei gyfnod yng Nghanolfan S4C Yr Egin.”
Mae cyrsiau creadigol campws Caerfyrddin i gyd yn elwa o bresenoldeb Yr Egin a’r myfyrwyr yn cael cyfleoedd a hyfforddiant sy’n cyd-fynd ag anghenion y diwydiant. Bu myfyrwyr sy’n astudio’r cwrs Dylunio Setiau a Chynhyrchu Theatr yn ystod tymor yr Hydref, dderbyn cyngor ac arweiniad gan Dave Marson cynllunydd profiadol sydd hefyd yn gyfrifol am set ‘Jonathan’, yn ogystal â chael y profiad i helpu paratoi ychydig o’r set ar gyfer y ffilm ‘Save the Cinema’.
Heb amheuaeth, mae partneriaethau fel hyn yn llwyddo i ehangu a datblygu cymuned Caerfyrddin Greadigol, ac yn gwireddu gweledigaeth Yr Egin o sicrhau ton o dalent newydd i’r diwydiant yng Ngorllewin Cymru.
Meddai Carys Ifan, Cyfarwyddwr Canolfan S4C Yr Egin,
“Mae’r Egin yn gartref naturiol i raglen Jonathan gyda dau o’r cyflwynwyr sef Jonathan a Nigel o Sir Gâr a Sarra wedi astudio yma yn y Drindod Dewi Sant. Rwy’n diolch yn fawr i bob adran o griw'r rhaglen sydd mor barod i gynnig arweiniad a chefnogaeth i’r myfyrwyr sy’n cael budd gwirioneddol o’r profiad. Dyma gydweithio o’r radd flaenaf er mwyn sicrhau bod yna lwybrau dilyniant i'r diwydiant.”