Mae myfyrwyr o gyrsiau BA Dylunio Setiau a Chynhyrchu a BA Gwneud Ffilmiau Antur o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, campws Caerfyrddin wedi bod ar brofiad gwaith yn ddiweddar i set y gyfres ddrama boblgaidd ‘Yr Amgueddfa' (‘The Museum’) i S4C.
Yn dilyn llwyddiant y gyfres gyntaf, mae’r ail gyfres o ‘Yr Amgueddfa' wrthi’n cael ei ffilmio ac wedi bod yn Amgueddfa Sir Gâr yn ddiweddar. MaeYr Amgueddfayn ddrama wreiddiol gan yr awdur gwobrwyedig Fflur Dafydd, sy’n byw yng Nghaerfyrddin ac yn gweithio o swyddfa Boom Cymru yng Nghanolfan S4C Yr Egin. Mae’n mynd a ni i fyd tywyll a pheryglus trosedd celf ac yn serennu rhai o actorion mwyaf disglair Cymru megis Nia Roberts, Steffan Rhodri, Sharon Morgan a Delyth Wyn i enwi ond ychydig.
Un o amcanion sefydlu Canolfan S4C Yr Egin ar gampws y Drindod Dewi Sant oedd i fod yn ddolen gyswllt, gyda’r bwriad o ysbrydoli creadigrwydd a dychymyg ymhlith y myfyrwyr, gan feithrin talent ar gyfer y dyfodol.
Bu ymweld â'r lleoliad ffilmio yn gyfle euraidd i’r myfyrwyr fedru cael blas a phrofiadau ‘go iawn’ o’r hyn sydd gan y diwydiant i’w gynnig yn ystod bwrlwm cynhyrchu drama, yn ogystal â chreu cysylltiadau gwerthfawr ar gyfer y dyfodol – a chwrdd ag ambell i seleb!
Mae’r awdur, Fflur Dafydd, yn falch o weld y myfyrwyr o gampws Caerfyrddin yn ymddiddori yn y cynhyrchiad.
"Gwych o beth yw gweld myfyrwyr yn cael profiad uniongyrchol o gynhyrchiad proffesiynol fel hyn - un peth yw astudio pwnc, ond peth arall yw cael profiad ymarferol o wneud y gwaith, dyna fel mae rhywun yn dysgu go iawn. Roedd hi'n wych eu bod yn cyfarfod â'r actorion, y cyfarwyddwr, a'r tim technegol, er mwyn cyfoethogi eu gwerthfawrogiad o'r gwaith a'r gofal sydd yn mynd i mewn i greu drama deledu."
Un o’r myfyrwyr sydd wedi treulio amser ar y set yw Sebastian Jones. Dywedodd:
“Mae’n gyfle arbennig i ni fel myfyrwyr i fedru cael blas o’r diwydiant teledu, a dysgu amrywiaeth o sgiliau a therminoleg newydd. Roedd pawb mor gyfeillgar, ac wedi gwneud ni deimlo’n rhan o’r tîm.”
Meddai Tea Stevens-Mclennan, myfyrwraig arall o’r Drindod Dewi Sant:
“Dwi wir wedi mwynhau fy nghyfnod yn gweithio ar y set. Mae wedi bod yn wych i allu helpu’r criw a gweld sut roedd popeth yn gweithio. Roedd pawb yn mynd allan o’i ffordd i’n helpu, yn rhoi cyngor ac yn rhannu straeon gyda ni o’u hamser yn y diwydiant. Gwnaeth hyn wneud i mi deimlo’n gyfforddus yn eu cwmni, ac yn gyffrous i wneud mwy gyda nhw yn y dyfodol.”
I Caitlin Fox, roedd y profiad yn un:
“Fi wir wedi mwynhau ac wedi dysgu llawer. Rwy’n ddiolchgar iawn am y cyfle!”
Dywedodd Siwan Phillips, Pennaeth Cynhyrchu cwmni cynhyrchu Boom Cymru:
“Mae Boom Cymru yn hynod falch i gydweithio gyda’r Drindod Dewi Sant a chynnig cyfle i fyfyrwyr sydd ar eu cwrs Dylunio Setiau a Chynhyrchu, a Gwneud Ffilmiau Antur, i gael profiad gwaith ar leoliad set yr ail gyfres o ddrama S4C, ‘Yr Amgueddfa'.
“Mae’n hanfodol bod y diwydiannau creadigol yn buddsoddi yn y genhedlaeth nesaf o dalent ac yn cynnig profiadau am yr hyn sydd gan y cyfryngau i gynnig iddyn nhw fel gyrfa.
“Rydym yn mawr obeithio y bydd y bartneriaeth yma’n parhau.”
Mae cyrsiau creadigol campws Caerfyrddin i gyd yn elwa o bresenoldeb Yr Egin, ac mae’r myfyrwyr yn cael cyfleoedd a hyfforddiant sy’n cyd-fynd ag anghenion y diwydiant. Bu myfyrwyr o’r cyrsiau Gwneud Ffilmiau Antur a Gwneud Ffilmiau ar brofiad gwaith yn ddiweddar yng Nghanolfan S4C Yr Egin yn ystod ffilmio’r gyfres ‘Jonathan’ ar gyfer S4C. Gwnaeth myfyrwyr sy’n astudio’r cwrs Dylunio Setiau a Chynhyrchu Theatr yn ystod tymor yr Hydref, dderbyn cyngor ac arweiniad gan Dave Marsdon cynllunydd profiadol sy’n gyfrifol am set ‘Jonathan’, yn ogystal â chael y profiad i helpu paratoi elfennauo’r set ar gyfer y ffilm ‘Save the Cinema’.
Dywedodd y darlithydd Stacey- Jo Atkinson:
Roedd yn wych cael y myfyrwyr i fod yn rhan o ffilmio 'Yr Amgueddfa' Mae ymgysylltu â diwydiant yn elfen hanfodol o'n gradd ac mae gallu cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr ar draws y sector creadigol yn hanfodol. Diolch i Carys, Llinos a Catrin am drefnu wythnos mor wych.”
Heb amheuaeth, mae partneriaethau fel hyn yn llwyddo i ehangu a datblygu cymuned Caerfyrddin Greadigol, ac yn gwireddu gweledigaeth Yr Egin o sicrhau ton o dalent newydd i’r diwydiant yng Ngorllewin Cymru.
Meddai Carys Ifan, Cyfarwyddwr Canolfan S4C Yr Egin:
“Ar y naill law mae canfod llwybr mynediad i'r sector ffilm a theledu yn medru bod yn anodd iawn ar brydiau ac ar y llaw arall mae’r sector yn dymuno bod yn fwy cynhwysol ac yn chwilio am dalent yn enwedig gyda’r cynnydd mewn ffilmio drama a sgil effaith covid yn lleihau y nifer o weithwyr llawrydd. Felly mae’r Egin yn falch iawn i fedru gweithredu fel pont ac mae cael adborth mor gadarnhaol gan y myfyrwyr a Boom Cymru yn brawf bod hynny’n lwyddiant. Wrth gynnig profiadau ymarferol yn y diwydiant yn y dalgylch mae’n atgyfnerthu’r neges eu bod yn bosibl datblygu gyrfa yn y cyfryngau tra’n byw yma yng ngorllewin Cymru.”
Bu’r myfyrwyr yn ffodus o fedru ymweld â set y cynhyrchiad yn Abergwili yn ystod y bloc cyntaf o ffilmio, ac maen nhw’n edrych ymlaen yn barod i ddychwelyd ar gyfer yr ail floc a fydd yn digwydd ymhen ychydig wythnosau.