
Hysbys Swydd: Crëwr Cynnwys – Gwd Thing: Sir Benfro
6 Swydd ar Gael
Cyfnod: Gorffennaf – Hydref 2025
Lleoliad: Sir Benfro a’r cyffiniau
Tâl: £12.60 yr awr, i’w gyfrifo yn ôl amser ymrwymiad tua £1,200 am y cyfnod.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 14 Gorffennaf 2025
Dyddiad cyfweliad: 16 Gorffennaf | Dyddiad cychwyn hyfforddiant : 28 Gorffennaf
Mae prosiect ‘Gwd Thing: Sir Benfro’ yn chwilio am 6 Crëwr Cynnwys creadigol, brwdfrydig ac egnïol i ymuno â rhaglen gyffrous sy’n cyfuno hyfforddiant, mentora a chreu cynnwys gyda chyfle i weithio’n agos gyda chymunedau, grwpiau ac artistiaid ar draws y Sir.
Byddwch yn derbyn hyfforddiant mewn creu cynnwys digidol, marchnata creadigol a gwaith cymunedol – cyn defnyddio’r sgiliau hynny i greu cynnwys ystyrlon a chreadigol ar gyfer sianeli cyfryngau cymdeithasol, yn ogystal â darparu gweithdai creadigol yn eu hardaloedd.
Rydym yn chwilio am unigolion sydd:
– Yn angerddol dros adrodd straeon lleol ac yn hoff o weithio gyda phobl.
– Yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol i rannu cynnwys fideo, lluniau a syniadau creadigol.
– Yn meddu ar sgiliau Cymraeg llafar da.
– Yn gallu gyrru ac yn meddu ar fodd o gludo i deithio o gwmpas y Sir.
– Yn awyddus i ddysgu, derbyn mentora ac arbrofi gyda syniadau.
Bydd y rôl yn cynnwys:
– Mynychu sesiynau hyfforddi a mentora rhwng Gorffennaf a Hydref 2025.
– Creu cynnwys fideo a digidol ar gyfer platfformau cyfryngau cymdeithasol (e.e. Instagram, TikTok, Facebook).
– Cynnal gweithdai creu cynnwys gyda grwpiau cymunedol, mudiadau neu artistiaid.
– Rhannu straeon, digwyddiadau a phrofiadau lleol mewn ffordd greadigol a hygyrch.
Sut i Ymgeisio:
Anfonwch eich:
1. CV – yn cynnwys dolenni i unrhyw fideos neu gynnwys marchnata rydych wedi’u creu ar gyfer cyfryngau cymdeithasol.
2. Llythyr personol byr (hyd at 1 dudalen) – yn nodi pam rydych eisiau bod yn rhan o’r prosiect yma, a beth hoffech chi ddysgu a chyfrannu. (Gall hwn hefyd bod yn fidio dim mwy na 5 munud o hyd).
E-bostiwch eich cais at: helo@yregin.cymru erbyn 14 Gorffennaf 2025. Gallwch hefyd ddarparu’r holl wybodaeth hon (CV a sut nodi pam rydych eisiau bod yn rhan o’r prosiect yma, a beth hoffech chi ddysgu a chyfrannu) drwy fideo (dim mwy na 5 munud) a’i hanfon drwy e-bost.
Swydd Ddisgrifiad: Crëwr Cynnwys – Gwd Thing: Sir Benfro
Teitl y Swydd: Crëwr Cynnwys
Cyflogwr: Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
Lleoliad: Canolfan S4C Yr Egin ac ar draws Sir Benfro (teithio i safleoedd/gweithdai)
Adrodd wrth: Swyddog Prosiect
Hyd y Cytundeb: Gorffennaf – Hydref 2025
Oriau: Hyblyg (rhannau o’r wythnos / achlysurol yn ôl gweithgareddau’r prosiect)
Diben y Rôl:
I greu cynnwys digidol sy’n adlewyrchu bywyd, creadigrwydd a straeon Sir Benfro – drwy gyfres o sesiynau hyfforddi, gweithdai cymunedol a chydweithio ag artistiaid a grwpiau lleol. Bydd y prosiect yn rhannu cyfweliadau ag artistiaid, eitemau cerddorol, mewnwelediad i greadigrwydd a gweithgarwch y sir ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol. Bydd y cynnwys i’w weld ar TikTok, Instagram, Facebook a Youtube yn denu sylw i’r hyn sy’n digwydd yn Sir Benfro a hynny drwy lygaid, geiriau a chreadigrwydd y trigolion.
Prif Dasgau:
– Mynychu hyfforddiant a derbyn mentora gan weithwyr creadigol profiadol.
– Datblygu syniadau cynnwys ar y cyd â’r tîm a’r cymunedau lleol.
– Cynhyrchu a rhannu cynnwys digidol gan gynnwys fideos byr, straeon cymdeithasol, a phostiadau ymgysylltiol.
– Cyflwyno gweithdai i grwpiau cymunedol ac artistiaid.
– Cefnogi hyrwyddo’r prosiect ar-lein
Sgiliau ac Anghenion Hanfodol:
– Gallu gweithio’n annibynnol ac fel rhan o dîm.
– Profiad neu ddiddordeb amlwg mewn creu cynnwys (e.e. fideo, sain, dylunio graffeg, llun).
– Profiad neu allu i ddefnyddio llwyfannau fel TikTok, Instagram, Facebook, YouTube.
– Brwdfrydedd dros rannu straeon cymunedol a lleol.
– Medru gyrru a chael mynediad i gludiant personol.
Rhaid i bob crëwr cynnwys fod dros 18 oed.
Cymraeg fydd prif iaith y prosiect, mae croeso i ddysgwyr Cymraeg a rhai sy’n awyddus i fod mewn sefyllfa ddwyieithog i gynnig am y rôl.
Wedi’i ariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU a ddosberthir gan Gyngor Sir Penfro.
