Mae cyfansoddwr a chynhyrchydd cerddoriaeth o Sir Gaerfyrddin wedi canmol cryfder y sector creadigol yn Ne-orllewin Cymru.

Yn ganolog i hynny, ac wedi’i lleoli ar gampws Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin, mae Canolfan S4C Yr Egin, sy’n ysbrydoli creadigrwydd a dychymyg, gan feithrin talent i’r dyfodol. 

Yn ôl Steffan Rhys Williams, sydd â stiwdio gerddoriaeth yn y ganolfan, mae’r Egin yn darparu cyfuniad o gyfleusterau o’r radd flaenaf a chyfleoedd i rwydweithio gyda gweithwyr proffesiynol eraill yn y sector creadigol.

Dros yr 20 mlynedd ddiwethaf, mae Steffan wedi bod yn gweithio ym maes cyfansoddi a chynhyrchu cerddoriaeth ar gyfer y teledu a’r cyfryngau. Mae ei gredydau amrywiol yn cynnwys gweithio fel cyfarwyddwr cerdd ar raglen ‘Songs of Praise’ BBC1, cyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer ‘Time Team’ ar Channel 4, ac oriau o gerddoriaeth, sain a chaneuon cofiadwy iawn ar gyfer gwasanaeth dyddiol ‘Cyw’ S4C i wylwyr iau, gan gynnwys y rhaglen ‘Rapsgaliwn’ a enillodd wobr BAFTA. Ymhlith ei waith diweddar mae ‘Save our Cinema’ – ffilm sydd ar y gweill ar gyfer Sky Arts ynglŷn ag ymgyrch yn y 1990au i achub Theatr y Lyric yng Nghaerfyrddin.

Meddai Steffan: “Mae’r sector creadigol wedi bod yn gryf iawn yn Ne-orllewin Cymru ers nifer o flynyddoedd, ond yr un peth oedd ar goll oedd canolfan i ddod â llawer o dalent y sector creadigol at ei gilydd. Newidiodd hynny gydag agor Yr Egin, ac ni allaf ganmol ansawdd y cyfleusterau a’r profiad yma ddigon. Mae’n ganolfan o’r radd flaenaf ac mae rhai o dalentau gorau Cymru’n cytuno!”

Ymhlith y nifer o gleientiaid byd-enwog sy’n cyd-fynd â’r farn hon y mae Syr Bryn Terfel a ganmolodd ei brofiad yn recordio yn Yr Egin: “Pleser llwyr oedd ymlwybro drwy'r Egin ac i stiwdio Steff. Cyfleusterau heb ei hail ac awyrgylch gweithio rhadlon braf sydd yn ategu at safon y deunydd. Heb anghofio y paneidia!!"

Ac yntau’n gyn-ddisgybl yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin, mae Steffan sy’n 43 oed, yn meddu ar radd mewn theatr, cerdd a’r cyfryngau o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Cyn symud i faes cyfansoddi a chynhyrchu theatr, bu Steffan yn gweithio fel canwr. Bu’n teithio’n helaeth fel perfformiwr yn y Deyrnas Unedig, gan ymddangos ar y teledu a radio gyda sêr megis Joe Cocker, Michael Bolton, Blue, The Sugarbabes a Beverley Knight. Ymddangosodd hefyd ar Top of the Pops, a bu’n canu ‘jingls’ ar gyfer sioe frecwast Chris Moyles ar BBC Radio 1.

Yn ôl Steffan, mae canolfan Yr Egin mewn sefyllfa dda i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol yn y sector creadigol yn Ne-orllewin Cymru.

“Mae cyflymder y cysylltiad â’r rhyngrwyd yn Yr Egin a’r galluoedd i rwydweithio yno yn anhygoel. 

“Gellir cael cerddorfeydd llinynnol yn y ganolfan, ac mae ansawdd y caledwedd a’r feddalwedd sydd ar gael y tu hwnt i gyllideb unrhyw un sy’n gweithio gartref. 

“Drwy gydol y pandemig, mae ansawdd y fideos Zoom a gynhyrchwyd gan Yr Egin ymhlith y rhai mwyaf proffesiynol a welwch chi erioed. Mae gweithio’n ymarferol gyda’r offer yn y ganolfan mor fuddiol i unrhyw un yn y sector creadigol.”

“Gyda chymaint o dalent o’r sector creadigol yn y ganolfan, ceir cyfle i gysylltu drwy sgwrs fach yn y coridor, ac mae’r Egin hefyd yn rhoi cyfle i bobl leol wneud cynhyrchiad proffesiynol.”

Yn ôl yr actor Owen Teale: “Roedd gweithio gyda Steff ar droslais ar gyfer Deliveroo yn bleser. Roedd yn barod iawn ei gymwynas ac roedd y cyfleuster stiwdio cystal â’r rhai rwy wedi gweithio ynddynt yn Llundain.” 

Mae’r cerddor a’r cyflwynydd teledu a radio Caryl Parry Jones hefyd wedi canmol y lleoliad: “Dydi gweithio hefo Steff yn ei stiwdio byth yn waith. Mae’n brofiad hapus, ysbrydoledig a phositif bob tro. Mae’r stiwdio’n fodern, yn gyffyrddus ac yn llawn o’r offer recordio gorau yn y busnes. Does dim yn ormod o drafferth iddo ac mae’r gwaith gorffenedig wastad o’r safon uchaf. Mae egni Steff yn heintus. Mae hefyd yn gerddor tu hwnt o dalentog ac yn gynhyrchydd pengamp ac ar ben hyn oll yn sicrhau cynnyrch o ansawdd gwych. Hyn oll yng Nghanolfan ragorol yr Egin gyda’i chyfleusterau arbennig.”

Meddai Steffan: “Mae fy mab 12 oed yn angerddol iawn ynglŷn â cherddoriaeth, felly mae Yr Egin yn wych iddo fe. Byddai’n dda gen i pe bawn i wedi cael canolfan tebyg iddi mor agos i’m cartref yn blentyn.”

Mae pencadlys S4C a nifer o fusnesau eraill yn y sector creadigol hefyd wedi’u lleoli yn Yr Egin.

Yn ogystal â gofod swyddfa a chyfleusterau recordio cerddoriaeth o ansawdd uchel, mae gan Yr Egin sgrin werdd o’r radd flaenaf a chyfleusterau dethol lluniau, ynghyd â mannau desgiau poeth a chysylltiadau helaeth o fewn cymuned greadigol y rhanbarth.

Dylai busnesau yn y sector creadigol sy’n awyddus i gael rhagor o wybodaeth anfon e-bost at Gyfarwyddwr Yr Egin, Carys Ifan ar Carys.Ifan@uwtsd.ac.uk 

Mae cynlluniau ar y gweill hefyd ar gyfer ail gam Yr Egin. Mae’n un o naw o brosiectau a rhaglenni yn Ninas-Ranbarth Bae Abertawe sy’n cael eu hariannu’n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe – buddsoddiad o hyd at £1.3 biliwn sy’n werth o leiaf £1.8 biliwn a dros 9,000 o swyddi i’r rhanbarth yn y blynyddoedd sydd i ddod. 

Wedi’i hariannu gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus a’r sector preifat, mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn cael ei harwain gan Gyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Penfro a Chyngor Abertawe mewn partneriaeth â Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Prifysgol Abertawe, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Tanysgrifiwch i'n Cylchlythyr

Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyrau i dderbyn y newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau sydd ar ddod. 

Rydych chi wedi tanysgrifio yn llwyddiannus!