Band Byw!


Ni’n falch tu hwnt o fedru cynnig y gweithdai arbennig yma, cyfle i bobl ifanc (bl.10 i bl.13) fwynhau creu cerddoriaeth a chaneuon gwreiddiol o dan arweiniad dau gerddor arbennig sef Mari Mathias a Steffan Rhys Williams.

Does dim angen medru ysgrifennu cerddoriaeth, darllen dots, arbenigo ar offeryn neu serennu yng nghôr yr ysgol i fynychu’r gweithdai, dewch i fwynhau a magu hyder wrth greu a pherfformio. Os ydych yn chwarae offeryn ac yn chwilio am fand neu eisiau creu heb bwysau ysgol, mae hwn i chi.

Mi fydd sesiynau penodol gyda’r cerddorion a’r cyfansoddwyr Mari Mathias a Steffan Rhys Williams yn edrych ar agweddau perfformio mewn band byw yn ogystal â dysgu gan rhai sy’n cyfansoddi, cynhyrchu a chymysgu sain. Bydd y tips yn amrywio o gyfansoddi cydweithredol i beth i checio mewn ‘sound check’!

Lle ar gyfer 10 yn unig fel rhan o’r cwrs felly cofrestrwch heddiw.

Bydd angen eich bod ar gael ar gyfer pob un o’r diwrnodau yma –

Dyddiadau Gweithdai Creu gyda Steffan Rhys Williams a Mari Mathias

Gorffennaf 28   Llun                       10:00-15:00

Gorffennaf 29   Mawrth                10:00-15:00

Awst 11               Llun                       10:00-15:00

Awst 12               Mawrth                10:00-15:00

Rydym yn bwriadu ffilmio fidio cerddoriaeth o dan arweiniad Non Lewis a Heti Hywel a  chynnal noson i ddathlu a rhannu yn CWRW, Caerfyrddin yn ogystal fel rhan o Band Byw!

I Bwy : Disgyblion Blwyddyn 10 -13. (Does dim angen bod mewn band yn barod)

Dyddiad Cau : 4.7.25

Dyddiad rhoi gwybod pwy sydd yn llwyddiannus : 11.7.25

Ewch ati i lenwi’r ffurflen gofrestru yma er mwyn ymgeisio am lle :

Ffurflen gais : https://forms.gle/9H8EqostJD6pem1i6

Pwy yw Mari Mathias?

Artist benywaidd 24 oed o Gymru yw Mari Mathias, yn creu ymddygiad gwerin cyfoes, wedi’i yrru gan natur, tirwedd a thraddodiad. Mae hi’n rhoi ei dehongliad cyfoes ei hun ar alawon gwerin traddodiadol o orllewin Cymru a Sir Benfro. Mae hi’n dod ag egni bywiog ar y llwyfan a thonau hardd o leisiau melodig cain a rhyddhaodd ei halbwm cyntaf ‘Annwn’ ym mis Mawrth 2022.

Mae’r ddwy flynedd diwethaf wedi bod yn rhai cyffrous iawn i Mari a’i band, ar ôl perfformio ar lawer o lwyfannau enwog fel Gŵyl Werin Caergrawnt, Gŵyl Ryng-Geltaidd Lorient, Gŵyl y Dyn Gwyrdd , Gwyl Rhwng y Coed a llawer mwy. Enillodd Wobr am y ‘Gân Draddodiadol Orau’ o’i halbwm cyntaf ‘Annwn’ yng Ngwobrau Gwerin y BBC yn 2023.

Yn ogystal a’i gwaith perfformio, mae Mari wedi cynnal gweithdai cyfansoddi caneuon, addysgu caneuon gwerin Cymru ar y cyd â TRAC CYMRU, Theatr HIJINX,  CULTVR, Tafwyl – gan fentora cerddorion a bandiau.

Pwy yw Steffan Rhys Williams?

Dros yr 25 mlynedd ddiwethaf, mae Steffan wedi bod yn gweithio ym maes cyfansoddi a chynhyrchu cerddoriaeth ar gyfer y teledu a’r cyfryngau. Mae ei gredydau amrywiol yn cynnwys gweithio fel cyfarwyddwr cerdd ar raglen ‘Songs of Praise’ BBC1, cyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer ‘Time Team’ ar Channel 4.

Enillodd Cân i Gymru gyda cân wreiddiol ei hun yn ogystal â chynhyrchu caneuon llu o enillwyr y wobr ac mae wedi cyfansoddi oriau o gerddoriaeth, sain a chaneuon cofiadwy iawn ar gyfer gwasanaeth dyddiol ‘Cyw’ S4C i wylwyr iau, gan gynnwys y rhaglen ‘Rapsgaliwn’ a enillodd wobr BAFTA.

Mae wedi perfformio mewn bandiau byw di-ri ers blynyddoedd maith, gan gynnwys band Elin Fflur ac Eden gan greu’r traciau cefndirol a chanu offerynnau niferus.

Gyda’i stiwdio recordio yn Yr Egin mae wedi darparu nifer fawr o weithdai cerddorol i blant a phobl ifanc ac wedi datblygu cerddoriaeth ar gyfer llwyth o brosiectau ar y cyd â’r tîm gan gynnwys Cabarela, Dosbarth Miss Prydderch a Shwmae Dolig.

Tanysgrifiwch i'n Cylchlythyr

Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyrau i dderbyn y newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau sydd ar ddod. 

Rydych chi wedi tanysgrifio yn llwyddiannus!