Disgyblion Canolfan Elfed yn ymweld â Chanolfan S4C Yr Egin er mwyn cymryd rhan yn y prosiect ‘Blaguro’

Mae disgyblion o Ganolfan Elfed yng Nghaerfyrddin wedi ymweld â Chanolfan S4C Yr Egin yn ddiweddar fel rhan o’r prosiect ‘Blaguro’.

Mae’r prosiect ‘Blaguro’, sy’n cael ei ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru, wedi sefydlu gardd gymunedol ar dir Yr Egin, lle mae ymarferwyr creadigol wedi cydweithio â grwpiau cymunedol i ddatblygu a gosod gwreiddio yn llythrennol ac yn greadigol ar safle. Cynlluniwyd y prosiect fel ffordd o ail-gysylltu gyda chymunedau gwahanol tref Caerfyrddin a bod mor gynhwysol â phosibl.

Un o’r grwpiau hynny yw Canolfan Elfed o Ysgol Gyfun Y Frenhines Elizabeth yng Nghaerfyrddin. Dros y misoedd diwethaf, mae Emma Baker, un o’r artistiaid creadigol wedi bod yn cydweithio’n wythnosol gyda’r ganolfan yn cynnal sesiynau creadigol sy’n archwilio meddwlgarwch drwy ddefnyddio elfennau natur a’r synhwyrau.

Mae 10 disgybl wedi bod yn rhan o’r sesiynau wythnosol, ac mae pob un wedi elwa o sgiliau creadigol Emma, a’i gallu annwyl hi i rannu syniadau a hybu trafodaeth am deimladau, mewn modd mynegiannol, a chyffrous.

Dywedodd Julie Jackson o Ganolfan Elfed: “Mae Canolfan Elfed wedi bod yn freintiedig o gael ei gwahodd i fod yn rhan o’r prosiect ‘Blaguro’. Bu’r disgyblion yn gweithio gyda’r artist mawreddog lleol, Emma Baker a thrwy gydweithio arbennig, mae nhw wedi llwyddo i gynhyrchu gwaith ardderchog. Mae’r gwaith yn adlewyrchu llais a safbwyntiau’r disgyblion, ac rydym yn edrych ymlaen at arddangos ein gwaith caled a’n talent i’r gymuned ehangach.”

Fel rhan o’r prosiect, cafodd y disgyblion gyfle i ymweld â Yr Egin yn ddiweddar i gydweithio â Emma a Steffan Rhys Williams er mwyn creu a recordio "soundscape" ar gyfer yr ardd gymunedol. Yn ystod y sesiwn, bu’r disgyblion wrthi’n recordio defnydd o’u lleisiau, dŵr a phethau naturiol megis pridd a thywod.

Meddai’r artist Emma Baker: “Mae wedi bod yn fraint ac yn anrhydedd i weithio ar y prosiect ‘Blaguro’ gyda disgyblion Canolfan Elfed. Mae nhw wedi bod yn hynod o groesawgar, ac wedi dangos brwdfrydedd ym mhob gweithgaredd gelf ry’ ni wedi gwneud, o liwio, cerflunio, gwaith print a chasgliad sain digidol. Rwy’n teimlo fel pe bai ni wedi bod ar daith gyda’n gilydd, yn defnyddio’n synhwyrau i arbrofi’r gwahanol aroglau, y gwead, y synau a golygfeydd natur. Mae pob aelod o’r grŵp wedi llwyddo i gyfrannu’n ystyriol at gynllunio gweithgareddau er mwyn i eraill fedru fwynhau yn yr ardd, ac rwy’n edrych ymlaen at weld eu holl ymdrechion yn eu hanterth!”

Mae sesiynau o’r fath wedi llwyddo i ddangos pwysigrwydd taith greadigol y disgyblion, ac i ddatblygu’u hyder drwy ddefnyddio'r celfyddydau. Dywedodd Llinos Jones, Swyddog Prosiect Ymgysylltu Canolfan S4C Yr Egin:

“Mae cerdded i mewn i sesiwn creadigol Emma a myfyrwyr Canolfan Elfed wedi bod yn brofiad arbennig iawn dros yr wythnosau diwethaf, wrth i'r criw ddatblygu sgiliau drwy’r celfyddydau, y gwenu a'r chwerthin, ac mae’r brwdfrydedd tuag at greadigrwydd yn chwa o awyr iach. Dyma ddangos yn glir bwysigrwydd y celfyddydau ar fywyd pawb mewn cymuned, a’r gallu sydd ganddo i wneud newid cadarnhaol i fywyd.”

Tanysgrifiwch i'n Cylchlythyr

Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyrau i dderbyn y newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau sydd ar ddod. 

Rydych chi wedi tanysgrifio yn llwyddiannus!