Mae’n bleser gan Ganolfan S4C Yr Egin gyhoeddi fod Angharad Davies wedi ei phenodi yn Rheolwr Cyffredinol ar y ganolfan. Yn gyn-fyfyrwraig o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yma yng Nghaerfyrddin, ac yn fwy diweddar yn Bennaeth Cynhyrchu gyda Theatr Genedlaethol Cymru, sydd bellach wedi ymgartrefu yn Yr Egin, mae Angharad yn hen gyfarwydd â lleoliad ei gweithle newydd, ac mae’r Egin yn falch iawn o’i chroesawu i'r tîm.
Dywed Carys Ifan, Cyfarwyddwr Canolfan S4C Yr Egin, am benodiad Angharad,
“Fydd Angharad yn gaffaeliad mawr i’r Egin ac i’r Brifysgol, gyda’i harbenigedd, proffesiynoldeb a phersonoliaeth heintus yn cyfrannu at wireddu cam nesa’r weledigaeth gyffrous drwy sbarduno ymhellach y diwydiannau creadigol yn y rhanbarth. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gydweithio â hi“
Yn wreiddiol o Aberaeron, mae Angharad bellach wedi ymgartrefu ym Mheniel gyda’i gwr Alun, a'i phlant Elsi Cêt ac Ifan. Astudiodd Angharad radd mewn Theatr, Cerdd a’r Cyfryngau ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, cyn mynd ymlaen i astudio gradd Meistr mewn Rheoli Llwyfan yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd. Ers hynny, mae hi wedi gweithio ar hyd a lled y wlad gydag amryw o gwmnïau theatr, tan iddi ymuno gyda Theatr Genedlaethol Cymru yn 2010.
Mae Angharad yn gyffrous am ei rôl newydd yma yn Yr Egin, ac fe ddywedodd am ei swydd fel Rheolwr Cyffredinol y ganolfan,
“Dwi’n edrych ymlaen yn fawr iawn i ymuno â thîm gwych Yr Egin, a dod i adnabod y bobol tu ôl i gwmnïoedd a busnesau creadigol ‘sy wedi eu lleoli yma.
Fel rhan o’m swydd dwi’n gyffrous iawn i ddatblygu a pharhau i gyd-weithio gyda phartneriaid a thenantiaid Yr Egin i danio dychymyg creadigol a meithrin talentau’r dyfodol drwy ymgysylltu â’r diwydiant.
Mae’r Egin yn ganolfan ac yn hwb creadigol allweddol i’r Gorllewin, ac i Gymru. Dwi’n awyddus iawn i barhau i wasanaethu a chroesawu cwsmeriaid, cynulleidfaoedd a chymuned ddiwylliannol gyffrous er mwyn ysbrydoli ac egnïo mudiadau cymdeithasol a chymunedau amrywiol ar draws y rhanbarth. Welai chi yng nghaffi Yr Egin cyn hir am goffi a chlonc!”
Dechreuodd Angharad yn ei rôl ar y 27ain o Chwefror ac mae hi wedi ei lleoli yma yng Nghanolfan S4C Yr Egin yng Nghaerfyrddin.