Mae Canolfan S4C yr Egin yng Nghaerfyrddin newydd ymuno â Chynllun Partner Gwerthfawr i ysgolion sy’n cael ei rhedeg gan wasanaeth Gyrfa Cymru.
Wrth wraidd y sector greadigol yn ne-orllewin Cymru, y mae Canolfan S4C Yr Egin ar gampws Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin yn ysbrydoli creadigrwydd a dychymyg, gan feithrin talent ar gyfer y dyfodol.
Mae’r cynllun Partner Gwerthfawr Ysgol yn rhoi cydnabyddiaeth i gyflogwyr sy’n mynd ati i gefnogi ysgolion unigol drwy weithgareddau cysylltu â chyflogwyr Gyrfa Cymru. Mae’r cynllun yn nodi cyflogwyr sydd â pherthynas barhaus ag ysgolion, ac sydd hefyd yn cefnogi gweithgareddau o fewn yr ysgolion yn rheolaidd.
Golyga’r cynllun fod modd i staff Yr Egin weithio’n agosach gydag ysgol er mwyn cynnig cymorth amrywiol i fyfyrwyr os ydynt yn dymuno datblygu sgiliau penodol boed y rheiny’n sesiynau byd busnes, yn weithgareddau mewn grŵp, neu hyd yn oed sesiynau un i un â pherson ifanc sydd yn awyddus i ddilyn llwybr cryf i'r byd digidol/creadigol.
Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin fydd y partner cynta’ i ymuno gyda’r cynllun, ac maen nhw’n edrych ymlaen at gydweithio gyda'r Egin. Dywedodd Eirlys Thomas, Pennaeth Cynorthwyol Ysgol Bro Myrddin,
“Rydym ni yma yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin yn gyffrous o gael y cyfle i fod yn bartneriaid gwerthfawr gyda Chanolfan S4C Yr Egin gan y bydd yn rhoi cyfle i'n disgyblion fanteisio ar arbenigedd ym maes y cyfryngau ar garreg eu drws. Edrychwn ymlaen at gyd-weithio gan gynnig cyfleoedd cyffrous i rannu gwybodaeth am y maes er mwyn datblygu diddordeb ein disgyblion mewn gyrfaoedd ym myd y cyfryngau a hynny trwy gyfrwng y Gymraeg.”
Mae Llinos Jones, Swyddog Ymgysylltu Canolfan S4C Yr Egin yn edrych ymlaen at ddechrau’r bartneriaeth newydd hon.
“Bydd cydweithio yn agos â Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin yn gyfle arbennig i ni yn Yr Egin i feithrin talent y dyfodol, a chynnig arbenigedd i'r ysgol leol yng Nghaerfyrddin o fewn y maes technoleg ddigidol a’r celfyddydau. Rydym yn edrych ymlaen yn arw iawn at gynnal digwyddiadau efo’r disgyblion yn y dyfodol agos.”