Canolfan S4C Yr Egin yn ennill cydnabyddiaeth gydag enwebiad yng Ngwobrau Gyrfa Cymru  

Mae Canolfan S4C Yr Egin yn falch iawn o gyhoeddi ein bod wedi cyrraedd rhestr fer ‘Gwobrau Partneriaid Gwerthfawr’ Gyrfa Cymru am yr ail flwyddyn yn olynol, a hynny o fewn y categori ‘Hyrwyddwr Gorau’r Gymraeg yn y Gweithle’. Mae’r enwebiad yn dod yn sgil gwaith y mae'r Egin yn ei wneud mewn partneriaeth â Gyrfa Cymru i hysbysu, ysbrydoli ac ysgogi pobl ifanc am eu cyfleoedd gyrfa ym maes y diwydiannau creadigol. Partner Gwerthfawr Yr Egin eleni oedd Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin.   

Dywed Llinos Jones, Rheolwr Ymgysylltu Yr Egin, 

“Mae’n anrhydedd mawr i ni gyrraedd y rhestr fer yn y categori Hyrwyddwr Gorau’r Gymraeg yng ngwobrau partneriaeth werthfawr Gyrfa Cymru am yr eildro. Mae’n bleser mawr gennym gynnig y gweithdai ar sgyrsiau arbenigol hyn i blant a phobl ifanc gan gefnogi athrawon wrth drafod llwybrau gyrfa’r dyfodol. Rwy’n gweithio’n agos gyda Gyrfa Cymru, ac mae’r gefnogaeth a gawn mor bwysig i’n helpu i gysylltu ag ysgolion a myfyrwyr. Mae’r ganolfan wir yn dod yn fyw pan fydd gennym ni bobl ifanc yma, ac mae hynny’n dod â chymaint o falchder i mi, gan wybod y gallai rhai o’r bobl ifanc hyn fod yn weithlu creadigol y rhanbarth yn y dyfodol.” 

  
Mae’r Egin yn darparu llu o brofiadau, ymyraethau a llwybrau i ddisgyblion ysgolion cynradd ac uwchradd, yn allgyrsiol ac i fyfyrwyr addysg bellach a Phrifysgol gan hyrwyddo'r cyfleon gyrfa yn y diwydiannau creadigol yng ngorllewin Cymru. Yn ystod 2024, mi wnaethom gyd-weithio'n agos gydag Ysgol Bro Myrddin, gan ysbrydoli dros 200 o bobl ifanc, drwy nifer o weithgareddau a cyfleoedd amrywiol megis diwrnodau gyrfaoedd yn Yr Egin ac yn yr ysgol, profiad gwaith, ffug gyfweliadau a noson ‘Drws Agored’.Mae Canolfan S4C Yr Egin hefyd yn cynnig nifer o Glybiau Digidol ar ôl ysgol i bobl ifanc o bob oedran. 

Mae’r gymuned greadigol sydd wedi ymgartrefu yn Yr Egin, yn gwmnïau teledu, penseiri, cyhoeddwyr, crewyr digidol a chyfansoddwyr yn ogystal â phartneriaid eraill yn y sector, yn cynorthwyo i ddarparu gweithdai, profiadau a chyngor gyrfaol sydd wedi ei wreiddio yn y diwydiant. Cynhelir hyn oll mewn gofod Cymraeg cyfoes, ble mae’n bosibl i'r bobl ifanc weld yr iaith ar waith yn gwbl naturiol a deall bod y Gymraeg yn sgil hanfodol i'r gweithle. 

Dywed Carys Ifan, Cyfarwyddwr Canolfan S4C Yr Egin, 

“Mae meithrin talent ac amlygu llwybrau gyrfa wrth wraidd ein cenhadaeth yn Yr Egin. Mae bob amser yn bleser croesawu pobl ifanc i'r ganolfan er mwyn iddynt gael blas o'r amrywiaeth o cyfleoedd sydd ar gael iddynt yn y maes, a'u gweld yn gadael wedi ysbrydoli'n llwyr. Un o amcanion Yr Egin yw codi statws y Gymraeg a'i diwylliant yng Nghaerfyrddin a'r ardal gyfagos, mae bod ar y rhestr fer ar gyfer Hyrwyddwr Gorau'r Gymraeg yn y Gweithle yn amlygu ein llwyddiant wrth gyflawni hynny. Rydym yn falch iawn o'r berthynas agos sydd gennym gyda'r ysgolion ac yn diolch i'r holl athrawon ac i Gyrfa Cymru am y cydweithio rhwydd i ddarparu'r cyfleoedd gwerthfawr." 

Cynhelir y gwobrau, sydd yn dathlu’r gwaith y mae cyflogwyr fel Yr Egin wedi’i wneud, ac yn parhau i wneud i helpu ysgolion a phobl ifanc, yn Neuadd Y Senedd, Bae Caerdydd, ar y 15fed o Ionawr. Os ydych yng nghlwm ag ysgol sydd â diddordeb mewn cydweithio gyda ni yn Yr Egin, neu yn berson ifanc sydd yn chwilio am gyfleoedd profiad gwaith – cysylltwch gyda ni drwy e-bostio helo@yregin.cymru. helo@yregin.cymru

Ceir mwy o wybodaeth am wobrau Gyrfa Cymru yma. yma. 

Tanysgrifiwch i'n Cylchlythyr

Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyrau i dderbyn y newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau sydd ar ddod. 

Rydych chi wedi tanysgrifio yn llwyddiannus!