Canolfan S4C Yr Egin yn cefnogi Eisteddfod yr Urdd Sir Gâr

Mae’r Egin yn hynod o falch i gefnogi’r Eisteddfod ac wedi bod yn fwrlwm o weithgaredd dros y misoedd diwetha, o recordio cerddoriaeth ar gyfer Prosiect ‘Plethu’ a chân agoriadol y Steddfod drwy Merched yn Gwneud yn Miwsig, i groesawu dros 1,000 o ddisgyblion ysgolion cynradd ac uwchradd Sir Gâr a myfyrwyr Prifysgol y Drindod Dewi Sant ar gyfer Prosiect 23.

Prosiect 23 – Chwilio’r Chwedl – fydd perfformiad agoriadol Eisteddfod yr Urdd. Yn rhan o’r prosiect bu pobl ifanc criw 'Slic' sy’n cwrdd yma yn wythnosol yn creu ffilmiau fer, ffilmiwyd perfformiadau llu o ysgolion, cynhaliwyd gweithdy rapio gydag Izzy Rabey a chrewyd pyped trawiadol o Myrddin gan fyfyrwyr o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Bydd y cyfan i'w weld ar y maes o ddydd Sul, yr 28ain o Fai.

Dywed Carys Ifan, Cyfarwyddwr Canolfan S4C Yr Egin,

“Yma i danio dychymyg creadigol ac i feithrin talentau’r dyfodol yw’r Egin ac mae cyd-weithio gyda’r adran Eisteddfod ac Urdd Myrddin dros y misoedd diwetha’ er mwyn darparu’r profiadau allweddol yma i ddatblygiad cynifer o blant a phobl ifanc wedi bod yn bleser. Mae cael profiadau creadigol fel y rhai sydd wedi eu daprau yma yn codi statws y Gymraeg a’i diwylliant mewn modd cyhoeddus, cyfoes a chyffrous. Hoffwn ddymuno’n dda i Brosiect 23 ac i Eisteddfod yr Urdd Sir Gâr”.

Mae cangen Urdd Myrddin yn un o denantiaid yn Yr Egin, felly mae’r cyffro am yr Eisteddfod wedi ei deimlo yn y ganolfan ers tro byd. Ym mis Ebrill, bu’r Egin yn gyfrifol am gynnal gweithdai mewn partneriaeth gydag Eisteddfod yr Urdd a Merched yn Gwneud Miwsig hefyd, i greu cân swyddogol Eisteddfod yr Urdd yng nghwmni'r perfformwyr adnabyddus o Sir Gâr, Hana Lili a grŵp Adwaith. Hefyd yn ystod mis Ebrill, ymwelodd dros 150 o ddisgyblion o unedau arbennig y Sir â’r Egin i greu a recordio cân am ‘Jac Tŷ Isha’ gyda Neil Rosser a’r Band ‘Pwdin Reis’.

Dywed Llio Maddocks, Trefnydd Celfyddydol Eisteddfod yr Urdd, am gydweithio gyda’r Egin ar y prosiectau uchod -

“Mae'r gefnogaeth mae Canolfan S4C yr Egin wedi ei ddangos i Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin yn syfrdanol, gyda'r tîm cyfan yn gweithio'n galed i sicrhau cyfleoedd i holl blant a phobl ifanc y sir. Mae Swyddfa'r Urdd rhanbarthau Myrddin wedi ei leoli yng Nghanolfan S4C Yr Egin, ac mae'r Eisteddfod hon yn destament i sut allwn weithio mewn partneriaeth gyda sefydliadau celfyddydol eraill.

Rydym wedi cyd-weithio ar sawl prosiect cyffrous fel gweithdai Merched yn Gwneud Miwsig, Prosiect 23, a Phrosiect Plethu, a hoffwn ddiolch i'r holl staff, a Llinos Jones yn enwedig, dan arweiniad Carys Ifan, i wireddu'r digwyddiadau celfyddydol hyn a chynnig profiad a chyfle creadigol i ieuenctid y rhanbarth.”

Fel nodir gan Llio uchod, mae cyfraniad ein Swyddog Ymgysylltu, Llinos Jones, wedi bod yn aruthrol at baratoadau’r Eisteddfod eleni, gan ei bod wedi bod yn gwirfoddoli ac yn rhoi o’i amser gwaith i fod yn Gyfarwyddwr Celf ar Prosiect 23, yn hyfforddi unigolion a phartïon ar gyfer cystadlu, ac yn rhan o sawl pwyllgor codi arian ar gyfer yr ŵyl.

“Mae’n rhoi mawr fwynhad i mi i weld plant a phobl ifanc yn datblygu sgiliau, yn magu hyder ac yn mwynhau eu hunain. Mae wythnos yr Eisteddfod yn binacl ar fisoedd os nad blwyddyn o waith paratoi. Mae’r Urdd yn fudiad arbennig i gyd-weithio â nhw, yn fy swydd ac yn wirfoddol. Maent yn cynnig cymaint o gyfleon, a hynny gan gynnwys bob llais” meddai Llinos.

Yn fwyaf diweddar, mae’r Egin wedi bod yn lleoliad ffilmio a recordio sain ar gyfer Prosiect 23, cafodd ei recordio gan gwmnïoedd sy’n denantiaid yn Yr Egin, cwmni cynhyrchu Carlam a Steffan Rhys Williams ar y cyd â Tinopolis a Telesgop.

Dywed Carys Edwards, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod a Chyfarwyddwr Prosiect 23,

“Mae’r ymarferion yn mynd yn arbennig hyd yma ac mae hi wedi bod yn brofiad arbennig i bawb cael dod i’r Egin, ac ry’n ni mor ddiolchgar ein bod wedi cael defnyddio’r gofod. Mae pawb wedi bod wrthi yn ymarfer yn gyntaf yn Y Galon, ac wedyn dod i’r Stiwdio Fach i recordio. Mae rhan fwyaf o’r plant heb fod mewn stiwdio lle mae yna gamerâu a meicroffonau yn recordio o’r blaen, felly mae’r broses wir wedi bod yn un anhygoel iddyn nhw.”

Bydd Canolfan S4C Yr Egin yn ymgartrefu ar stondin Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ar faes yr Eisteddfod eleni. Croeso i chi alw i gael tro ar weithdai animeiddio a chyfle i roi cynnig ar ddefnyddio teclynnau VR cardfwrdd. Am fwy o wybodaeth am yr hyn mae'r Egin yn cynnig, ewch i’n gwefan, www.yregin.cymru.

Tanysgrifiwch i'n Cylchlythyr

Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyrau i dderbyn y newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau sydd ar ddod. 

Rydych chi wedi tanysgrifio yn llwyddiannus!