Canolfan S4C Yr Egin yn dod i'r brig yng ngwobrau Gyrfa Cymru 

Mae Canolfan S4C Yr Egin yn falch o gyhoeddi ei bod wedi ennill gwobr anrhydeddus yn seremoni ‘Partneriaid Gwerthfawr Gyrfa Cymru’ yn y Senedd yng Nghaerdydd yn ddiweddar, sef gwobr ‘Hyrwyddwyr Gorau’r Gymraeg yn y Gweithle’. Mae’r gydnabyddiaeth hon yn dathlu cyfraniadau rhagorol y ganolfan i hyrwyddo’r Gymraeg o fewn y gweithle a thu hwnt, ochr yn ochr â hysbysu, ysbrydoli ac ysgogi pobl ifanc y cyfleoedd gyrfa sydd ar gael iddynt o fewn y diwydiannau creadigol. 

 Dywed Carys Ifan, Cyfarwyddwr Yr Egin, 

 “Diolch yn fawr i Gyrfa Cymru am y wobr hon, mae’r gydnabyddiaeth yma o waith Yr Egin yn hyrwyddo’r Gymraeg yn y gweithle yn golygu ein bod yn llwyddo i wireddu nod Yr Egin i godi statws y Gymraeg a’i diwylliant yng Nghaerfyrddin a’r ardal gyfagos ac i weithredu fel catalydd ar gyfer adfywiad ieithyddol Sir Gâr. Rwy’n hynod diolchgar i dîm bychan a gweithgar Yr Egin am y modd arbennig maent yn ymgysylltu’n effeithiol gyda cannoedd o ddisgyblion ysgol a chwmnïau niferus o’r diwydiannau creadigol er mwyn cynnig mewnwelediad i llwybrau gyrfa posibl, darparu cyngor a phrofiadau o’r safon uchaf. Mae’n waith eithriadol bwysig fydd yn effeithio ar ddyfodol economi a iaith y rhanbarth a mae’n bleser cydweithio gyda partneriaid i hyrwyddo a chyflawni.” 

 Mae’r Egin fel rhan o’i chynnig addysgiadol yn darparu llu o brofiadau, ymyraethau a llwybrau i ddisgyblion ysgolion cynradd ac uwchradd, i fyfyrwyr addysg bellach a myfyrwyr Prifysgol gan hyrwyddo'r cyfleon gyrfa yn y diwydiannau creadigol yng ngorllewin Cymru. Partner Gwerthfawr Yr Egin drwy Gyrfa Cymru yw Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin. Yn ystod 2024, mi wnaethom gyd-weithio'n agos gyda’r ysgol, gan gynnig nifer o weithgareddau a chyfleoedd megis diwrnodau gyrfaoedd yn Yr Egin ac yn yr ysgol, darparu profiad gwaith i nifer fawr o ddisgyblion, cynnal ffug gyfweliadau a noson gyrfaoedd ‘Drws Agored’. 

Dywedodd Dr Llinos Jones, Pennaeth Ysgol Bro Myrddin, 

“Braf iawn oedd cael y cyfle i gydweithio mewn partneriaeth werthfawr iawn gyda'r Egin. Trwy'r berthynas waith hon llwyddwyd i roi cyfleoedd amhrisiadwy i ddisgyblion gwrdd â chyflogwyr, yn enwedig yn y maes celfyddydol cyfrwng Cymraeg. Cafodd llu o ddisgyblion gyfleoedd i ymweld a defnyddio cyfleusterau arbennig Yr Egin ac i glywed gan arbenigwyr y tu fewn a thu allan i furiau'r ysgol.” 

 Mae’r Egin, sydd wedi’i lleoli ar gampws Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, wedi bod yn ganolbwynt i’r diwydiannau creadigol ers blynyddoedd bellach ac mae’r ganolfan yn gartref i ystod amrywiol o sefydliadau a gweithwyr proffesiynol. Mae amgylchedd unigryw’r ganolfan yn meithrin cydweithio rhwng busnesau creadigol, grwpiau cymunedol, a sefydliadau addysgol, gan greu ecosystem lle mae’r Gymraeg yn ffynnu mewn sefyllfaoedd ffurfiol ac anffurfiol. O gwmnïau cynhyrchu cyfryngau i sefydliadau celfyddydol, mae nifer o Gymuned Greadigol Yr Egin wedi cynorthwyo i ddarparu profiadau amhrisiadwy i bobl ifanc, pob un wedi’i gynllunio i gryfhau eu sgiliau yn y byd gwaith, eu dealltwriaeth ohono, a pha mor bwysig yw’r Gymraeg i'r cyfan.  

Dywedodd Osian Evans, perchennog a sylfaenydd ‘Moilin’, cynhyrchwyr datrysiadau digidol creadigol, sydd wedi cynnal gweithdai niferus ar gyfer myfyrwyr a phobl ifanc mewn cydweithrediad â'r Yr Egin, 

“Mae'r cyfle i weithio gyda phobl ifanc yn Yr Egin wedi bod yn amhrisiadwy. Mae'r profiadau hyn yn tanlinellu arwyddocâd cydweithio rhwng y cenedlaethau a rôl hanfodol sefydliadau diwylliannol wrth feithrin y genhedlaeth nesaf o siaradwyr Cymraeg. Mae'r wobr hon yn cadarnhau bod cefnogi pobl ifanc a hyrwyddo'r Gymraeg nid yn unig yn ofynion diwylliannol ond hefyd yn hanfodol ar gyfer adeiladu cymdeithas lewyrchus a chynhwysol.” 

Un o’r ffyrdd y mae’r Egin yn sicrhau ymgysylltiad gyda disgyblion oed ysgol uwchradd yw cyd-weithio'n agos gyda sefydliad Gyrfa Cymru. Roedd ennill cydnabyddiaeth ganddynt am y gwaith felly yn anrhydedd i'r ganolfan a’i thîm gweithgar. 

Dywed Llinos Jones, Rheolwr Ymgysylltu Yr Egin, am y clod, 

"Mae ennill y wobr hon yn foment o falchder aruthrol i mi ac i holl dîm Yr Egin. Mae'n adlewyrchu ein hymroddiad nid yn unig i hyrwyddo'r Gymraeg yn y gweithle, ond hefyd i greu cyfleoedd i unigolion ffynnu mewn gyrfaoedd lle mae'r iaith Gymraeg yn naturiol ei ddefnydd a lle mae diwylliant Cymreig yn cael ei werthfawrogi. Rydw i mor falch o'r holl bobl ifanc sy'n chwarae rhan annatod ym mhob dim mae'r ganolfan yn ei wneud – mae ein diolch mwyaf iddyn nhw am eu holl waith a chefnogaeth.”  

Gyda’i ffocws ar gydweithio, arloesi ac ymgysylltu â’r gymuned, mae’r Egin yn parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi’r Gymraeg ym mhob agwedd o’i gwaith, wrth lunio dyfodol pobl ifanc o fewn y diwydiannau creadigol. 

For more information about Yr Egin, and how you can get involved in the centre’s work, visit yregin.cymru

Tanysgrifiwch i'n Cylchlythyr

Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyrau i dderbyn y newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau sydd ar ddod. 

Rydych chi wedi tanysgrifio yn llwyddiannus!