
Mae Canolfan S4C Yr Egin, canolfan fusnes a chreadigol sy’n hwb ddiwylliannol fywiog ar gampws Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin, yn falch o gyhoeddi bod Mentera, sefydliad nid-er-elw arloesol sy'n cefnogi busnesau yng Nghymru ers dros 35 mlynedd, yn ymuno â'r cymuned o gwmnïau blaengar sy’n cydleoli yma. Golyga hyn bod gofod swyddfa Yr Egin bellach yn llawn, gyda 100% o'u swyddfeydd gosodadwy ar brydles.
Mae’r symudiad cyffrous hwn yn plannu Mentera yng nghanol cymuned fywiog o arloeswyr ac entrepreneuriaid, fydd yn creu cyfleoedd newydd ar gyfer cydweithio a thyfiant ar draws amrywiaeth o sectorau. Mae’r Egin yn bair creadigol - sy’n rhoi cyfle i ymarferwyr ac entrepreneuriaid o wahanol ddisgyblaethau rannu adnoddau, datblygu busnes a meithrin talent, ac felly yn cynnig yr amgylchedd ddelfrydol i Mentera gysylltu â sefydliadau sy'n rhannu'r un egwyddorion. Mae amgylchedd modern, cydweithredol y ganolfan yn ogystal â mynediad i barth cynadledda gydag awditoriwm sy’n cynnwys y dechnoleg cyfathrebu a chynadledda diweddaraf, yn cynnig llwyfan perffaith i Mentera i barhau â'i genhadaeth i alluogi busnesau Cymreig i gymryd risgiau, ehangu ar lefel fyd-eang, ac ymateb i heriau amrywiol.
Dywedodd Carys Ifan, Cyfarwyddwr Yr Egin, wrth groesawu Mentera i'r Egin,
“Mi fydd Mentera yn ategiad arbennig at gymuned egnïol Yr Egin a rwy’n eu croesawu’n gynnes. Peth braf iawn yw dweud bod Yr Egin yn llawn gyda 16 cwmni wedi ymgartrefu yma’n llawn amser a mwy yn llogi desgiau yn ôl y gofyn. Mae cyfleusterau gwych Yr Egin sy’n ymgorffori’r dechnoleg ddiweddaraf, ei nodweddion amgylcheddol ac arferion eco-gyfeillgar yn ogystal a’i leoliad cyfleus yn apelio at fusnesau. Un o amcanion Yr Egin yw i sbarduno buddsoddiad a thwf economaidd pellach yn Sir Gâr a thu hwnt a rwy’n hyderus bydd y cwmnïau sy’n cydleoli yma, y llinell dalent o’r Brifysgol a’r cwmnïau sy'n ymwneud â Rhwydwaith Gorllewin Cymru Greadigol yn buddio o gefnogaeth a chyngor Mentera.”
Dywedodd Llŷr Roberts, Prif Weithredwr Mentera, am yr ail-leoli,
"Mae’r symudiad hwn i’r Egin yn nodi pennod newydd gyffrous i Mentera. Mae cael ein lleoli yn Yr Egin, canolfan lewyrchus ar gyfer y diwydiannau creadigol, yn agor posibiliadau newydd cyffrous ar gyfer cydweithredu ac arloesi traws-sector, gan wella ymhellach ein gallu i rymuso busnesau Cymru i fod o safon fyd-eang. Rydym yn awyddus i gysylltu â sefydliadau eraill o’r un meddylfryd yn y ganolfan fywiog hon a manteisio ar y cyfleoedd y mae’n eu cyflwyno i gefnogi entrepreneuriaid ymhellach a sbarduno ffyniant economaidd ledled Cymru.”
Mae’r cwmnïau sy’n cydleoli yn Yr Egin yn gyfuniad o wneuthurwyr rhaglenni teledu, theatr, cynnwys fidio a phrofiadau trochol digidol, penseiri a chyhoeddwyr.. Mae’r Egin hefyd yn croesawu cleientiaid yn rheolaidd, sy’n llogi gofodau ac adnoddau’r Egin ar gyfer ffrydio cyfarfodydd arlein a chynnal chynadleddau.
Mae Mentera, oedd yn gweithredu fel Menter a Busnes yn flaenorol, wedi bod yn ymroddedig i helpu entrepreneuriaid Cymreig i dyfu a ffynnu ers blynyddoedd lawer. Trwy gynnig cefnogaeth, cyngor a chanllawiau o safon fyd-eang. Fel rhan o’r symudiad, bydd Mentera’n parhau i gynnig ystod o wasanaethau, gan gynnwys hyfforddiant, mentora, digwyddiadau, a mynediad i grantiau.
Am fwy o wybodaeth am Mentera a’u gwasanaethau, ewch i www.mentera.cymru.
Am ragor o wybodaeth am ofodau swyddfa, cyfleusterau llogi desg a chyfleoedd i logi stafell gyfarfod, gofod cynhadledd neu adnoddau ôl-gynhyrchu yn Yr Egin, ewch i'r wefan yregin.cymru neu cysylltwch drwy anfon e-bost at helo@yregin.cymru.