Canolfan S4C Yr Egin yn cynnal Cynhadledd Marchnata a Chyfathrebu cyntaf Sir Gâr Greadigol.

Mae Canolfan S4C Yr Egin wrthi’n paratoi i gynnal Cynhadledd Marchnata a Chyfathrebu cyntaf Sir Gâr Greadigol.

Bydd y gynhadledd yn cael ei chynnal yn rhithiol ar ddydd Gwener, Mehefin 25ain, lle fydd amrywiaeth o siaradwyr gwadd yn trafod sut i gyrraedd cynulleidfa yng Nghymru a thu hwnt trwy farchnata a chyfathrebu gyda sylw blaenllaw i’r elfennau digidol ac ar-lein. Mae’n ddigwyddiad ar gyfer pobl broffesiynol sy’n gweithio o fewn y byd marchnata a chyfathrebu, ac yn gyfle iddyn nhw ddatblygu, trafod a chlywed syniadau arloesol sy’n ymwneud â chyrraedd cynulleidfaoedd.

Bydd y digwyddiad hefyd yn apelio at berchnogion busnesau o amrywiol feysydd sy’n barhaol edrych am ddatblygu cynulleidfa a darganfod cwsmeriaid yn ogystal ag o fudd i bobl sy’n newydd i’r byd marchnata, fel ffordd i ddatblygu a rhwydweithio gyda chysylltiadau eraill.

Yn ystod y diwrnod bydd dau brif gyflwyniad, y cyntaf gan Owen Derbyshire, Cyfarwyddwr Marchnata a Digidol S4C ar farchnata yng Nghymru ar ôl Covid, a’r llall i gloi'r diwrnod gan Owen Williams o gwmni Siml i drafod bod yn ddewr wrth ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol fel cyfrwng. Bydd dau sesiwn panel yn trafod ‘Rhwydweithio a datblygu busnes yn y maes,’ a ‘Blogio a chreu cynnwys eich hun’. Un o gyflwynwyr Sir Gâr Greadigol, Melanie Owen fydd yn cadeirio’r gynhadledd, ac mae’n edrych ymlaen yn fawr at y digwyddiad.

Meddai Melanie Owen: “Mae wedi bod yn wych cadeirio sesiynau Sir Gâr Greadigol y tymor hwn ac rwyf wedi bod wrth fy modd yn cyfarfod a thrafod gyda phobl mor ddiddorol o’r sector greadigol yng Nghymru. Ni wedi trafod pynciau gwych ym meysydd ffilm, VR, trefnu digwyddiadau, datblygu gyrfa - a nawr dwi’n edrych ymlaen at y diwrnod yma fydd yn ffordd wych i gloi’r gyfres yma o ddigwyddiadau. Fi methu aros i sgwrsio gyda’r cyfranwyr i gyd a chlywed beth sydd ganddyn nhw i’w ddweud.”

Y siaradwyr gwadd fydd yn cymryd rhan yn y gynhadledd fydd, Owen Derbyshire, Cyfarwyddwr Marchnata a Digidol S4C, Owen Williams o gwmni Siml, y blogiwr Jess Davies, Lowri Johnston o gwmni Mesen, Heulwen Davies o Llais Cymru, Manon Wyn James o SYLW, Rebecca Griffiths o Comminique a phennaeth adran farchnata Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, a’r blogiwr hanes Claire Miles.  

Bydd y sesiynau yn gymysgedd o Gymraeg a Saesneg - gyda’r ddau prif gyflwyniadau gyda chyfieithu ar y pryd.

Mae cynnal cynhadledd o’r fath am y tro cynta’ yn destun balchder a chyffro i Ganolfan S4C Yr Egin. Yn ôl Carys Ifan, Cyfarwyddwr Canolfan S4C Yr Egin:  

“Mae sesiynau Sir Gâr Greadigol yn uwcholeuo yr arbenigedd sydd gennym yn y diwydiannau creadigol yma yn Sir Gâr a hefyd ledled Cymru a pa mor hael yw pobl yn rhannu arfer da, cyngor a phrofiad er mwyn i eraill ddatblygu yn y maes. Yr un fydd yn digwydd yn ystod y gynhadledd, sy’n cynnwys rhai o farchnatwyr mwyaf profiadol Cymru, cyfle i gael cyngor o’r radd flaenaf er mwyn gyrru eich busnes a chyrraedd cynulleidfa. Dwi methu aros i glywed ganddynt - ac yn falch i allu cynnig hyn trwy Hwb Ffocws Caerfyrddin a’r cyfan wedi ei ariannu.”

Mwy o wybodaeth

Cynhelir y gynhadledd ar y 25ain o Fehefin o 10.30 tan 3.30pm. Trefn y diwrnod fydd:

Sesiwn 1: Cyfryngau Cymru - Marchnata ar ôl Covid | Welsh Media - Post Covid Marketing (Cymraeg gyda chyfieithu ar y pryd / Welsh with English translation)  Cyfryngau Cymru – Marchnata ar ôl Covid  | Welsh Media – Post Covid Marketing (Welsh with English simultaneous translation)

10.30 – 11.30am

Owen Derbyshire, Cyfarwyddwr Marchnata a Digidol S4C / S4C Marketing and Digital Director

Sesiwn 2:  Rhwydweithio a datblygu busnes yn y maes (Cymraeg / Welsh)

11.45 – 12.30

Panel drafod yng nghwmni / Panel session with; Lowri Johnston (Mesen), Heulwen Davies (Llais Cymru), Manon James (SYLW), Rebecca Griffiths (Communique)

Sesiwn 3: House 21  –  Blogio a chreu cynnwys eich hun / Blogging and creating your own content  (Saesneg / English)

13.00 – 13.45

Panel drafod yng nghwmni / Panel session with; Jess Davies a Claire Miles

Sesiwn 4: Be Brave - The Art Of Going Viral / Byddwch yn ddewr - Y Grefft o fynd yn Feiral (Dwyieithog gyda chyfieithu ar y pryd / Bilingual with translation)

14.00 – 15:30

Owen Williams, Siml

Cofrestru: https://www.eventbrite.co.uk/e/cynhadledd-marchnata-a-chyfathrebu-marketing-and-comms-conference-tickets-159441418575?aff=YrEginLM

Tanysgrifiwch i'n Cylchlythyr

Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyrau i dderbyn y newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau sydd ar ddod. 

Rydych chi wedi tanysgrifio yn llwyddiannus!