Swydd Cynorthwyydd Arlwyo a Chynadledda

Mae Canolfan S4C Yr Egin wedi'i lleoli ar gampws Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin ac mae'n ganolfan greadigol o safon gydag amgylchedd gwaith prysur. Ers agor yn 2018, mae statws Yr Egin wedi'i sefydlu yn adnodd gwerthfawr i Gaerfyrddin, Sir Gaerfyrddin a Chymru.

Mae Y Gegin, y caffi sydd wedi'i leoli ar y llawr gwaelod, yn ofod agored a chroesawgar ac yn rhan bwysig o fywiogrwydd y ganolfan, a bydd y Cynorthwyydd Arlwyo a Chynadledda yn Y Gegin yn chwarae rhan bwysig wrth gynnal awyrgylch cynnes y caffi er mwyn denu a chadw ymwelwyr â'r Egin.

Bydd yn ofynnol i ddeiliad y swydd baratoi coffi a diodydd poeth arbenigol, a gweini prydau o ansawdd uchel, gan ddarparu gofal cwsmeriaid effeithiol a fydd yn ategu datblygiad Yr Egin yn ddewis gyrchfan yng Nghaerfyrddin. Mae gan Y Gegin sylfaen eang o gwsmeriaid megis y gymuned greadigol sy'n gweithio yn y ganolfan, cynulleidfaoedd digwyddiadau a chynadleddwyr yn y Brifysgol, myfyrwyr a staff, yn ogystal â'r gymuned leol, teuluoedd ac ymwelwyr, ac felly bydd angen i'r Cynorthwyydd Arlwyo a Chynadledda yn Y Gegin allu cyfathrebu'n gwrtais a chynnig profiad a fydd yn annog y cwsmer i ddychwelyd dro ar ôl tro.

  • Prif Leoliad: Canolfan S4C Yr Egin, Caerfyrddin
  • Cyflog: £13.45 yr awr
  • Dyddiad Cau: 03.11.26

*Mae’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.*

Cliciwch y ddolen yma i ddarllen y swydd ddisgrifiad llawn ac i ymgeisio am y swydd - Swyddi Gwag

Tanysgrifiwch i'n Cylchlythyr

Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr i dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf a newyddion Yr Egin. 

Rydych chi wedi tanysgrifio yn llwyddiannus!