Hyb Cysylltwr i hybu twf economaidd yn Sir Gâr a Cheredigion

Mewn symudiad sylweddol tuag at feithrin datblygiad economaidd a dathlu’r Gymraeg fel ased economaidd bywiog, mae GlobalWelsh, mewn partneriaeth â’r asiantaeth prosiectau creadigol Sgema, wedi cyhoeddi lansiad Hyb Cysylltwr GlobalWelsh Sir Gâr a Cheredigion.

Nod y fenter hon yw ysgogi twf economaidd ac adfywio ar draws rhanbarth Sir Gâr a Cheredigion drwy gysylltu busnesau lleol â rhwydwaith byd-eang o filoedd o aelodau o Gymry alltud ar draws mwy na 70 o wledydd a 120 o ddiwydiannau sydd â sgiliau, gwybodaeth a rhwydweithiau i’w rhannu.

Mae Hyb Cysylltwr GlobalWelsh Sir Gâr a Cheredigion yn ofod digidol, a gynhelir ar GlobalWelsh Connect, ei lwyfan ymgysylltu cymunedol digidol, a gynlluniwyd i wasanaethu fel pont ddeinamig rhwng economïau lleol Sir Gâr  a Cheredigion a’r gymuned Gymreig fyd-eang. Trwy GlobalWelsh, mae’r fenter yn cynnig mynediad digynsail i fusnesau i fasnach ryngwladol, cyfleoedd buddsoddi, a phrosiectau cydweithredol. Nod yr Hyb Cysylltwr yw gosod y rhanbarth fel arweinydd ym maes datblygu economaidd byd-eang a chyfnewid diwylliannol.

Mae Walter May, Prif Swyddog Gweithredol GlobalWelsh, yn pwysleisio pwysigrwydd y fenter i frwydro yn erbyn draen dawn:

“Er ei bod yn wir bod Cymru’n wynebu heriau o ran creu hunaniaeth fyd-eang unigryw a chystadlu am fewnfuddsoddiad o fewn y DU, mae’n bryd i ni harneisio potensial ein hased mwyaf – y Cymry alltud. Gyda mwy na thair miliwn o unigolion yn fyd-eang, mae ein Cymry alltud yn cynrychioli llu o eiriolwyr heb eu cyffwrdd sy’n barod i godi proffil Cymru ar lwyfan y byd.

“Mae meithrin cysylltiadau cryfach â’r gymuned hon yn golygu nad ydym yn atal y llanw o ‘ddraen dawn’ yn unig, rydym yn ei drawsnewid yn ‘enillion dawn’. Mae’r fenter hon yn ymwneud â chyflwyno Cymru’n fyd-eang, arddangos ein tirwedd fusnes arloesol, a manteisio ar y cyfleoedd byd-eang sy’n gyrru ein heconomi yn ei blaen.”

Fel rhan o’r fenter hon, bydd busnesau yn Sir Gâr a Cheredigion sy’n gweithio’n ddwyieithog yn cael cynnig aelodaeth am ddim am flwyddyn i GlobalWelsh Connect a’r Hyb Cysylltwr. Mae’r aelodaeth hon yn darparu mynediad i amrywiaeth o nodweddion rhyngweithiol ar lwyfan GlobalWelsh Connect, gan gynnwys y gallu i gyflwyno galwadau am gymorth, dod o hyd i aelodau o’r un anian yn fyd-eang a chysylltu â nhw, a chael mynediad at gyfoeth o adnoddau a chyfleoedd ar gyfer twf personol a phroffesiynol.

Wrth sôn am y prosiect, tynnodd Meilyr Ceredig, Cyfarwyddwr Sgema sy’n cynnal y prosiect, sylw at yr ymdrech gydweithredol y tu ôl i’r fenter hon:

“Gyda chefnogaeth Cronfa Her ARFOR, mae Sgema yn falch o gydweithio â phartneriaid allweddol ar y prosiect peilot hwn. Ein nod yw cysylltu entrepreneuriaid Cymreig rhyngwladol â busnesau yn Sir Gâr  a Cheredigion, gan greu rhwydwaith ffyniannus sy’n hyrwyddo twf economaidd a threftadaeth ddiwylliannol. Mae’r prosiect hwn trwy lwyfan GlobalWelsh yn rhoi’r cyfle hwnnw i gysylltu.”

Un o bartneriaid allweddol y prosiect yw Yr Egin (Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant). Wrth sôn am eu rhan dywedodd Carys Ifan, Cyfarwyddwr Yr Egin:

“A ninnau’n ganolbwynt ar gyfer creadigrwydd ac arloesedd digidol, mae’r Egin yn llawn cyffro i fod yn rhan o’r prosiect Hyb Cysylltwr. Mae’r bartneriaeth hon yn agor byd o gyfleoedd i fusnesau yn Sir Gâr a Cheredigion, gan gynnig llwyfan unigryw iddynt gysylltu â chymuned fyd-eang sy’n angerddol dros Gymru a’i rhagolygon economaidd.

“Rydyn ni’n credu y bydd y cydweithio hwn nid yn unig yn gwella amlygrwydd busnesau lleol ar y llwyfan rhyngwladol ond hefyd yn atgyfnerthu rôl diwylliant a’r iaith Gymraeg fel ysgogwyr allweddol datblygiad economaidd.”

Am ragor o wybodaeth ac i gofrestru, cysylltwch â: post@sgema.cymru

DIWEDD –

Gwybodaeth am GlobalWelsh: Sefydliad nid-er-elw yw GlobalWelsh sydd wedi ymrwymo  i adeiladu cymuned fyd-eang gyda Chymru yn ganolog iddi. Ei nod yw creu cysylltiadau ystyrlon, manteisio ar adnoddau a rennir, a helpu buddsoddiad a chyfleoedd busnes i ffynnu, a’r cyfan wrth ddathlu llwyddiant Cymru a chysylltu’r gymuned Gymreig fyd-eang.

Gwybodaeth am y Partneriaid: Mae prosiect Hyb Cysylltwr ARFOR yn gydweithrediad rhwng GlobalWelsh, Sgema, Yr Egin (Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant). Gyda’i gilydd, mae’r partneriaid hyn yn gweithio i hybu twf economaidd a’r Gymraeg drwy fentrau arloesol.

I ddysgu mwy ewch i: Hyb Cysylltwr Sir Gâr a Cheredigion.

Tanysgrifiwch i'n Cylchlythyr

Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyrau i dderbyn y newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau sydd ar ddod. 

Rydych chi wedi tanysgrifio yn llwyddiannus!