Cyfarwyddwr Canolfan S4C Yr Egin yn derbyn cydnabyddiaeth yng Ngwobrau Dathlu Diwylliant Cyngor Sir Gâr

Mae Cyfarwyddwr Canolfan S4C yr Egin, Carys Ifan wedi derbyn cydnabyddiaeth am ei rhagoriaeth yn y Cyfryngau Creadigol yn seremoni Gwobrau Dathlu Diwylliant Sir Gaerfyrddin a gynhaliwyd o dan nawdd Cyngor Sir Gâr yn Theatr y Ffwrnes, Llanelli, yr wythnos hon.

Mae’r seremoni wobrwyo Dathlu Diwylliant yn digwydd yn flynyddol er mwyn cydnabod y rheiny sy’n cyfoethogi bywydau drwy gerddoriaeth, y celfyddydau, y cyfryngau, llenyddiaeth a threftadaeth.  

Agorodd Yr Egin yn swyddogol ym mis Hydref 2018 gyda digwyddiad torfol oedd yn brofiad creadigol o’r radd flaenaf yn cyfuno goleuni'r cyfnod newydd gyda hud a dewiniaeth Myrddin a thre hynaf Cymru, hynny oll o dan arweiniad artistig Carys Ifan. Ers hynny mae’r Egin wedi gwreiddio yn nhir a daear Sir Gâr gan effeithio’n gadarnhaol ar ffyniant economaidd yr ardal. Trwy arweinyddiaeth Carys y datblygiad mwyaf arwyddocaol a fu ynghlwm â’r fenter fu creu cymuned greadigol fyrlymus sy’n ganolbwynt i ddiwydiannau creadigol y sir.

I Carys, mae derbyn clod o’r fath yn fraint o’r mwya’. Dywedodd: “Mae cydnabyddiaeth bob amser yn beth braf ac rwyf wrth fy modd yn derbyn y wobr hon. Bellach mae 4 mlynedd ers i mi gael fy mhenodi yn Gyfarwyddwr Canolfan S4C Yr Egin, rwyf wrth fy modd yn arwain y prosiect trawsnewidiol a gweld yn barod yr effaith mae wedi ei gael ar Sir Gâr a’r rhanbarth er waetha heriau’r pandemig. Mae’r rôl yn cyfuno fy mhrofiad o weithio ym myd teledu, theatr a digwyddiadau byw gyda fy angerdd i greadigrwydd y gorllewin ffynnu gan gyfrannu at greu cymunedau bywiog gyda’r Gymraeg yn rhan naturiol o’n diwylliant boed hynny wyneb i wyneb neu ar-lein.  

“Pleser yw cydweithio gyda’r holl gwmnïau ac unigolion sydd wedi cydleoli yn Yr Egin, sicrhau llwybrau i’r diwydiant a chyfleon profiad gwaith ar gyfer talent newydd yn ogystal â datblygu prosiectau uchelgeisiol digidol a rhithwir yma yn Sir Gâr. Mae derbyn y wobr ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod yn ei wneud yn fwy arbennig eto ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at y cyfnod nesa ac arloesi pellach.”

Meddai Gwilym Dyfri Jones, Profost Campws Caerfyrddin a Llambed: “Mae’r Brifysgol yn ymfalchïo yn llwyddiant Carys ac yn gwerthfawrogi’n fawr y gwaith rhagorol sydd wedi digwydd yn Yr Egin o dan ei harweiniad. Sefydlwyd Yr Egin yn ganolfan greadigol fyrlymus a lwyddodd i ymgysylltu’n rhagorol â’r gymuned leol ac ar lefel genedlaethol. Er yr heriau diweddar, mae Carys a’r tîm wedi llwyddo i gynnal a chefnogi’r gymuned o fewn Yr Egin a braf yw gweld y ganolfan yn llawn bwrlwm unwaith yn rhagor erbyn hyn.”

Bwriad y digwyddiad yw tynnu sylw at bwysigrwydd diwylliant Sir Gaerfyrddin, yn ogystal ag arddangos yr hyn sy’n cael ei gyflawni ym mhob rhan o’r sir. Tanlinellwyd pwysigrwydd Yr Egin i gyfryngau’r rhanbarth gyda’r tri o’r rhai oedd yn deilwng yn y categori Rhagoriaeth yn y Cyfryngau Creadigol yn ymwneud â’r Egin sef Sam Turton o gwmni Whisper Cymru a Chlwb Asbri sy’n rhoi cyfle i bobl ifanc ddysgu a defnyddio sgiliau ffilmio a chreu cynnwys digidol. Anrhydeddwyd hefyd Miriam Hughes, myfyrwraig Gwneud Ffilmiau Antur yn y flwyddyn gyntaf am ei llwyddiant yn y categori Rhagoriaeth yn y Celfyddydau Gweledol a Chrefftau. Mae’r Brifysgol yn dymuno llongyfarch pawb a fu’n gysylltiedig gyda’r gwobrau ac a dderbyniodd glod mor haeddiannol.

Tanysgrifiwch i'n Cylchlythyr

Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyrau i dderbyn y newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau sydd ar ddod. 

Rydych chi wedi tanysgrifio yn llwyddiannus!