DIGWYDDIAD
Byd Bach Ni: Plantos Prysur
09 Awst 2023
11:30
Yr Egin
* SESIYNAU 11:30YB + 3YP *
Dewch i fwynhau sesiwn 'Stori Swynol', fydd yn mynd â phlant ar daith i ddarganfod byd dychmygol drwy ganu, actio a chwarae creadigol. Mae'r sesiwn yn addas i blantos prysur rhwng 1.5 a 4 mlwydd oed.
Bydd y sesiynau yng ngofal Sioned o 'Byd Bach Ni' ac mi fydd pris tocyn yn cynnwys coffi neu paned i'r rhiant / gofalwr.
Dim ond tocyn ar gyfer eich plentyn sydd eisiau archebu.