DIGWYDDIAD
Deian a Loli a chloch y Nadolig (Cyhoedd/ Public)
18 Rhagfyr 2023 - 20 Rhagfyr 2023
16:30
Yr Egin
Mae’r Ŵyl yn anodd i bawb eleni, yn enwedig Mam, gan ma’i hon ydi’r Nadolig cynta’ heb Taid. A mae beryg i betha’ gwaethygu wrth i’r efeilliaid dorri cloch Nadolig Taid. Os na nawn nhw ei thrwsio hi, fydd Nadolig Mam wedi ei ddifetha’n llwyr! Pwy sydd yn dda am drwsio petha? Corachod Siôn Corn wrth gwrs! Dewch ar antur gyda’r efeilliaid drygionus a chyfarfod â llu o ffrindiau arbennig iawn, a chawn weld os fydd hi’n Nadolig Llawen eleni!
Ar ôl y ffilm bydd cynnig i blant ymweld a Siôn Corn.