DIGWYDDIAD
Parti Mawr Mis Mai
06 Mai 2024
13:00
Yr Egin
MAE PARTI MAWR MIS MAI YN ÔL!
Dewch i fwynhau llond lle o weithgareddau i’r teulu oll ar Ŵyl Banc Mai- a hynny an ddim!
- Sesiynau canu a dawnsio yng nghwmni Elin a Dafydd Cyw!
- Ymweliadau gan Cyw a Sali Mali
- Sesiynau triciau Syrcas gyda Organised Kaos
- Sesiynau celf a chrefft
- Congl ddigidol
- A mwy!
Archebwch docynnau i ymuno â Elin a Dafydd yn canu am :
10:00
11:30
13:00
14:30
*Nodwch - bydd angen i bawb archebu tocyn rhiant / warchodwr a plentyn/ plant i gael mynediad i berfformiad Elin a Dafydd (Cyw) yn Y Stiwdio Fach.*
Mi fydd y caffi ar agor ar gyfer bwyd, cacennau a diodydd blasus!
Mae'r digwyddiad yma'n addas ar gyfer dysgwyr ac yn gyfle gwych ymarfer eich Cymraeg mewn awyrgylch hwylus.
bydd lluniau'n cael eu tynnu yn ystod y diwrnod er mwyn dogfennu a rhannu'r digwyddiad ar ein gwefan a'n sianeli cyfryngau cymdeithasol. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch y defnydd o'ch delwedd, rhowch wybod i ni ymlaen llaw.
Edrychwn ymlaen at eich gweld yn y Parti!