DIGWYDDIAD
Ffenast Siop - Theatr Bara Caws
22 Mai 2024
19:30
Yr Egin
“Ma menopos ‘di rhoi sbectol o wirionedd yn sownd ar y nhrwyn i, jysd weithia ma hi'n stemio.”
Sioe un ddynes am Delyth yn ffeindio ei ffordd mewn bywyd yn sgil y menopos. Chwerthin, harthio, edliw a cholli deigryn - mi gewch chi’r cyfan.
Ymunwch â ni ar y daith arbennig hon, ac mae croeso i bawb, achos nid mater i ferched yn unig ydi'r menopos.
Bydd cyfle euraidd i’r rheini ohonoch sydd yn dymuno gwneud hynny, leisio eich profiadau peri-menoposal, menoposal ac o fod yn ferch mewn sgwrs wedi’r perfformiad.
Meddai Iola: “Da ni'n dwy wedi dysgu bod chwerthin yn ffordd o lacio'r poen a'r ofn. Dyma gewch chi yn y sioe ac yn y sgwrs gobeithio!”
Ac i goroni’r cyfan bydd Mirsi hefyd yn ymuno â ni yn yr Egin gyda siop ‘pop up ’- felly dyma gyfle gwych i chi gael noson allan o chwerthin ymysg ffrindiau, i rannu profiadau ac i wneud mymryn o siopa. Beth allai fod yn well?
Cast : Carys Gwilym Cyfarwyddo : Iola Ynyr Awduron : Iola Ynyr a Carys Gwilym
Cerddor : Osian Gwynedd
Technegydd : Llywelyn Roberts
Cynllunydd : Lois Prys